{"id":21799,"date":"2025-07-25T10:03:10","date_gmt":"2025-07-25T09:03:10","guid":{"rendered":"http:\/\/localhost\/_sbarcdev\/lime\/web-lime-loc\/?p=21799"},"modified":"2026-03-22T14:35:28","modified_gmt":"2026-03-22T14:35:28","slug":"diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/cy\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/","title":{"rendered":"Lleisiau Amrywiol yn Disgleirio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen"},"content":{"rendered":"<p><img data-recalc-dims=\"1\" loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\" wp-image-21802 alignleft\" src=\"https:\/\/i0.wp.com\/international-eisteddfod.co.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/IMG_8001.jpeg?resize=398%2C531&#038;ssl=1\" alt=\"\" width=\"398\" height=\"531\" \/>Mae gan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen enw da sy&#8217;n dyddio&#8217;n \u00f4l i 1947 am ddod \u00e2&#8217;r byd i Langollen \u2013 ac i Gymru. Mae cannoedd o filoedd o bobl, o ddwsinau o wledydd wedi ymweld dros y blynyddoedd, gan ddod \u00e2&#8217;u diwylliannau a&#8217;u hieithoedd i Ogledd Cymru.<\/p>\n<p>Mae Llangollen bob amser wedi croesawu a dathlu creadigrwydd ac amrywiaeth byd-eang wrth hyrwyddo heddwch a&#8217;n dynoliaeth gyffredin. Ond beth am y cymunedau hynny o lawer iawn o wledydd sydd wedi ymsefydlu yng Nghymru flynyddoedd lawer yn \u00f4l, neu sydd wedi symud yma&#8217;n ddiweddar am bob math o resymau \u2013 o ganlyniad i ryfeloedd, neu geisio noddfa a lloches?<\/p>\n<p>Sut maen nhw&#8217;n gweld eu hunain a sut orau i roi cyfle iddyn nhw ddangos i Gymru a&#8217;r byd sut mae eu cymunedau&#8217;n ymdopi ac yn wir yn ffynnu yng Nghymru?<\/p>\n<p>Dyna\u2019r her yr oedd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a Chyngor Celfyddydau Cymru eisiau mynd i&#8217;r afael \u00e2 hi, trwy gyfrwng barddoniaeth, cerddoriaeth a dawns. A dyna sut, a pham y cynlluniwyd a datblygwyd y prosiect Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.<\/p>\n<p>Ym mis Gorffennaf 2024, cymerodd tri gr\u0175p o wahanol rannau o Gymru ran mewn prosiect peilot i berfformio yn Llangollen, i rannu ac arddangos eu cefndiroedd diwylliannol eu hunain ac i ddweud wrth y byd am eu cymunedau sy&#8217;n byw yma yng Nghymru. Roedd yn llwyddiant mawr ac yn 2025, dechreuodd chwe gr\u0175p deinamig o bob cwr o Gymru weithio ar eu prosiectau cymunedol unigol.<\/p>\n<p>Fe gafodd y grwpiau gymorth gan yr ymgynghorwyr cymunedol arbenigol Richie Turner a Lyndy Cooke ynghyd \u00e2 chyfarwyddwyr y prosiect, Garffild a Sian Eirian Lewis, i fynd drwy\u2019r broses greadigol. Darparwyd cyngor a chefnogaeth arbenigol i bob gr\u0175p ar sut i adrodd straeon a pherfformio gan dri phartner allanol allweddol &#8211; Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Cherddoriaeth Gymunedol Cymru. Fe berfformiodd pob un o&#8217;r chwe gr\u0175p ar Lwyfan y Globe yn yr Eisteddfod ar 9fed o Orffennaf 2025.<\/p>\n<p>Roedd yn brynhawn gwych o greadigrwydd, angerdd ac egni, a ddechreuodd gyda pherfformiad gan gwmni Dance Empire o Wrecsam mewn partneriaeth \u00e2 gr\u0175p ieuenctid EYST, gr\u0175p o bobl ifanc o wahanol wledydd sydd wedi ymgartrefu yn ardal Wrecsam. Cyflwynodd y bobl ifanc, o bump oed i eraill yn eu harddegau, berfformiad deg munud o hyd drwy g\u00e2n a dawns ar y thema \u2018Heddwch Byd-eang\u2019. Defnyddiwyd caneuon pop modern Saesneg fel rhan o\u2019r perfformiad a roedd y g\u00e2n Gymraeg adnabyddus, \u2018Yma o Hyd\u2019, wedi cael pawb i ganu gyda\u2019i gilydd ar y diwedd. Eu neges yn syml oedd, ta waeth o ble rydych chi\u2019n dod, neu\u2019r heriau rydych chi\u2019n eu hwynebu mewn bywyd, ein bod ni\u2019n dal yma, wedi\u2019n huno gyda\u2019n gilydd.<\/p>\n<p>Nesaf ar Lwyfan y Globe daeth Samarpan, gr\u0175p dawns Indiaidd \u00e2 berfformiodd ddarn hyfryd o ddawns glasurol Indiaidd wedi eu plethu gyda dylanwadau diwylliannol Cymreig yn cynrychioli undod, perthyn a gobaith am y dyfodol. Fe wnaethon nhw gyflwyno caneuon gwerin traddodiadol Cymru wedi&#8217;u cyfuno \u00e2 symudiadau dawns traddodiadol Indiaidd mewn perfformiad \u00e2 oedd yn hudolus ac yn emosiynol.<\/p>\n<p>Dangosodd y gr\u0175p cymunedol Caminhos o ardal Caerdydd gymysgedd o ddawns, llafarganu a&#8217;r gair llafar Brasilaidd ac Affricanaidd. Mewn perfformiad llawn lliw ac egni, fe wnaethon nhw adrodd eu stori am gymuned \u00e2 oedd yn byw mewn cytgord ond oedd yn wynebu grymoedd allanol a greodd helbul ac anhrefn. Roedd gan y perfformiad hwn bopeth, gan gynnwys darn oedd yn efelychu ymladd arddull \u2018martial arts\u2019 ac fe wnaeth y cymysgedd o lafarganu, canu a dawnsio wir gyffwrdd cynulleidfa emosiynol a gwerthfawrogol.<\/p>\n<p>Daeth Oasis nesaf \u2013 perfformiad ar y cyd \u00e2 gyflwynwyd gan Fand Gambas a Ch\u00f4r Un Byd Cymru. Gyda&#8217;i gilydd, fe wnaethon nhw gyflwyno perfformiad \u00e2 oedd yn dathlu diwylliant a iaith trwy ddefnyddio amrywiaeth o ganeuon pwerus i ddisgrifio&#8217;r ymdeimlad unigryw o fod yn geiswyr lloches yma yng Nghymru. Roedd yn berfformiad cofiadwy iawn yn seiliedig ar eu negeseuon clir o &#8216;wneud y byd yn well lle i fyw&#8217; ac o fod yn &#8216;rhydd i hedfan&#8217; ac i &#8216;freuddwydio am gariad&#8217;.<\/p>\n<p>Fe wnaeth canu a dawnsio i s\u0175n Afrobeats gan TGP Teulu Dawns Cymru sicrhau bod y gynulleidfa yn dawnsio hefyd! Gr\u0175p ifanc o geiswyr lloches yw\u2019r rhain a oedd am daflu goleuni ar them\u00e2u fel hunaniaeth, treftadaeth, gwydnwch a ph\u0175er cymuned. Dechreuodd y perfformiad gyda chyflwyniad yn y Gymraeg a\u2019r Saesneg gan un o\u2019r aelodau a\u2019r negeseuon oedd \u201cmae heddwch y byd yn dechrau gyda ni\u201d ac \u201cnid ydym wedi torri\u201d. Ar ddiwrnod poeth iawn, roedd hwn yn berfformiad llawn egni ac emosiwn \u00e2 gyflwynodd y gynulleidfa i gymuned glos ac agos sy\u2019n byw yn ne Cymru.<\/p>\n<p>A llifodd yr egni a&#8217;r emosiwn hwnnw&#8217;n ddi-dor i&#8217;r perfformiad nesaf a&#8217;r olaf gan y gr\u0175p Balkan Roots o Gaerdydd a Chasnewydd, gr\u0175p cydweithredol sy&#8217;n cynnwys unigolion o wledydd yr hen Iwgoslafia ac sydd bellach yn byw yng Nghymru. Maent yn rhannu treftadaeth Balcanaidd ac mae eu stori, \u00e2 adroddir trwy g\u00e2n a dawns, yn ymwneud ag adeiladu pontydd rhwng yr hen a&#8217;r newydd, rhwng traddodiadau a ffordd newydd o fyw, a defnyddio cymuned a charedigrwydd i uno cenhedloedd. Roedd hwn yn berfformiad llawn bywyd gyda llawer o ganu gwych \u2013 a\u2019r perfformwyr yng nghanol y gynulleidfa ar ddiwedd y sioe ar gyfer dathliad cofiadwy gyda\u2019i gilydd.<\/p>\n<p>Yna cymerodd y grwpiau ran yng Ngorymdaith y Cenhedloedd yn Llangollen, ochr yn ochr \u00e2 4000 o gystadleuwyr rhyngwladol o bob cwr o&#8217;r Byd &#8211; gan gloi prynhawn gwych yn dathlu amrywiaeth Cymru trwy g\u00e2n a dawns.<\/p>\n<p>Dywedodd Garffild Lewis, un o gyfarwyddwyr y prosiect, \u201cMae prosiect Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol wedi dangos i ni b\u0175er rhyfeddol y celfyddydau i uno pobl, dathlu amrywiaeth, ac adrodd straeon sy\u2019n bwysig. Roedd gweld y cymunedau hyn yn rhannu eu traddodiadau, eu brwydrau, a\u2019u llawenydd ar Lwyfan y Byd yn gyffrous iawn. Dyma beth yw pwrpas yr Eisteddfod \u2013 lle i ddiwylliannau gwrdd, i gysylltu, ac i greu rhywbeth gwirioneddol gofiadwy.\u201d<\/p>\n<p>Roedd hwn yn ddiwrnod \u2013 ac yn brosiect \u2013 a fydd yn cael ei gofio a\u2019i drysori gan bawb dan sylw. Roedd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, ymhlith y cannoedd o bobl \u00e2 wyliodd y grwpiau \u2013 ac roedd wrth ei fodd gyda\u2019r perfformiadau ac yn falch iawn o brosiect Rhythmau a Gwreiddiau.<\/p>\n<p>Rhaid i&#8217;r gair olaf fynd i un o&#8217;r perfformwyr:<\/p>\n<p>\u201c&#8230;roedd bod yn rhan o \u0175yl Gymreig mor eiconig\u2014yn enwedig drwy&#8217;r rhaglen Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol\u2014yn gyfle newydd ac ysbrydoledig. Fe wnaeth ganiat\u00e1u inni gyflwyno ffurfiau celf clasurol a chymunedol Indiaidd ochr yn ochr \u00e2 thraddodiadau diwylliannol cyfoethog Cymru mewn lleoliad \u00e2 gydnabyddir yn fyd-eang. Roedd yn gam ystyrlon yn ein taith barhaus o ddefnyddio&#8217;r celfyddydau i adeiladu pontydd diwylliannol\u201d.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen enw da sy&#8217;n dyddio&#8217;n \u00f4l i 1947 am ddod \u00e2&#8217;r byd i Langollen \u2013 ac i Gymru. Mae cannoedd o filoedd o bobl, o ddwsinau o wledydd wedi ymweld dros y blynyddoedd, gan ddod \u00e2&#8217;u diwylliannau a&#8217;u hieithoedd i Ogledd Cymru. Mae Llangollen bob amser wedi croesawu a dathlu creadigrwydd&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/cy\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/\" title=\"Darllen Lleisiau Amrywiol yn Disgleirio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen\">Darllen rhagor &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":26,"featured_media":21803,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":"","_links_to":"","_links_to_target":""},"categories":[27,29],"tags":[],"class_list":["post-21799","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-featured","category-news"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Lleisiau Amrywiol yn Disgleirio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen - Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"[:en]Diverse Voices Shine at Llangollen International Eisteddfod[:cy]Lleisiau Amrywiol yn Disgleirio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen[:] - Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae gan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen enw da sy&#8217;n dyddio&#8217;n \u00f4l i 1947 am ddod \u00e2&#8217;r byd i Langollen \u2013 ac i Gymru. Mae cannoedd o filoedd o bobl, o ddwsinau o wledydd wedi ymweld dros y blynyddoedd, gan ddod \u00e2&#8217;u diwylliannau a&#8217;u hieithoedd i Ogledd Cymru. Mae Llangollen bob amser wedi croesawu a dathlu creadigrwydd... Darllen rhagor &raquo;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/llangollen\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2025-07-25T09:03:10+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-03-22T14:35:28+00:00\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"David Hennigan\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@llangollen_Eist\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@llangollen_Eist\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"David Hennigan\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"David Hennigan\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/6750b862fe92e85150f6eed02dda3732\"},\"headline\":\"Lleisiau Amrywiol yn Disgleirio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen\",\"datePublished\":\"2025-07-25T09:03:10+00:00\",\"dateModified\":\"2026-03-22T14:35:28+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\\\/\"},\"wordCount\":2230,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"\",\"articleSection\":[\"Arbennig\",\"Newyddion\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\\\/\",\"name\":\"[:en]Diverse Voices Shine at Llangollen International Eisteddfod[:cy]Lleisiau Amrywiol yn Disgleirio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen[:] - Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"\",\"datePublished\":\"2025-07-25T09:03:10+00:00\",\"dateModified\":\"2026-03-22T14:35:28+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\\\/#primaryimage\",\"url\":\"\",\"contentUrl\":\"\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Diverse Voices Shine at Llangollen International Eisteddfod\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/\",\"name\":\"Llangollen International Musical Eisteddfod\",\"description\":\"[:en]7 - 12 July 2026[:cy]7 - 12 Gorffenhaf 2025[:]\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/#organization\",\"name\":\"Llangollen International Musical Eisteddfod\",\"url\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/i0.wp.com\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/12\\\/2025-orange-full.jpg?fit=1024%2C341&ssl=1\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/i0.wp.com\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/12\\\/2025-orange-full.jpg?fit=1024%2C341&ssl=1\",\"width\":1024,\"height\":341,\"caption\":\"Llangollen International Musical Eisteddfod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/llangollen\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/llangollen_Eist\",\"https:\\\/\\\/www.linkedin.com\\\/in\\\/llangollen-international-musical-eisteddfod-376aa356\\\/\",\"https:\\\/\\\/www.youtube.com\\\/user\\\/Llangollen1947\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/6750b862fe92e85150f6eed02dda3732\",\"name\":\"David Hennigan\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ab01d8a9192c430a181892d93e7e4e6be335ac78609dd58a915ee4505280dee0?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ab01d8a9192c430a181892d93e7e4e6be335ac78609dd58a915ee4505280dee0?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/ab01d8a9192c430a181892d93e7e4e6be335ac78609dd58a915ee4505280dee0?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"David Hennigan\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/cy\\\/author\\\/david-hennigan\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"[:en]Diverse Voices Shine at Llangollen International Eisteddfod[:cy]Lleisiau Amrywiol yn Disgleirio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen[:] - Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"[:en]Diverse Voices Shine at Llangollen International Eisteddfod[:cy]Lleisiau Amrywiol yn Disgleirio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen[:] - Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen","og_description":"Mae gan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen enw da sy&#8217;n dyddio&#8217;n \u00f4l i 1947 am ddod \u00e2&#8217;r byd i Langollen \u2013 ac i Gymru. Mae cannoedd o filoedd o bobl, o ddwsinau o wledydd wedi ymweld dros y blynyddoedd, gan ddod \u00e2&#8217;u diwylliannau a&#8217;u hieithoedd i Ogledd Cymru. Mae Llangollen bob amser wedi croesawu a dathlu creadigrwydd... Darllen rhagor &raquo;","og_url":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/","og_site_name":"Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/llangollen","article_published_time":"2025-07-25T09:03:10+00:00","article_modified_time":"2026-03-22T14:35:28+00:00","author":"David Hennigan","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@llangollen_Eist","twitter_site":"@llangollen_Eist","twitter_misc":{"Written by":"David Hennigan","Est. reading time":"6 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/"},"author":{"name":"David Hennigan","@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/#\/schema\/person\/6750b862fe92e85150f6eed02dda3732"},"headline":"Lleisiau Amrywiol yn Disgleirio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen","datePublished":"2025-07-25T09:03:10+00:00","dateModified":"2026-03-22T14:35:28+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/"},"wordCount":2230,"publisher":{"@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"","articleSection":["Arbennig","Newyddion"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/","url":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/","name":"[:en]Diverse Voices Shine at Llangollen International Eisteddfod[:cy]Lleisiau Amrywiol yn Disgleirio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen[:] - Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen","isPartOf":{"@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"","datePublished":"2025-07-25T09:03:10+00:00","dateModified":"2026-03-22T14:35:28+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/#primaryimage","url":"","contentUrl":""},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/diverse-voices-shine-at-llangollen-international-eisteddfod\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Diverse Voices Shine at Llangollen International Eisteddfod"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/#website","url":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/","name":"Llangollen International Musical Eisteddfod","description":"[:en]7 - 12 July 2026[:cy]7 - 12 Gorffenhaf 2025[:]","publisher":{"@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/#organization","name":"Llangollen International Musical Eisteddfod","url":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/i0.wp.com\/international-eisteddfod.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/2025-orange-full.jpg?fit=1024%2C341&ssl=1","contentUrl":"https:\/\/i0.wp.com\/international-eisteddfod.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/2025-orange-full.jpg?fit=1024%2C341&ssl=1","width":1024,"height":341,"caption":"Llangollen International Musical Eisteddfod"},"image":{"@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/llangollen","https:\/\/x.com\/llangollen_Eist","https:\/\/www.linkedin.com\/in\/llangollen-international-musical-eisteddfod-376aa356\/","https:\/\/www.youtube.com\/user\/Llangollen1947"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/#\/schema\/person\/6750b862fe92e85150f6eed02dda3732","name":"David Hennigan","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ab01d8a9192c430a181892d93e7e4e6be335ac78609dd58a915ee4505280dee0?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ab01d8a9192c430a181892d93e7e4e6be335ac78609dd58a915ee4505280dee0?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ab01d8a9192c430a181892d93e7e4e6be335ac78609dd58a915ee4505280dee0?s=96&d=mm&r=g","caption":"David Hennigan"},"url":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/cy\/author\/david-hennigan\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21799","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/26"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=21799"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21799\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/cy\/wp-json\/"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21799"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21799"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21799"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}