Lleisiau Amrywiol yn Disgleirio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

Mae gan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen enw da sy’n dyddio’n ôl i 1947 am ddod â’r byd i Langollen – ac i Gymru. Mae cannoedd o filoedd o bobl, o ddwsinau o wledydd wedi ymweld dros y blynyddoedd, gan ddod â’u diwylliannau a’u hieithoedd i Ogledd Cymru.

Mae Llangollen bob amser wedi croesawu a dathlu creadigrwydd ac amrywiaeth byd-eang wrth hyrwyddo heddwch a’n dynoliaeth gyffredin. Ond beth am y cymunedau hynny o lawer iawn o wledydd sydd wedi ymsefydlu yng Nghymru flynyddoedd lawer yn ôl, neu sydd wedi symud yma’n ddiweddar am bob math o resymau – o ganlyniad i ryfeloedd, neu geisio noddfa a lloches?

Sut maen nhw’n gweld eu hunain a sut orau i roi cyfle iddyn nhw ddangos i Gymru a’r byd sut mae eu cymunedau’n ymdopi ac yn wir yn ffynnu yng Nghymru?

Dyna’r her yr oedd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a Chyngor Celfyddydau Cymru eisiau mynd i’r afael â hi, trwy gyfrwng barddoniaeth, cerddoriaeth a dawns. A dyna sut, a pham y cynlluniwyd a datblygwyd y prosiect Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ym mis Gorffennaf 2024, cymerodd tri grŵp o wahanol rannau o Gymru ran mewn prosiect peilot i berfformio yn Llangollen, i rannu ac arddangos eu cefndiroedd diwylliannol eu hunain ac i ddweud wrth y byd am eu cymunedau sy’n byw yma yng Nghymru. Roedd yn llwyddiant mawr ac yn 2025, dechreuodd chwe grŵp deinamig o bob cwr o Gymru weithio ar eu prosiectau cymunedol unigol.

Fe gafodd y grwpiau gymorth gan yr ymgynghorwyr cymunedol arbenigol Richie Turner a Lyndy Cooke ynghyd â chyfarwyddwyr y prosiect, Garffild a Sian Eirian Lewis, i fynd drwy’r broses greadigol. Darparwyd cyngor a chefnogaeth arbenigol i bob grŵp ar sut i adrodd straeon a pherfformio gan dri phartner allanol allweddol – Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Cherddoriaeth Gymunedol Cymru. Fe berfformiodd pob un o’r chwe grŵp ar Lwyfan y Globe yn yr Eisteddfod ar 9fed o Orffennaf 2025.

Roedd yn brynhawn gwych o greadigrwydd, angerdd ac egni, a ddechreuodd gyda pherfformiad gan gwmni Dance Empire o Wrecsam mewn partneriaeth â grŵp ieuenctid EYST, grŵp o bobl ifanc o wahanol wledydd sydd wedi ymgartrefu yn ardal Wrecsam. Cyflwynodd y bobl ifanc, o bump oed i eraill yn eu harddegau, berfformiad deg munud o hyd drwy gân a dawns ar y thema ‘Heddwch Byd-eang’. Defnyddiwyd caneuon pop modern Saesneg fel rhan o’r perfformiad a roedd y gân Gymraeg adnabyddus, ‘Yma o Hyd’, wedi cael pawb i ganu gyda’i gilydd ar y diwedd. Eu neges yn syml oedd, ta waeth o ble rydych chi’n dod, neu’r heriau rydych chi’n eu hwynebu mewn bywyd, ein bod ni’n dal yma, wedi’n huno gyda’n gilydd.

Nesaf ar Lwyfan y Globe daeth Samarpan, grŵp dawns Indiaidd â berfformiodd ddarn hyfryd o ddawns glasurol Indiaidd wedi eu plethu gyda dylanwadau diwylliannol Cymreig yn cynrychioli undod, perthyn a gobaith am y dyfodol. Fe wnaethon nhw gyflwyno caneuon gwerin traddodiadol Cymru wedi’u cyfuno â symudiadau dawns traddodiadol Indiaidd mewn perfformiad â oedd yn hudolus ac yn emosiynol.

Dangosodd y grŵp cymunedol Caminhos o ardal Caerdydd gymysgedd o ddawns, llafarganu a’r gair llafar Brasilaidd ac Affricanaidd. Mewn perfformiad llawn lliw ac egni, fe wnaethon nhw adrodd eu stori am gymuned â oedd yn byw mewn cytgord ond oedd yn wynebu grymoedd allanol a greodd helbul ac anhrefn. Roedd gan y perfformiad hwn bopeth, gan gynnwys darn oedd yn efelychu ymladd arddull ‘martial arts’ ac fe wnaeth y cymysgedd o lafarganu, canu a dawnsio wir gyffwrdd cynulleidfa emosiynol a gwerthfawrogol.

Daeth Oasis nesaf – perfformiad ar y cyd â gyflwynwyd gan Fand Gambas a Chôr Un Byd Cymru. Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw gyflwyno perfformiad â oedd yn dathlu diwylliant a iaith trwy ddefnyddio amrywiaeth o ganeuon pwerus i ddisgrifio’r ymdeimlad unigryw o fod yn geiswyr lloches yma yng Nghymru. Roedd yn berfformiad cofiadwy iawn yn seiliedig ar eu negeseuon clir o ‘wneud y byd yn well lle i fyw’ ac o fod yn ‘rhydd i hedfan’ ac i ‘freuddwydio am gariad’.

Fe wnaeth canu a dawnsio i sŵn Afrobeats gan TGP Teulu Dawns Cymru sicrhau bod y gynulleidfa yn dawnsio hefyd! Grŵp ifanc o geiswyr lloches yw’r rhain a oedd am daflu goleuni ar themâu fel hunaniaeth, treftadaeth, gwydnwch a phŵer cymuned. Dechreuodd y perfformiad gyda chyflwyniad yn y Gymraeg a’r Saesneg gan un o’r aelodau a’r negeseuon oedd “mae heddwch y byd yn dechrau gyda ni” ac “nid ydym wedi torri”. Ar ddiwrnod poeth iawn, roedd hwn yn berfformiad llawn egni ac emosiwn â gyflwynodd y gynulleidfa i gymuned glos ac agos sy’n byw yn ne Cymru.

A llifodd yr egni a’r emosiwn hwnnw’n ddi-dor i’r perfformiad nesaf a’r olaf gan y grŵp Balkan Roots o Gaerdydd a Chasnewydd, grŵp cydweithredol sy’n cynnwys unigolion o wledydd yr hen Iwgoslafia ac sydd bellach yn byw yng Nghymru. Maent yn rhannu treftadaeth Balcanaidd ac mae eu stori, â adroddir trwy gân a dawns, yn ymwneud ag adeiladu pontydd rhwng yr hen a’r newydd, rhwng traddodiadau a ffordd newydd o fyw, a defnyddio cymuned a charedigrwydd i uno cenhedloedd. Roedd hwn yn berfformiad llawn bywyd gyda llawer o ganu gwych – a’r perfformwyr yng nghanol y gynulleidfa ar ddiwedd y sioe ar gyfer dathliad cofiadwy gyda’i gilydd.

Yna cymerodd y grwpiau ran yng Ngorymdaith y Cenhedloedd yn Llangollen, ochr yn ochr â 4000 o gystadleuwyr rhyngwladol o bob cwr o’r Byd – gan gloi prynhawn gwych yn dathlu amrywiaeth Cymru trwy gân a dawns.

Dywedodd Garffild Lewis, un o gyfarwyddwyr y prosiect, “Mae prosiect Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol wedi dangos i ni bŵer rhyfeddol y celfyddydau i uno pobl, dathlu amrywiaeth, ac adrodd straeon sy’n bwysig. Roedd gweld y cymunedau hyn yn rhannu eu traddodiadau, eu brwydrau, a’u llawenydd ar Lwyfan y Byd yn gyffrous iawn. Dyma beth yw pwrpas yr Eisteddfod – lle i ddiwylliannau gwrdd, i gysylltu, ac i greu rhywbeth gwirioneddol gofiadwy.”

Roedd hwn yn ddiwrnod – ac yn brosiect – a fydd yn cael ei gofio a’i drysori gan bawb dan sylw. Roedd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, ymhlith y cannoedd o bobl â wyliodd y grwpiau – ac roedd wrth ei fodd gyda’r perfformiadau ac yn falch iawn o brosiect Rhythmau a Gwreiddiau.

Rhaid i’r gair olaf fynd i un o’r perfformwyr:

“…roedd bod yn rhan o ŵyl Gymreig mor eiconig—yn enwedig drwy’r rhaglen Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol—yn gyfle newydd ac ysbrydoledig. Fe wnaeth ganiatáu inni gyflwyno ffurfiau celf clasurol a chymunedol Indiaidd ochr yn ochr â thraddodiadau diwylliannol cyfoethog Cymru mewn lleoliad â gydnabyddir yn fyd-eang. Roedd yn gam ystyrlon yn ein taith barhaus o ddefnyddio’r celfyddydau i adeiladu pontydd diwylliannol”.