‘Dweud stori eich cymuned yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen y flwyddyn nesaf’

Yn dilyn prosiect peilot llwyddiannus iawn yn 2024, yn cynnwys tri grŵp cymunedol, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen bellach yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan gymunedau ledled Cymru i gymryd rhan yn y cam nesaf.
Mae’r prosiect hwn o’r enw Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol Cymru yn cael ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, wedi’i greu i fwrw golwg ar natur amlddiwylliannol ac amlieithog y Gymru fodern ac i ddatgloi potensial creadigol cymunedau sy’n byw yng Nghymru. Mae’r prosiect yn adlewyrchu treftadaeth gyfoethog Eisteddfod Llangollen ac yn cyd-fynd ag uchelgais y sefydliad o ddefnyddio’r celfyddydau a diwylliant i ddod â gwahanol gymunedau ynghyd mewn ysbryd o heddwch a chyfeillgarwch.
Rydym yn chwilio am grwpiau a chymunedau amrywiol yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol yng Nghymru sy’n dymuno rhannu eu straeon gyda Chymru a’r Byd, gan ddefnyddio cerddoriaeth, dawns a llenyddiaeth. Bydd y 6 ymgeisydd llwyddiannus yn llwyfanu eu perfformiadau yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 2025.
Gan weithio gyda phartneriaid allanol fel Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, partneriaid proffesiynol eraill ac artistiaid llawrydd, bydd gan bob un o’r chwe grŵp fynediad at gymorth arbenigol gyda’u sgiliau a’u huchelgais i adrodd straeon, gyda rhywfaint o gymorth ariannol i’w helpu i arddangos eu cynyrchiadau yn Llangollen ym mis Gorffennaf 2025.
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle gwych hwn i gynrychioli eich cymuned ar lwyfan byd-eang, yn barod i arbrofi gyda gwahanol ffurfiau celfyddydol, eisiau perfformio yn eich iaith eich hun a gweithio gyda’ch cymuned eich hun i adrodd eich stori unigryw – a chael eich cefnogi a’ch ysbrydoli gan arbenigwyr ar hyd y ffordd – yna gwnewch gais gan ddefnyddio’r ffurflen electronig ar y dudalen hon.
Bydd arweinwyr y prosiect yn darparu’r holl gefnogaeth a chymorth sydd ei angen arnoch – y cyfan sydd ei angen arnom yw syniad creadigol gan eich grŵp a fydd yn cynrychioli cymuned amlddiwylliannol, amlieithog ac amrywiol yng Nghymru ac ymrwymiad i amserlen â fydd yn cynnwys ymarferion o Ionawr 2025 ymlaen, perfformiad cymunedol ar ddechrau’r haf a digwyddiad â fydd yn cael ei lwyfannul yn Eisteddfod Llangollen ddydd Mercher y 9fed o Orffennaf, 2025.
Grwpiau Cymunedol 2024