Archifau Tag Llangollen International Musical Eisteddfod

Jools Holland Yn Agor Eisteddfod Llangollen 2019

Cafodd cynulleidfa Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ei diddanu gyda pherfformiad egnïol gan y perfformiwr a ffrind oes i’r Eisteddfod, Jools Holland ar noson agoriadol yr ŵyl.

Am y 73ain flwyddyn yn olynol, mae’r ŵyl yn addo wythnos o gerddoriaeth safonol gan berfformwyr fel y tenor clasurol Rolando Villazón, Gipsy Kings, a’r grŵp indie The Fratellis – ond priodol iawn oedd mai Is-lywydd yr Eisteddfod, Jools Holland, oedd y perfformiwr cyntaf ar y rhaglen.

(rhagor…)

#EichLlangollen: Digwyddiad codi arian

Mae Eisteddfod Llangollen yn gwahodd pobl i ddathlu lansiad ei hymgyrch codi arian #EichLlangollen fel rhan o Wythnos Genedlaethol Codi Arian (20fed – 24ain  o Fai) gyda digwyddiad am ddim yn Sgwâr Canmlwyddiant y dref ar ddydd Sadwrn 25ain o Fai rhwng 11yb-4yp.

Nod #EichLlangollen yw codi ymwybyddiaeth o statws elusennol yr Eisteddfod Ryngwladol a pha mor hanfodol yw rhoddion i gynnal yr ŵyl unigryw hon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

(rhagor…)

Treuliwch benwythnos gŵyl gerddoriaeth mewn steil wrth i Glampio ddod i Lanfest

O’r 6ed i’r 8fed o Orffennaf, gall ymwelwyr brofi penwythnos yr ŵyl mewn steil wrth i Glampio ddod i Llanfest am y tro cyntaf. Mewn partneriaeth â’r Red Sky Tent Company, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnig gwersylla moethus dros benwythnos yr ŵyl ar gyfer Llanfest – ei gŵyl gerddoriaeth undydd sy’n cael ei chynnal ar ddydd Sul y 7fed o Orffennaf. Bydd Pentref Gwersylla Boutique newydd sbon Llanfest yn cynnig glampio moethus dafliad carreg o’r holl gyffro ar safle Pafiliwn yr ŵyl yng nghanol Llangollen, Gogledd Cymru.

(rhagor…)

‘Cavern Club’ Lerpwl yn dychwelyd i Langollen

Mae gŵyl haf wythnos o hyd gogledd Cymru, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, wedi cyhoeddi y bydd clwb cerddoriaeth enwocaf y byd, sef ‘Cavern Club’ Lerpwl, yn dychwelyd i’r ŵyl eto eleni.

Ar ôl trefnu ei lwyfan dros dro cyntaf erioed yn  Eisteddfod Ryngwladol y llynedd, mae’r clwb o Lerpwl yn dychwelyd i ddiddanu cynulleidfaoedd ym mharti olaf yr ŵyl, Llanfest, ar ddydd Sul y 7ed o Orffennaf.

(rhagor…)

Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn helpu Eisteddfod Llangollen i greu Archif o’i Gorffennol

Heddiw, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi derbyn grant gwerth  £19,900 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer prosiect treftadaeth cyffrous, Archifo’r Gorffennol. Mae’r prosiect yn bosib diolch i’r arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, a’r gobaith yw mai dyma fydd y cam cyntaf i gasglu a digideiddio’r cyfoeth o ddeunydd archif sy’n ymwneud ag Eisteddfod Llangollen, fel y gall pawb ei fwynhau.

Gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd y prosiect yn galluogi Eisteddfod Llangollen i gyflogi archifydd a fydd yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a phlant o Ysgol Dinas Brân i ddod â hanes Eisteddfod Llangollen yn fyw. Bydd y gwaith yn cynnwys datblygu system archifau ar-lein cynaliadwy ac ymestynnol, adnoddau addysgol ac arddangosfeydd i’w defnyddio yn y gymuned a ffilm fer am hanes Eisteddfod Llangollen.

(rhagor…)

Parêd y Cenhedloedd yn teithio’r rhanbarth

I dorri traddodiad mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi mynd â Pharêd y Cenhedloedd i strydoedd trefi a dinasoedd yn y rhanbarth.

Mae’r parêd sy’n ‘garnifal bywiog o ddiwylliannau’ blynyddol yn cynnwys berfformwyr yn chwifio baneri sy’n cynrychioli eu cenedl. Mae bob amser wedi cael ei gynnal yn nhref unigryw Llangollen, sef cartref yr Ŵyl. Am y tro cyntaf yn hanes yr ŵyl, bu gwirfoddolwyr yn cerdded strydoedd Lerpwl, Caer, Wrecsam a Croesoswallt i ddathlu lansio rhaglen ddyddiol hwyliog yr Eisteddfod Ryngwladol.

(rhagor…)