Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol

Mae Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol yn rhoi llwyfan i chwe grŵp sy’n cynrychioli cymunedau o wahanol gefndiroedd diwylliannol ac ieithyddol sy’n byw yng Nghymru, gan ddefnyddio cerddoriaeth, dawns a barddoniaeth i rannu straeon am eu cymunedau. Cynhelir eu perfformiadau ddydd Mercher y 9fed Gorffennaf ar y Llwyfan Byd-eang rhwng 12:00 canol dydd a 4:00pm ac yna bydd y grwpiau yn ymuno â Gorymdaith y Cenhedloedd drwy strydoedd Llangollen am 4:30pm. 

TGP Teulu Dawns Cymru. (Caerdydd)

Bydd y prosiect yn hwyluso datblygiad darn perfformio gyda grŵp ieuenctid lleol (TGP Belong Group) sy’n gymysgedd o geiswyr lloches yn eu harddegau sydd yn cyfarfod yng Nghanolfan y Drindod yng Nghaerdydd. O dan adain Afrobeats (sy’n tynnu ynghyd elfennau o draddodiadau dawns o lawer o wledydd) bydd y grŵp yn datblygu perfformiad unigryw sy’n cyfuno symudiadau dawns rhythmig a cherddoriaeth a geiriau wedi’u creu gan gyfranogwyr, gan archwilio themâu hunaniaeth, treftadaeth, a chysylltiad. Bydd y darn yn ymgorffori symudiadau dawns a straeon o’u gwledydd traddodidol gwahanol gan ddefnyddio gwahanol ieithoedd y gwledydd hynny.

Oasis. (Caerdydd a’r cyffiniau)

Mae Band Oasis Gambas a Chôr Un Byd yn dod at ei gilydd i ddathlu ieithoedd a diwylliannau amrywiol pobl sy’n ceisio noddfa. Trwy gyfuniad pwerus o ganeuon gwreiddiol (dwyieithog), y gair llafar, a dawns, byddwn yn rhannu negeseuon llawenydd, heddwch, gwytnwch, ac undod. Mae’r perfformiad deinamig hwn yn gyfraniad twymgalon i undod Cymru, gan ledaenu gobaith a harmoni sy’n ein cysylltu ni i gyd. Bydd tua 30 o bobl yn y grŵp gydag ystod oedran o 25-74.

Y Gambas, band pedwar-person sy’n cynnwys cerddorion dawnus o Eritrea, Gambia, Nigeria, a Sierra Leone. Mae aelodau Y Gambas – Adunia, Baye, Emmy, a Gbo wedi dod at ei gilydd i rannu eu cyfuniad unigryw o ddiwylliannau a cherddoriaeth yma yng Nghymru. Maent wedi dod yn rhan werthfawr o gymuned Oasis, gan ddangos sut y gall ceiswyr lloches gyfrannu a chyfoethogi ein profiad cyffredin, gan ddod â synau a safbwyntiau Newydd, ac ysbryd o undod i Oasis a thu hwnt. Mae Y Gambas wedi chwarae mewn digwyddiadau cymunedol a diwylliannol amrywiol, ac mae eu brwdfrydedd, eu hymroddiad, a’u parch at y gerddoriaeth maen nhw’n ei chreu a’r gymuned maen nhw’n chwarae iddi yn dal ati i ysbrydoli, ac i rannu neges o obaith a chytgord sy’n atseinio ynddom ni i gyd.

 

Samarpan. (Casnewydd a Chaerdydd)

Mae “Nritya – A Dance for Unity & Peace” yn berfformiad Bharatanatyam â ysbrydolwyd gan egwyddorion cyffredinol heddwch y byd, amrywiaeth byd-eang, a dynoliaeth. Wedi’i wreiddio yn nhraddodiadau dwfn dawns glasurol India, nod y darn yw dathlu rhyng-gysylltiad diwylliannol tra’n talu teyrnged i’r amrywiaeth ethnig ac ieithyddol sy’n bresennol yng Nghymru. Trwy asio elfennau adrodd straeon cyfoethog Bharatanatyam â themâu cyfoes ac ymgorffori agweddau ar draddodiadau artistig Cymreig, mae’r perfformiad yn ceisio ysbrydoli ymdeimlad o berthyn, cytgord, ac undod mewn cymdeithas fythol amrywiol. Bydd y cyfuniad hwn o draddodiad hynafol gyda neges fodern yn pwysleisio bod dawns glasurol nid yn unig yn adlewyrchiad o’r gorffennol ond hefyd yn bont i’r dyfodol.

EYST Cymru (Wrecsam)

Bydd ein pobl ifanc o gefndiroedd Lleiafrifoedd Ethnig yn cyflwyno perfformiad dawns a cherddoriaeth ar thema Heddwch y Byd gan ddefnyddio eu baneri cenedlaethol, a thrwy hynny hefyd gynrychioli’r amrywiaeth ethnig ac ieithyddol byd-eang sy’n bodoli yng Nghymru. Bu’r bobl ifanc yn cymryd rhan mewn sesiwn ar becyn addysg Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd, 2024 a byddant yn defnyddio’r wybodaeth a gafwyd yno i ysgrifennu cân rap gyda Martin Daws, sy’n gweithio ledled Cymru a fuhefyd yn gweithio gyda phobl ifanc o leiafrifoedd ethnig o EYST ar brosiect gyda Janys Chambers o CADW, lle bu iddynt greu cân ar gyfer y Podlediad, “Fy Llais’. Bydd y gwisgoedd yn cael eu gwneud gyda chymorth y gymuned o Refugee Kindness, lle cynhelir dosbarthiadau gwnïo. Bydd Dance Empire yn paratoi perfformiad gyda’r bobl ifanc sy’n cynnwys dawnsiau cenedlaethol y gwledydd y mae ein pobl ifanc yn dod ohonyn nhw, megis Gwlad Pwyl, Portiwgal, y Weriniaeth Dominicanaidd, Bwlgaria, a De Affrica.

Gwreiddiau Balcanaidd. (Caerdydd a Chasnewydd)

Mae Balkan Roots Collective yn grŵp cymunedol sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd a Chasnewydd, sy’n uno unigolion o’r hen Iwgoslafia – Serbia, Montenegro, Croatia, Bosnia a Herzegovina, Macedonia, Kosovo, a Slofenia, i ddathlu a rhannu treftadaeth y Balcanau trwy gerddoriaeth, dawns, canu ac wrth gwrs bwyd! Fel menter ar lawr gwlad, rydym yn gymuned fach ond ymroddedig sy’n angerddol am gysylltiad diwylliannol a mynegiant creadigol. Mae ‘Between Two Worlds’ yn berfformiad a grëwyd gan y Balkan Roots Collective sy’n archwilio’r tensiwn a’r cytgord rhwng traddodiad a moderniaeth. Trwy symud, cerddoriaeth, ac adrodd straeon, mae’n cyfleu taith hunaniaeth, hunan-ddarganfyddiad, a chyfuniad o dreftadaeth ddiwylliannol mewn byd cyfoes.

Caminhos. (Caerdydd a’r cyffiniau)

Bydd y perfformiad yn cynnwys elfennau o lafarganu, dawns symudol, y gair llafar, a chân. Bydd y naratif a’r sgript yn gwau drwy’r elfennau creadigol hyn i gyflawni’r nod byd-eang o heddwch. Byddwn yn creu gwisgoedd, masgiau a/neu bropiau i gyfoethogi’r perfformiad.

Mae’r perfformiad yn ymwneud â chymuned sy’n byw mewn cytgord i ddechrau, ond mae grymoedd allanol yn goresgyn y gymuned hon gan greu anhrefn a helbul. Mae un enaid yn dal yn fyw gydol y dinistr ond trwy ddwyn meddyliau cwsg i gof, mae’r enaid sy’n weddill yn adfywio’r lleill wrth iddynt yrru’r lluoedd tywyll o’r neilltu trwy ganu neges heddwch.