Yn y Pafiliwn heddiw: Ni ddylid methu’r diwrnod llawn cyntaf o gystadlaethau gan fod y corau Agored Iau, Hŷn a Phlant yn cymryd i’r llwyfan. Fel ffordd o ddathlu llwyddiannau gwych plant a phobl ifanc, bydd Tlws arbennig a £500 ychwanegol i’r côr sy’n sgorio uchaf o blith y corau plant yn cael ei ddyfarnu… Darllen rhagor »
MwyDigwyddiadau Diwrnod y Pafiliwn
Dydd Iau 10 Gorffennaf – – Yn Ystod y Dydd yn y Pafiliwn
Yn y Pafiliwn heddiw: Heddiw yn y pafiliwn rydym yn cychwyn gyda’n cystadleuaeth ensemble Offerynnol. Gydag amrywiaeth hyfryd o ensembles o bob rhan o’r byd mae’n siŵr o’ch paratoi ar gyfer diwrnod llawn o gystadlaethau. Gyda rowndiau terfynol Dawns, Corau Plant ac unawdau Offerynnol mae’n ddiwrnod na ddylid ei fethu!
MwyDydd Gwener 11 Gorffennaf – Yn Ystod y Dydd yn y Pafiliwn
Yn y Pafiliwn heddiw: Ymunwch â ni am ddiwrnod bendigedig yn y Pafiliwn gyda Chorau Alaw Werin Agored ac Oedolion, Llais Ifanc y Theatr Gerdd, rownd gynderfynol Llais Rhyngwladol y Dyfodol a’n cystadlaethau Unawdwyr Gwerin Rhyngwladol. Yn ogystal, mae gennym ein cystadleuaeth grŵp dawns gyda Choreograffi/ arddull yn ogystal â’n Cystadlaethau Dawns Unigol (unawd, deuawd, triawd). Diwrnod amrywiol iawn na ddylid ei fethu!
MwyDydd Sadwrn 12 Gorffennaf – Yn Ystod y Dydd yn y Pafiliwn
Yn y Pafiliwn heddiw: Eleni bydd ein cystadleuaeth Bandiau Cymunedol yn dechrau’r dydd eto ar brif lwyfan y pafiliwn ac mae’n mynd i fod yn wych! Hefyd, heddiw, bydd ein corau Meibion, Merched, Ieuenctid a Chymysg yn brwydro ar gyfer rownd derfynol Côr y Byd gyda’r nos. Pwy fydd ein pencampwr eithaf ar gyfer 2025? Byddwn hefyd yn gweld amrywiaeth o ensembles dawns gwahanol yng nghystadleuaeth ddawns Pencampwyr Eithaf Llangollen a bydd unrhyw un a fethodd ein neges Heddwch a gyflwynwyd yn wreiddiol ar Ddiwrnod y Plant, yn cael cyfle i’w chlywed heddiw.
Mwy