Bwriedir lansio apêl fyd-eang brys i ddiogelu dyfodol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Nod yr apêl yw codi £70,000 oherwydd mae’n argoeli y bydd digwyddiad eleni yn wynebu colled ariannol o ganlyniad i werthiant tocynnau siomedig.
Gyda phen-blwydd yr Eisteddfod yn 70 oed ar y gorwel, mae’r trefnwyr yn hyderus fod gan y digwyddiad lliwgar ddyfodol hir dymor, ond bod angen cefnogaeth ariannol er mwyn goresgyn yr anawsterau tymor byr.
Bydd cefnogwyr sy’n dymuno cyfrannu rhodd yn gallu gwneud hynny ar-lein drwy wefan yr Eisteddfod neu drwy ddefnyddio amlenni Cymorth Rhodd a fydd ar gael ym mhob un o’r cyngherddau yn ystod yr wythnos.
Eleni fydd y 69fed blwyddyn yn olynol i’r ŵyl gael ei chynnal ers iddi gael ei sefydlu ar ôl yr Ail Ryfel Byd gyda’r bwriad o hyrwyddo heddwch a chytgord.
Mae’r digwyddiad eiconig bellach wedi tyfu i fod yn un o brif ddigwyddiadau cerddoriaeth a dawns Ewrop, “Lle mae Cymry’n croesawu’r byd” a lle caiff tref Llangollen ei throi yn bair dadeni diwylliannol.
Dros y blynyddoedd mae wedi denu eiconau diwylliannol fel Luciano Pavarotti, a gamodd ar lwyfan yr Eisteddfod am y tro cyntaf yn 1955 fel aelod o gôr ei dad o dref Modena yn yr Eidal, cyn ei berfformiad ysgubol yn 1995 pan ddychwelodd i’r Eisteddfod ac yntau’n artist rhyngwladol o fri.
Eleni disgwylir cystadleuwyr i fynychu’r Eisteddfod o wledydd mor bell i ffwrdd â Ghana, Tsieina, Hwngari, India, Jamaica, Moroco, Nepal, Slofacia a’r Iseldiroedd yn ogystal â’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Bydd Tywysog Cymru a Duges Cernyw yno ar y dydd Mawrth pryd y byddant yn cyfarfod â’r cystadleuwyr sy’n cymryd rhan yn nigwyddiad lliwgar Gorymdaith y Cenhedloedd.
Cyhoeddwyd yr apêl gan gadeirydd yr Eisteddfod Gethin Davies, sydd wedi gwasanaethu’r ŵyl yn ffyddlon ers blynyddoedd, ac a fynychodd y digwyddiad am y tro cyntaf pan oedd yn fachgen ifanc yn 1951.
Meddai: “Mae’r Eisteddfod yn ŵyl ddrud i’w llwyfannu, ac fel llawer o wyliau eraill, mae’r esgid ariannol wedi bod yn gwasgu’n ddiweddar.
“Trwy wneud toriadau llym yn ein gwariant, mi wnaethon ni lwyddo i gael gwarged bychan yn 2014.
“Yn anffodus, er gwaethaf y toriadau sydd wedi cael eu gweithredu ers 2014 ac sydd wedi parhau yn 2015, mae gwerthiant siomedig tocynnau cyngherddau Eisteddfod eleni yn golygu ein bod yn wynebu diffyg o tua £70,000 ar gyfer 2015.
“Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru gyda golwg ar gymorth tymor byr, ond hyd yn hyn nid ydynt wedi gallu rhoi unrhyw sicrwydd o gymorth i ni.
“Cyngor y Llywodraeth oedd i ni ymdrechu’n galed i godi arian oddi wrth ein cefnogwyr er mwyn ateb yr hyn sydd yn y bôn yn broblem tymor byr.
“Mae bwrdd yr Eisteddfod wedi cyflwyno cynllun busnes tair blynedd i Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n hyderus, os gallwn ddod drwy’r anawsterau presennol, y gallwn symud ymlaen i wneud elw.
“Mae’r Cyfarwyddwr Cerdd wedi llunio rhaglen gyngherddau hynod atyniadol ar gyfer 2016 – gan gynnwys enw cyfarwydd iawn – ac rydym yn hyderus y bydd hynny’n llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd mwy, ac mae’r gyllideb ragarweiniol ar gyfer 2016 yn dangos gwarged rhesymol.
Ychwanegodd Mr Davies: “Mae’r Eisteddfod Ryngwladol wedi bod yn rhan bwysig iawn o fy mywyd ers 1951, pan oeddwn yn hogyn bach ac yn mynd o gwmpas yn gwerthu rhaglenni ar gyfer yr Eisteddfod.
“Dros y cyfnod hwnnw o 65 mlynedd, rwyf wedi hel stôr o atgofion hapus o’r cystadleuwyr rhyfeddol yr wyf wedi eu gweld, y cyngherddau anhygoel rwyf wedi eu mynychu, a chynhesrwydd anhygoel, gwybodaeth eang, cyfeillgarwch ac ewyllys da y gynulleidfa.
“Mae fy mhlant hefyd wedi rhannu llawer o’r profiadau hynny, a hoffwn weld fy wyrion hefyd yn gallu mwynhau’r ŵyl unigryw yma, ac rwy’n hyderus y byddant yn cael y cyfle hwnnw.”