Archifau Tag Choir of the World

Grŵp o’r UDA yn cipio teitl ‘Côr y Byd’

Daeth wythnos wych o gystadlu i ben gyda brwydr gyffrous am deitlau ‘Côr y Byd’ a ‘Pencampwyr Dawns y Byd’

Fe ddaeth dathliadau pen-blwydd 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i uchafbwynt cyffrous neithiwr [nos Sadwrn 8fed Gorffennaf] wrth i ddau grŵp rhyngwladol ennill prif gystadlaethau’r ŵyl.

Wedi rownd derfynol safonol iawn, côr The Aeolians o Brifysgol Oakwood gipiodd y teitl mawreddog Côr y Byd a’r grŵp dawns o Ogledd Iwerddon, Loughgiel Folk Dancers, gafodd eu coroni’n Bencampwyr Dawns y Byd.

(rhagor…)

Cantorion Sex and the City yn dod â sbarc gerddorol i Langollen

Mae un o grwpiau lleisiol enwocaf y byd sydd wedi rhoi rhywfaint o sbarc cerddorol i’r gyfres deledu boblogaidd Sex and the City ar ei ffordd i ogledd Cymru.

Mae grŵp enwog y Swingles wedi bod yn difyrru cynulleidfaoedd ledled y byd ers 1962 a bydd cantorion presennol y grŵp yn ymddangos ar y llwyfan yn ystod cystadleuaeth fawreddog Côr y Byd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar ddydd Sadwrn, 9 Gorffennaf. (rhagor…)

Y corau o Galiffornia ar drywydd yr Aur yn Llangollen

Mae côr sydd wedi canu gyda grŵp y Rolling Stones ymhlith corau o Galiffornia sydd ar eu ffordd i Langollen yr haf hwn i chwilio am aur.

Bydd pedwar o brif gorau Califfornia – Talaith yr Aur, yn rhuthro i’r dref fechan hon yng Ngogledd Cymru ym mis Gorffennaf eleni i ymrysona ar gân er mwyn darganfod yr aur y maen nhw’n eu honni sydd ym mryniau Gwlad y Gân.

Mae’r bri enfawr sydd i gystadleuaeth Côr y Byd a chystadlaethau corawl eraill yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi denu’r corau i deithio dros 5,000 o filltiroedd i Gymru ar gyfer yr ŵyl, sy’n dathlu ei 70ain Eisteddfod eleni.

(rhagor…)

Y côr cyntaf erioed i ganu yn Llangollen yn paratoi ar gyfer ymweliad hanesyddol

Mae’r côr cyntaf erioed i ganu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn bwriadu gwneud ymweliad hanesyddol â’r ŵyl wrth iddi ddathlu ei 70ain Eisteddfod.

Dros y blynyddoedd mae Côr Meibion ​​Colne Valley, o ardal Huddersfield yn Lloegr, wedi cipio chwe gwobr gyntaf yn yr ŵyl hanesyddol, yn ogystal â phump ail wobr a dwy drydedd gwobr – er na chawson nhw lwyddiant yn ôl yn 1947.

Y côr 70 aelod, a sefydlwyd yn Slaithwaite yn 1922, oedd y cyntaf i gamu ar lwyfan yr Eisteddfod yn 1947 gan gystadlu yn erbyn y côr buddugol o Hwngari, a chorau o Sbaen, yr Eidal, Denmarc a’r Iseldiroedd yn ogystal â Chymru a Lloegr.

(rhagor…)