Archifau Tag 70th Llangollen International Musical Eisteddfod.

Ymweliad arbennig meibion sefydlydd gŵyl eiconig i’r 70ain Eisteddfod

Mae meibion sylfaenydd yr ŵyl eiconig wedi gwneud ymweliad emosiynol fel gwesteion arbennig i 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Bu’r ddau frawd, Peter a Selwyn Tudor yn ymweld â’r digwyddiad ddydd Gwener, a chawsant eu croesawu gan lywydd yr Eisteddfod, Terry Waite CBE a’r cadeirydd, Rhys Davies, ac fe arhosodd Selwyn a’i deulu i’r cyngerdd ar y nos Wener.

Mae gan y ddau atgofion hapus o’u tad, Harold Tudor, a chysylltiadau eu teulu â’r digwyddiad hanesyddol, gyda’r mab ieuengaf, Selwyn, yn cofio’r foment y cafodd ei ddiweddar dad ei ysbrydoli i greu’r digwyddiad cyntaf ym 1947, digwyddiad sydd wedi dod yn symbol o heddwch a dealltwriaeth ryngwladol.

Ar ddiwedd y 1940au roedd gan y newyddiadurwr Cymraeg, Harold Tudor, weledigaeth o greu digwyddiad diwylliannol mawreddog yn Llangollen, er mwyn helpu i leddfu creithiau’r Ail Ryfel Byd.

Dywedodd Selwyn, sydd bellach yn 81 oed ac yn byw yn West Heath, Birmingham, bod y freuddwyd wedi datblygu un bore pan oedd ef a’i dad ar daith feiciau un bore dydd Sul yn y bryniau ger eu cartref yng Nghoedpoeth.

Dywedodd: “Roeddem wrth ein boddau yn mynd allan ar ein beiciau ar y lonydd gwledig ac un dydd Sul ar ddiwedd 1945 neu 1946 gwelsom fachgen ifanc tua 11 neu 12 oed – yr un oed â mi ar y pryd – yn cerdded atom dros grib bryn yn canu nerth esgyrn ei ben.

“Aeth heibio i ni ac fe wnaethom ei wylio nes iddo fynd o’n golwg.

“Y profiad o weld y bachgen yma yn gwneud ei hun mor hapus yn canu a roddodd y syniad i dad ddechrau’r Eisteddfod, ac roedd bob amser yn dweud wrthyf wedyn mai dyma oedd y foment y dechreuodd y syniad felly roeddwn i yno ar y dechrau.”

Ychwanegodd Selwyn, a ddaeth i Langollen gyda’i wraig, Ann, ei ferch Susan, ei fab-yng-nghyfraith Vincent a’i wyres Caitlin: “Mae wedi bod yn wych bod yma eto gyda fy nheulu.

“Rwyf wrth fy modd yn cerdded o amgylch y cae. Mae’r awyrgylch yma yn drydanol ac eleni yn arbennig roedd nifer fawr o bobl yn fy adnabod a chefais fy synnu gan hyn – roedd Terry Waite hyd yn oed yn fy nghofio.

Selwyn ac Ann Tudor yn y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol gyda’u merch Susan, eu mab-yng-nghyfraith Vincent a’u hwyres Caitlin

Selwyn ac Ann Tudor yn y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol gyda’u merch Susan, eu mab-yng-nghyfraith Vincent a’u hwyres Caitlin

“Ni wnaf fyth anghofio fy ymweliad cyntaf i’r cae hwn yn 2004, cefais ias i lawr fy nghefn, ac mae hyn wedi digwydd eto heddiw.

“Mae ein hwyres, Caitlin, yma ac mae’n chwarae’r ffliwt, felly efallai y bydd yn dod yma i gystadlu rhyw ddydd.

Roedd ei frawd hŷn, Peter, sydd bellach yn 84 oed, ac sy’n byw yn Stone yn Swydd Stafford yno hefyd, ac mae’n cofio’r cyffro oedd yn cael ei greu wrth i gystadleuwyr o bob rhan o Ewrop ddechrau casglu ynghyd yn yr ŵyl gyntaf yn y dref fach yn Sir Ddinbych yn ystod haf 1947.

Dywedodd: “Roedd fy nhad yn dod yn wreiddiol o Dan-y-fron, ger Coedpoeth, ac ar ôl mynychu Ysgol Grove Park yn Wrecsam, dechreuodd weithio fel is-olygydd i bapurau newydd y Post a’r Echo yn Lerpwl.

“Yn ystod yr Ail Ryfel Byd daeth yn aelod o’r Cyngor Prydeinig, sefydliad a oedd yn arbenigo mewn cyfleoedd addysgol a diwylliannol rhyngwladol.

“Cafodd y syniad o gynnal digwyddiad rhyngwladol o gantorion a dawnswyr ac roedd yn amlwg yn llawn perswâd ac fe weithiodd yn galed iawn i’r syniad gael ei dderbyn. Fe lwyddodd yn y pen draw, a chafodd Llangollen ei ddewis fel lleoliad delfrydol, a chafodd fy nhad ei benodi yn gyfarwyddwr anrhydeddus cyhoeddusrwydd.”

Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn wych gweld pobl yn parhau i ddod i Langollen o bob rhan o’r byd a gallu cwrdd â hwy a siarad gyda hwy.

“Nid oedd ei gyfraniad yn sefydlu’r Eisteddfod Ryngwladol yn hysbys iawn ond mae wedi derbyn cydnabyddiaeth well yn fwy diweddar. Rwyf yn sicr yn falch iawn o’r hyn a wnaeth.”

Dywedodd Cadeirydd yr Eisteddfod Rhys Davies: “Mae wedi bod yn wych gweld Peter a Selwyn yn yr ŵyl unwaith eto eleni – mae eu tad wedi gadael etifeddiaeth fendigedig a pharhaol gyda’r digwyddiad gwych hwn.

“Roedd Harold Tudor yn ŵr gyda gweledigaeth wych ac mae gan yr Eisteddfod a’r bobl, nid yn unig yma yn Llangollen, ond ar draws y byd, lawer i ddiolch iddo amdano.”

Y seren opera Bryn Terfel yn ymuno â’r plant mewn gweithdy cerdd Eisteddfod

Mae’r seren opera byd-enwog Bryn Terfel wedi bod yn canu mewn cytgord â phobl ifanc drwy gael hwyl gyda cherddoriaeth yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Gan gymryd seibiant o’r ymarferion ar gyfer Cyngerdd Gala Clasurol yr Eisteddfod, talodd Bryn ymweliad sydyn â’r babell lle’r oedd sefydliad gofal nodedig Parc Pendine yn cynnal bore o weithdai cerddorol fel rhan o weithgareddau Diwrnod y Plant yr ŵyl.

(rhagor…)

Yr ymgyrchydd nodedig dros heddwch Terry Waite yn dadorchuddio plac ar safle Eisteddfod gyntaf Llangollen

Ar ddiwrnod cyntaf 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen hanesyddol, dadorchuddiodd ei lywydd, sef yr ymgyrchydd heddwch nodedig, Terry Waite blac ar y maes lle cynhaliwyd yr ŵyl am y tro cyntaf.

Llwyfannwyd Eisteddfod 1947 ar beth yw cae chwarae Ysgol Dinas Brân yn Llangollen erbyn hyn. Ei nod oedd helpu lleddfu creithiau’r Ail Ryfel Byd a orffennodd dim ond ddwy flynedd yng nghynt.

(rhagor…)