Yr Eisteddfod Ryngwladol Gyntaf 1947: ffilm newyddion Movietone

Mae wyth munud ac ugain eiliad y ffilm hon yn gofnod clyweledol unigryw o’r ŵyl gyntaf yn 1947. Ynddi mi fyddwch yn gweld a chlywed y corau buddugol. Byddwch yn rhannu’r cyffro gyda’r gynulleidfa sy’n llenwi’r babell fawr, a wnaed o gynfas dros ben o’r rhyfel gyda 6000 o seddi wedi’u benthyg o ystafelloedd ysgol, capeli a llefydd eraill o’r ardal. Mae’r Llywydd cyntaf, Mr W. Clayton Russon, yn egluro cysyniad sylfaenol yr Eisteddfod o sut y gall cystadleuaeth gerddorol ryngwladol helpu i hyrwyddo gwell dealltwriaeth a chysylltiadau cyfeillgar rhwng pobl o wahanol genhedloedd. Mae’r cyflwynwyr ar y llwyfan, a fenthycwyd yn 1947 gan yr Eisteddfod Genedlaethol, yn brysur a di-lol, yn union fel y maen nhw yn ein dyddiau ni.

Fel oedd yn gyffredin yn y blynyddoedd cynnar, roedd y rhan fwyaf o’r cyngherddau’n cynnwys y cystadleuwyr, ond roedd nosweithiau enwogion ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul yn cynnwys sêr fel Joan Hammond a Cherddorfa Hallé dan arweiniad John Barbarolli. Yn negawd cyntaf yr ŵyl denodd y cyngherddau amryw o berfformwyr cerddoriaeth glasurol, opera a dawns byd enwog i Langollen.

Syndod, i’r trefnwyr a’r gynulleidfa, oedd perfformiadau cyngerdd gan ddau grŵp dawns o Sbaen. Roedden nhw ar daith o amgylch Prydain, wedi’i threfnu gan y Gymdeithas Esperanto. Roedd eu perfformiadau yn yr ŵyl mor gyfareddol nes cymell yr Eisteddfod i gyflwyno cystadlaethau dawnsio gwerin a chanu gwerin gael yn 1948, gan ddod yn brif atyniad yn gyflym iawn. Wrth edrych ar y bwrlwm dawnsio ar y ffilm newyddion, gallwch weld y rheswm dros y straeon am yr angen am fesurau brys i atgyfnerthu’r llwyfan.

Un o’r dirgelion ynglŷn â 1947 yw pam, yng “Ngwlad y Gân”, nad oedd unrhyw gorau meibion o Gymru ymhlith y cystadleuwyr. Wedi’r cyfan, daeth tri chôr meibion o Loegr i’r ŵyl, ac felly hefyd chwe chôr merched o Gymru. Mae llawer o esboniadau wedi’u cynnig dros y blynyddoedd: ofn o feirniadaeth am eu safon; costau mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol a’r Eisteddfod Ryngwladol; anogaeth fwriadol i beidio mynychu Llangollen gan yr Eisteddfod Genedlaethol, y mae ei phryderon am yr ŵyl ifanc newydd wedi’u dogfennu mewn gohebiaeth archif. Gwell gadael hynny i’r rhai sy’n gweld cynllwyn ym mhob twll a chornel, ac yn lle hynny dathlu perfformiad Côr Meibion enwog Froncysyllte, a sefydlwyd yn 1948 i unioni’r cam.

Yn 1947 roedd yr Eisteddfod Ryngwladol i raddau helaeth iawn yn greadigaeth cymuned Llangollen. Gwnaeth llawer o arwyr gyfraniadau enfawr ar hyd y daith o syniad cychwynnol yn 1943 i’r grwpiau rhyngwladol a gyrhaeddodd Llangollen ym mis Mehefin 1947, ond arweinyddiaeth Cyngor Dosbarth Trefol Llangollen ym mis Mai 1946 a welodd troi’r syniad am y digwyddiad yn ffaith. O’r cychwyn cyntaf roedd uchelgais i fod yn annibynnol. Croesawyd cymorth y Cyngor Prydeinig i ddod o hyd i grwpiau yn Ewrop, ond gwrthodwyd eu cynnig o gymorth ariannol: ariannwyd yr Eisteddfod gyntaf gan danysgrifiadau lleol. Cyn diwedd y pum niwrnod roedd y trefnwyr lleol wedi ymrwymo’n gyhoeddus i gynnal gŵyl arall yn Llangollen yn 1948, er gwaethaf rhai lleisiau oed dyn dadlau y dylai symud o amgylch Cymru fel yr Eisteddfod Genedlaethol. Ers 1947, un o rinweddau mawr y gwirfoddolwyr yw teyrngarwch ffyrnig i’r syniad o gynnal digwyddiad blynyddol yn Llangollen.

Cysylltodd trefnwyr 1947 â sawl cwmni ffilmiau newyddion i roi sylw i’r Eisteddfod. Movietone enillodd y dydd bryd hynny oherwydd bod y cwmni’n gallu ymdopi orau â’r cyflenwadau pŵer cyfyngedig oedd ar gael ar Faes Hamdden Llangollen.

Cliciwch Yma i wylio’r ffilm.

Yn ymddangos yn y ffilm, yn eu trefn:

  • Corau Merched yn canu “This Little Babe” gan Benjamin Britten
  • Côr Merched Femina, Amsterdam
  • Grupo Musicale Feminino, Porto (oedd yn enwog am deithio i Llangollen mewn bws coch a melyn)
  • Cymdeithas Gorawl Merched Penarth
  • Côr Meibion y Gweithwyr Hwngari yn canu “Hey Nonny No”, sef perfformiad buddugol y gystadleuaeth
  • Dawnswyr Sbaenaidd yn perfformio eu dawns draddodiadol “Fandango Sequidillas”
  • Amsterdamsch Kamerkoor yn canu “Die Winter is Verganghen”
  • Côr Cymysg Undeb Corawl Belffast yn canu “Quick, we have but a second”
  • Madrigalkoren I Kalmar yn canu’r gân werin “Gottland” (y grŵp hwn o Sweden oedd y cyntaf i gyrraedd Llangollen)
  • Côr Cymysg Cymdeithas Gerddorol Sale a’r Ardal yn canu “Early One Morning”, gyda’u harweinydd yn derbyn tlws

Chris

Chris Adams
Bwyllgor Archifau’r Eisteddfod