Y Neges Heddwch

Disgyblion Ysgol Y Gwernant, Llangollen, yn perfformio Neges Heddwch 2017

Ers 1952, mae pobl ifanc Llangollen wedi cyflwyno neges o heddwch ac ewyllys da i blant y byd o’r llwyfan ar ‘Ddiwrnod y Plant’, sy’n denu grwpiau mawr o ysgolion o bob cwr o’r ardal.

Dechreuodd hyn fel adleisio’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da blynyddol gan ieuenctid Cymru i’r Byd, ond wedyn esblygu i gymryd ei flas Llangollen ei hun.

I gael mwy o wybodaeth ar sut y gall eich ysgol gymryd rhan yn Neges Heddwch Plant yn Llangollen, cysylltwch â: Elise Jackson, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned, ffôn: 01978 862 000 e-bost: elise.jackson@llangollen.net