
Mae cantores glasurol dalentog o Wcráin y cafodd ei bywyd ei rhwygo gan ymosodiad milwrol Rwsia yn gobeithio ailddechrau ei gyrfa mewn cystadleuaeth fawreddog yng ngogledd Cymru.
Mae’r soprano Khrystyna Makar ymhlith 27 o gantorion o bob cwr o’r byd a fydd yn cystadlu i ddod yn Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf.
Mi wnaeth Khrystyna ffoi o’i mamwlad sydd wedi’i rhwygo gan ryfel gyda’i dau fab ifanc, Denys, sydd bellach yn 20 oed, a Lukian, 15 oed, yn 2022, gan adael ei gŵr, Volodimir, a’i rhieni yn eu dinas enedigol Lviv.
Erbyn hyn mae Khrystyna, sy’n byw yn Shotton, yn Sir y Fflint, ymhlith 25 o gantorion o bob cwr o’r byd sy’n cystadlu am y wobr nodedig.
Bydd hi’n wynebu cystadleuwyr o UDA, Tsieina a De Affrica yn ogystal â Chymru a Lloegr.
Unwaith eto, mae’r gystadleuaeth rhuban glas yn cael ei noddi gan y sefydliad gofal sy’n caru’r celfyddydau, Parc Pendine, drwy Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymunedol Pendine (PACT) sy’n cefnogi mentrau diwylliannol a chymunedol ledled Cymru.
Bydd enillydd yn derbyn Tlws Pendine gan y seren opera Syr Bryn Terfel, ynghyd â siec o £3,000 tra bydd y sawl sy’n dod yn ail yn derbyn £1,000.
Ond yn gyntaf bydd yn rhaid i’r cystadleuwyr gymryd rhan mewn rownd ragbrofol ac yna rownd gynderfynol cyn i’r ddau olaf gymryd rhan yn y rownd derfynol fel rhan o gyngerdd olaf yr Eisteddfod ar nos Sul, Gorffennaf 13.
Mae’n cael ei gynnal ar yr un noson â chyngerdd gan Syr Bryn a fydd yn perfformio’r holl ganeuon o’i albwm diweddaraf, Sea Songs, a bydd The Fisherman’s Friends, y grŵp gwerin o Borth Isaac, Cernyw, a’r gantores werin Gymreig Eve Goodman yn ymuno gydag ef.
Cyn ymosodiad byddin Vladimir Putin yn 2022 roedd Khrystyna yn gantores glasurol lwyddiannus a oedd wedi perfformio ledled ei gwlad enedigol ac yn Ewrop mewn neuaddau cyngerdd yn yr Almaen, Awstria, y Swistir a Sgandinafia.
Ar ôl cyrraedd y DU bu Khrystyna yn byw i ddechrau yn Llangrannog, yng Ngheredigion, ac yna yn Aberystwyth cyn ymgartrefu yn Shotton. Ers hynny mae Khrystyna wedi ceisio cadw ei gyrfa gerddorol ar y trywydd iawn ac er mor anodd fu hynny mae’n gobeithio y bydd cystadlu yn Llangollen yn helpu.
Mae Khrystyna yn gobeithio y gall y digwyddiad roi hwb i’w chyfleoedd canu yn y DU ac yn y cyfamser mae’n gwneud teithiau adref i weld ei gŵr a’i theulu.
Mae hi newydd ddychwelyd o ymweliad a gyd-darodd ag ymosodiad gan daflegrau Rwsia ar floc o fflatiau yn Kyiv, prifddinas Wcráin,.
Cafodd deuddeg o bobl eu lladd yn yr ymosodiad ac anafwyd dros 80 ac meddai Khrystyna: “Mae’n anodd ond mae pobl yn dal i geisio cadw i fynd.
“Roedd hi’n adeg y Pasg felly roedden ni’n gallu dathlu gyda fy ngŵr a’m rhieni – dydyn ni ddim yn colli ein traddodiadau hyd yn oed yn yr amseroedd hyn.
“Mae Lviv yng ngorllewin y wlad felly mae’n eithaf pell o’r rhyfel ond weithiau mae taflegrau yn dod i lawr yno. Mae pob man yn beryglus ond mae pobl yn dal i geisio adeiladu eu bywydau.
“Mae cael eich gwahanu oddi wrth eich teulu yn anodd ond mae’n rhaid i chi fod yn gryf.
“Rydyn ni’n bobl gyfeillgar iawn ac rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth rydyn ni wedi’i gael gan bobl Cymru a Lloegr.”
Mae llwyddiant parhaus y gystadleuaeth yn fiwsig i glustiau perchennog Parc Pendine, Mario Kreft MBE a’i wraig, Gill, a gafodd y syniad yn 2013 ac erbyn hyn mae’n rhan rheolaidd o raglen yr Eisteddfod.
Mae cystadleuaeth 2025 yn fwy arbennig i’r cwpl oherwydd bod Pendine yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 eleni.
Dywedodd Mario: “Mae safon y cystadleuwyr yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn hollol syfrdanol a does gen i ddim amheuaeth y bydd yr un mor anhygoel o uchel eto eleni.
“Yn ogystal â chael y cyfle i ddangos eu talent, bonws ychwanegol i’r cystadleuwyr eleni fydd y wefr o ymddangos ar yr un llwyfan â Syr Bryn Terfel, cawr go iawn o’r byd opera.”
Dywedodd cyfarwyddwr artistig Eisteddfod Llangollen, Dave Danford: “Dyma un o gystadlaethau pwysicaf yr Eisteddfod ac mae pobl yn dod yma oherwydd gallent fod yn gwylio a gwrando ar rywun a fydd yn dod yn enw cyfarwydd yn y byd cerddorol.
“I’r cystadleuwyr mae’r cyfle i rannu llwyfan gyda Syr Bryn Terfel yn rhywbeth arbennig – mae’n wobr ynddo’i hun.
“Mae Mario a Gill Kreft wedi bod yn ffrindiau da iawn i’r Eisteddfod dros flynyddoedd lawer ac rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw.
“Bydd dau enillydd blaenorol, Eirlys Myfanwy Davies, o Sir Benfro, a enillodd yn 2017 a Shimona Rose, a enillodd yn 2024, yn ymddangos yn unawdwyr ar nos Fercher, Gorffennaf 9, yng nghyngerdd Karl Jenkins i nodi 80 mlynedd ers sefydlu’r Cenhedloedd Unedig a fydd yn cynnwys perfformiad o’i waith enwog ‘One World’ gan gôr torfol o leisiau rhyngwladol.”
Ychwanegodd Syr Bryn Terfel: “Mae cystadleuaeth Llais y Dyfodol Rhyngwladol Pendine yn gyfle gwych i gantorion ifanc talentog wneud eu marc a rhoi man cychwyn go iawn ar gyfer gyrfaoedd newydd ar y llwyfan byd-eang.”