Archifau Categori: Newyddion

Tocynnau Aur+ Ar Gael Ar Gyfer Chwe Chyngerdd Craidd Eisteddfod Llangollen

Mae cyfle ‘euraid’ wedi codi i bobl sy’n mwynhau cerddoriaeth fwynhau Chwe Chyngerdd Craidd Eisteddfod Llangollen mewn steil yr haf hwn.

Bydd Wythnos Graidd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn agor eleni ar Ddydd Mawrth Gorffennaf yr 2il gyda phrif set gan yr arwr cerddorol Tom Jones, sy’n cychwyn y chwe diwrnod o gyngherddau gyda’r nos, a bydd y mezzo-soprano Katherine Jenkins yn cloi’r wythnos ar Ddydd Sul Gorffennaf y 7fed.

Rhwng y dyddiadau hyn, gall cynulleidfaoedd fwynhau amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau gyda’r nos, yn cynnwys y band gwerin arobryn Calan, y delynores frenhinol Alis Huws, ffefrynnau Britain’s Got Talent Côr Dynion John’s Boys, sêr y West End a Broadway Kerry Ellis a John-Owen Jones, a’r seren jazz arobryn sydd wedi ennill GRAMMY ddwywaith, Gregory Porter. (rhagor…)

GYMANFA GANU RYNGWLADOL I DDATHLU DYDD GWYL DEWI I’W CHYNNAL GAN EISTEDDFOD RYNGWLADOL LLANGOLLEN

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen newydd gyhoeddi eu bod am gynnal Gymanfa Ganu Ryngwladol, i ddathlu Dydd Gwyl Dewi fel eu digwyddiad codi arian diweddaraf. Fydd y Gymanfa ar Nos Sul, 3ydd o Fawrth yn Eglwys Sant Collen, Llangollen. Arweinydd y Gymanfa fydd Trystan Lewis, arweinydd poblogaidd iawn, ac organydd y noson fydd Owen Maelor Roberts. Rydym yn falch iawn fydd Ysgol Delynnau Derwent yn ymuno hefo ni ac hefyd, fydd negeseuon Gwyl Dewi gan grwpiau fydd yn ymddangos eleni yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen o bob ban y byd. (rhagor…)

EISTEDDFOD YN ANFON NEGES O GYMORTH I FRENIN SIARL III

king-charles
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn anfon ei dymuniadau gorau at Frenin Siarl III ar ôl iddo gael diagnosis o fath o cancr.
Mae Cadeirydd yr Eisteddfod, yr Athro Chris Adams, wedi ysgrifennu at Balas Buckingham gyda neges o gefnogaeth i’r Brenin ar ran yr ŵyl.
Meddai Chris, “Mae’r Brenin Siarl III wedi bod yn gefnogwr enfawr o’n gŵyl heddwch yn Llangollen. Fel Tywysog Cymru bu’n noddwr i ni am 26 mlynedd o 1996. Mae wedi ymweld â Llangollen sawl gwaith, ac wedi hyrwyddo cais Gwobr Heddwch Nobel 2004. Edrychwn ymlaen at ei groesawu eto ar ei adferiad. Dymunwn yn dda iddo, y Frenhines Camilla a’r Teulu Brenhinol wrth iddo wella”.

PARÊD CENHEDLOEDD YR EISTEDDFOD AR 3 GORFFENNAF

Dancers in Parade

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi y bydd ‘Parêd y Cenhedloedd’ enwog yn cael ei chynnal yn y dref ddydd Mercher, 3 Gorffennaf am 4.30yp. Gall ymwelwyr ddisgwyl sioe liwgar gan y bydd grwpiau o gyn belled i ffwrdd â Burundi, Canada, Tsieina, Ghana, India, Japan, Malaysia, Moroco, Singapôr, De Affrica, Tansania, Gwlad Thai, Trinidad a Tobago, UDA a Simbabwe yn cymryd rhan – ochr yn ochr â dwsinau o grwpiau o’r DU. 

Daw’r parêd, un o rannau canolog Eisteddfod graidd Llangollen lai na 24 awr ar ôl i Syr Tom Jones wneud ei ymddangosiad cyntaf hir-ddisgwyliedig yn yr ŵyl. Bydd yn cael ei ddilyn gan barti enfawr ar faes yr Eisteddfod, lle gall ymwelwyr fynd ar y maes am bunt! Yna bydd sêr gwerin Cymru, Calan, yn arwain cyngerdd ‘Cymru’n Croesawu’r Byd’ yn y Pafiliwn, gyda Chorws Bechgyn Johns’ Boys, a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain’s Got Talent a’r Delynores Frenhinol Alis Huws, ochr yn ochr â Cherddorfa Ryngwladol Llangollen.

Dywedodd John Gambles, Is-Gadeirydd yr ŵyl, “Eleni, ein parêd fydd y mwyaf ers blynyddoedd. Mae gennym ni gystadleuwyr rhyngwladol anhygoel o bob rhan o’r byd yn dod i’n tref ym mis Gorffennaf. Mae Parêd y Cenhedloedd yn un o’n digwyddiadau mwyaf poblogaidd ac fe’i dilynir gan ddathliad enfawr ar ein maes wrth i ni wir groesawu’r Byd i Gymru.”

Arweinir y Parêd gan Seindorf Arian Llangollen a Chrïwr Tref Llangollen, Austin “Chem” Cheminais. Yn 2023, aeth miloedd o drigolion i’r strydoedd, ac eleni bydd hyd yn oed mwy o gyfranogwyr a lliwiau. Yn 2024 mae wythnos graidd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng 2-7 Gorffennaf, gyda chyngherddau cyn ac ar ôl yn cynnwys artistiaid mor amrywiol â Jess Glynne, Manic Street Preachers, Madness, a Paloma Faith.

Dave Danford, Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl, fydd yn goruchwylio’r digwyddiad. Meddai, “Eleni, mae proffil ein gŵyl wedi mynd drwy’r to. Mae ein partneriaeth gyda Cuffe & Taylor yn golygu ein bod yr haf hwn yn dod ag artistiaid gwirioneddol ryngwladol i Langollen, megis Bryan Adams, a Nile Rodgers & Chic. Mae wythnos graidd yr Eisteddfod yn parhau i fod yn rhan ganolog o bopeth yr ydym yn ei wneud, a dyna pam ein bod yn dod â’n parêd ymlaen, i’w gynnal ar y diwrnod y byddwn yn croesawu’r Byd i Gymru.”

CROESAWU’R EISTEDDFOD GYDA BLODAU WRTH LANSIO GŴYL Y CENNIN PEDR

flower festival

Mae pwyllgor blodau enwog Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ehangu yn 2024 gyda’u ‘Gŵyl Y Cennin Pedr’ eu hunain.’ Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal yn Eglwys Sant Collen yn Llangollen o 5-7 Ebrill, a bydd yn cynnwys Cyngerdd Corawl gyda’r nos gyda Chôr Merched Lleisiau’r Afon, dan arweiniad Leigh Mason, yr unawdydd lleol enwog Clare Harrison, ynghyd ag Owen Roberts a pherfformiad Theatr Gerdd gan Shea Ferron. Bydd cyngerdd arbennig ‘Songs of Praise’ hefyd, dan arweiniad Ficer poblogaidd Llangollen, y Tad Lee Taylor.

Bydd yr ŵyl yn codi arian at elusen Eisteddfod Llangollen. Mae’r elusen yn helpu i ddod â channoedd o bobl o bob rhan o’r byd i’n gŵyl heddwch flynyddol. Bydd hefyd yn cynnwys ton o gennin Pedr ac arddangosfeydd blodau, gyda chennin Pedr o bob siâp, maint a deunydd wedi’u crefftio gan y gymuned gan gynnwys ysgolion lleol. Bydd y rhain yn cael eu harddangos yn yr eglwys ac yn Neuadd Gymunedol Sant Collen, a fydd yn cynnal stondinau, gweithdai, lluniaeth, a raffl ddydd Sadwrn, Ebrill 6.

Dywedodd Michelle Davies, Cadeirydd Pwyllgor Blodau Eisteddfod Llangollen, “Mae ein cennin Pedr yn symbol adnabyddus o Gymru ac yn nodwedd annwyl o’n gerddi a’n cefn gwlad. Beth am gynnal gŵyl i anrhydeddu ein hoff flodyn? Rydym wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer hyn ers misoedd, ac mae ein tîm eisoes wedi plannu cannoedd o fylbiau ar dir ein heglwys hardd o’r 6ed ganrif. Mae gennym 2 gyngerdd bendigedig ar y gweill, i gyd i ddathlu blodyn cenedlaethol Cymru. Bydd yr holl arian a godir yn mynd tuag at elusen Eisteddfod Llangollen i’n helpu i barhau i groesawu’r Byd i Gymru.”

Dechreuodd y traddodiad o addurno prif lwyfan yr Eisteddfod Ryngwladol gyda blodau yn yr ŵyl gyntaf yn 1947, pan roddwyd ychydig o flodau mewn jariau jam i guddio’r polion pebyll oedd yn dal adlen y llwyfan. Dros y 76 mlynedd diwethaf, mae’r traddodiad – ynghyd â faint o flodau – wedi tyfu, gyda’r arddangosfeydd mor eiconig â’r ŵyl ei hun.

Meddai’r Tad Lee Taylor, ficer â gofal Eglwys Sant Collen, Llangollen, “Rydym yn falch iawn o gael cynnal dathliad pwyllgor blodau Eisteddfod Llangollen o’r genhinen Bedr. Mae’r Eisteddfod yn gyfystyr â blodau. Bob blwyddyn, mae ein tref yn croesawu cystadleuwyr o bob rhan o’r byd i berfformio ar lwyfan wedi’i addurno’n ysblennydd â blodau. Yn ogystal â bod yn symbol o Gymru, mae cennin Pedr yn symbol o ddechreuad newydd, felly rydym yn falch iawn o groesawu gŵyl gyntaf erioed Llangollen i ddathlu cennin Pedr.”

SIMPLE MINDS Y PRIF ARTISTIAID OLAF I’W CYHOEDDI AR 2024

Mae’r eiconau roc byd-eang Simple Minds yn dod i Ogledd Cymru ar gyfer sioe fawr ym Mhafiliwn Llangollen.

Yr Albanwyr anhygoel yw’r act fawr olaf i’w chyhoeddi ar gyfer Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2024 a byddant yn perfformio yn y lleoliad nos Fercher 19 Mehefin. Yn ymuno â nhw ar y noson fydd eu gwesteion arbennig Del Amitri.

Bydd tocynnau ar gyfer y sioe fythgofiadwy hon yn mynd ar werth am 9yb ddydd Gwener (Ionawr 26) o llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk

Simple Minds yw un o’r bandiau mwyaf llwyddiannus i ddod o’r DU erioed, gan werthu mwy na 60 miliwn o recordiau ledled y byd a’u senglau wedi cyrraedd rhif un ar y ddwy ochr i Fôr yr Iwerydd. (rhagor…)

Lansio “Yn Fyw Yn Llangollen” i Gefnogi’r Eisteddfod!

Bydd trefnwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnal nifer o gigs yn Neuadd y Dref Llangollen i godi arian i gefnogi eu Heisteddfod. Mae’r gigs, a gynhelir yn fisol yn Neuadd y Dref Llangollen yn cynnwys artistiaid teyrnged i ABBA, Robbie Williams, Pink Floyd, Slade yn ogystal â’r Merseybeats gwreiddiol, a berfformiodd gyda’r Beatles yn y 1960au. (rhagor…)

MAE DAVE, GWEITHIWR PROFFESIYNOL YN Y DIWYDIANT CERDDORIAETH, YN YMHYFRYDU YN YR HER O FOD YN GYFARWYDDWR ARTISTIG NEWYDD EISTEDDFOD GERDDOROL RYNGWLADOL LLANGOLLEN

Dave Danford

Mae gweithiwr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant cerddoriaeth sydd wedi gweithio gyda rhai o enwau mwyaf y busnes wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Artistig newydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Yn 39 oed, mae Dave Danford eisoes wedi bod â chysylltiad degawd o hyd â’r ŵyl eiconig ac wedi camu i’r rôl allweddol ar ôl nifer o flynyddoedd fel ei Rheolwr Cynhyrchu.

Mae’n “hynod gyffrous” am ei benodiad, sydd newydd gael ei gyhoeddi gan fwrdd ymddiriedolaeth yr Eisteddfod. Ariennir y penodiad drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Ac mae’n dweud ei fod yn ymhyfrydu yn yr her o oruchwylio pob agwedd gerddorol o’r ŵyl, o gyngherddau mawr yn cynnwys sêr mor amrywiol â Syr Tom Jones a’r Manic Street Preachers cyn ac yn ystod wythnos graidd yr ŵyl o 2-7 Gorffennaf, i’w rhaglen unigryw o gystadlaethau o safon ryngwladol. (rhagor…)

MENYW DDAETH YN ADNABYDDUS FEL WYNEB GOGLEDD CYMRU PAN ENILLODD YN EISTEDDFOD LLANGOLLEN YN EI HARDDEGAU’N DAL I DDYCHWELYD BOB BLWYDDYN

Myron Lloyd

Mae menyw a ddaeth yn adnabyddus fel “wyneb gogledd Cymru” ar ôl iddi ennill cystadleuaeth ganu bron i 70 mlynedd yn ôl yn Eisteddfod Gerddorol Genedlaethol Llangollen yn dal i ddychwelyd yno bob blwyddyn fel gwirfoddolwr. Pan oedd yn ei harddegau, teithiodd Myron Lloyd o’i chartref yn Sir Benfro i gystadlu yn y categori Unawd Cân Werin yn Eisteddfod 1956. Daeth yn fuddugol.

Oherwydd ei llwyddiant, tynnwyd llun o Myron – oedd â’r cyfenw Williams bryd hynny am ei bod yn ddibriod – gan nifer o ddynion camera wrth iddi ddathlu allan ar y cae. Yn ddiweddarach, pan oedd hi yn ôl yn ne Cymru, cafodd y ferch i ffermwr, sydd yn awr yn ei 80au, syndod o weld y llun hwnnw ohoni a dynnwyd ar y diwrnod yn dechrau ymddangos ar amrywiaeth o nwyddau gwerthu oedd yn hysbysebu Gogledd Cymru. Roedd hi’n gwisgo gwisg Gymreig draddodiadol, yr het ddu a’r siôl, ac aeth y llun yn firol, neu mor agos ag y gellid i hynny yn yr 1950au.’’ (rhagor…)