Dod o hyd i ni

Mewn Awyren

Daw awyrennau o bob rhan o’r byd i Faes Awyr Manceinion sydd ond ychydig ymhellach nag awr o daith car ar draffordd yr M56. Mae Maes Awyr John Lennon Lerpwl hyd yn oed yn nes.

Mae manylion hedfan i’w cael ar wefannau swyddogol y meysydd awyr: www.manchesterairport.co.uk a www.liverpoolairport.com

Mewn Car

Mae’n hawdd cyrraedd Llangollen o Gymru a Lloegr. Mae’r dref ar yr A5 o Lundain i Gaergybi, dim ond tua hanner awr o brif rwydwaith traffyrdd y DU. Rhowch LL20 8SW yn eich Llywiwr Lloeren.

Ar y trên

Y gorsafoedd rheilffordd cyhoeddus agosaf yw Rhiwabon a’r Waun. Am fanylion pellach, ewch i:
Arriva Trains Wales, www.nationalrail.co.uk neu www.trainline.co.uk

Ar y Bws

Mae manylion bws lleol i’w gweld ar wefan Arriva. Mae eu Gwasanaeth Rhif 5 yn gweithredu bob 30 munud rhwng Wrecsam, Rhiwabon (yn galw yn yr orsaf i gysylltu â’r trenau), Acrefair, Trevor a Llangollen. Ar adegau mwy prysur, bydd yna fysiau ychwanegol wedi’u trefnu.