Friday 21 June 2024
Paloma Faith

Mae’r artist platinwm dwbl ac enillydd gwobr BRIT, Paloma Faith, yn teithio i ogledd Cymru yr haf nesaf fel rhan o’i thaith The Glorification Of Sadness 2024.

Daw’r cyhoeddiad wrth i Paloma ryddhau ei sengl gyntaf mewn tair blynedd, How You Leave A Man, ac wrth iddi ddatgelu y bydd ei chweched albwm The Glorification of Sadness yn cael ei ryddhau ar Chwefror 16 – ei cherddoriaeth newydd gyntaf ers rhyddhau ei phumed albwm Infinite Things ym mis Tachwedd 2020.

Bydd y cyngerdd yn Llangollen yn gweld Paloma yn perfformio amrywiaeth o ganeuon o’i repertoire helaeth gyda chyfle i’w dilynwyr gyd-ganu i glasuron fel Only Love Can Hurt Like This a Lullaby yn ogystal â chaneuon newydd o The Glorification of Sadness.

Cyflwynir y brif sioe mewn partneriaeth newydd rhwng Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a hyrwyddwyr Live Nation Cuffe & Taylor ac mae’n nodi’r ail gyhoeddiad ar gyfer 2024.

Mae tocynnau ar werth dydd Gwener 20 Hydref am 10am ond gallwch gofrestru ar gyfer mynediad ymlaen llaw YMA