Miloedd yn ymddangos i gefnogi gorymdaith fwyaf a gorau’r Eisteddfod ers blynyddoedd

Heidiodd miloedd i strydoedd heulog tref dwristaidd enwog yn Sir Ddinbych i gefnogi gorymdaith fwyaf Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ers blynyddoedd.

Cafodd yr orymdaith ei chynnal ar ddydd Gwener yr ŵyl am y tro cyntaf er mwyn rhoi cyfle i fwy o gystadleuwyr sy’n cyrraedd o bob cwr o’r byd i ymuno â’r orymdaith liwgar a welodd gynrychiolwyr o bedwar ban byd yn gorymdeithio trwy ganol Llangollen i gyfeiliant bloeddio a chymeradwyaeth mawr gan y nifer uchaf erioed o wylwyr.

Chwifiodd amrywiaeth liwgar o faneri a fflagiau cenedlaethol uwch eu pen wrth i gantorion a dawnswyr o lu o genhedloedd orymdeithio o faes yr Eisteddfod, i lawr i Abbey Road, ar draws y bont hanesyddol sawl canrif oed ac ymlaen i ganol y dref lle mae’r prif ffyrdd wedi’u cau yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

Yn arwain yr orymdaith, a gymerodd oddeutu 20 munud i fynd heibio i unrhyw bwynt, oedd crïwr tref barfog Llangollen, Austin Cheminais, a ganodd ei gloch i gyhoeddi’r prif ddigwyddiad.

Y tu ôl iddo oedd Maer a Maeres Llangollen, Mike a Melanie Adams, wedi’u dilyn gan faner borffor ysgol iaith Mulberry y dref, oedd yn noddi’r digwyddiad.

Cafodd cyflymder yr orymdaith fawr ei osod gan rai tiwniau cyffrous o Fand Arian Llangollen.

Cododd Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite, ei law ar y dorf gefnogol o’i sedd mewn Vauxhall o’r oes a fu gyda Chadeirydd yr Eisteddfod, Dr Rhys Davies, yn teithio yn y cefn.

Y tu ôl iddyn nhw oedd gorymdaith o gystadleuwyr oddi tan eu baneri cenedlaethol gan gynnwys gwledydd mor bell i ffwrdd â’r Unol Daleithiau, Canada, Seland Newydd, Indonesia a Tsieina.

Ymhlith y rhai mwyaf atyniadol oedd y gynrychiolaeth o bobl ifanc Simbabwe yn eu gwisgoedd cenedlaethol llachar.

p1904804687-o661053517-2

Wedi’u plethu â’r cystadleuwyr o dramor yn yr orymdaith roedd nifer o gorau o’r DU, dan arweiniad cantorion Nidus o Gymru a’u masgot ar ffurf pwdl du – oedd yn gwisgo cadach gwddf baner y ddraig – yn cerdded wrth eu hochr.

Yn dilyn y tu ôl oedd côr Chanteuse o Swydd Stafford dan eu baner San Siôr coch a gwyn.

Daeth grŵp arall o dorf-bleserwyr gwirioneddol ar ffurf liwgar Côr y Bishop Anstey High School o Trinidad.

Nesaf oedd rhagor o gorau o Loegr wedi’u dilyn gan grŵp o gantorion Norwyaidd a grŵp dawnsio Indiaidd.

Arweiniwyd ensemble gwerin o Albania gan eu Llysgennad Heddwch, Fitim Mimari, a chwifiodd eu baner genedlaethol coch a du enfawr yn falch.

Chwifiodd faner deilen fasarn uwchlaw grŵp o gystadleuwyr o Ganada, wedi’u dilyn gan faneri enfawr y Sêr a Streipiau a gariwyd gan nifer o gorau UDA.

Yn helpu’r gorymdeithwyr i gadw at yr amser oedd drymwyr grŵp gwerin o Algeria ac yn agos y tu ôl iddynt oedd grŵp o ddawnswyr Pwnjabi neidiol.

Denodd grŵp o bobl ifanc o Indonesia gymeradwyaeth enfawr ar gefn yr orymdaith yn eu ffrogiau crinolin amryliw.

Dywedodd Cadeirydd yr Eisteddfod Rhys Davies, a gefnogodd y syniad o symud yr orymdaith o ddydd Mawrth i ddydd Gwener: “Cawsom ymateb aruthrol gan gystadleuwyr o bedwar ban byd a ddaeth yn eu cannoedd ac roedd hi’n wych gweld cynifer o bobl ar hyd y strydoedd hefyd.

p2028831540-o661053517-2

“Mae’n dangos y cysylltiad rhyfeddol sydd gan yr Eisteddfod gyda’r byd a’i chymuned leol a’r lle sydd ganddi yng nghalonnau cynifer o bobl.”