Y Tîm

Dave Danford – Cyfarwyddwr Artistig
Nancy Ellis-Day – Arbenigwr Codi Arian
Chloe Gibbens – Cydlynydd Digwyddiadau Arweiniol
Hayley Miller – Rheolwr Gweithrediadau
Mikala Nash – Gweinyddwr Arweiniol
Alix Rawlinson – Cydlynydd Gwirfoddolwyr


Ymddiriedolwyr
 

Yr Athro Chris Adams
Mae ganddo ddegawdau o brofiad fel Prif Swyddog Gweithredol a Chadeirydd ac mae ganddo brofiad bwrdd mewn cwmnïau masnachol, di-elw ac elusennau gan gynnwys cwmnïau Unilever a’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol. Mae ganddo brofiad hefyd o lywodraethu sefydliadol; datblygu polisi a strategaeth. 

Parchedig Rebeca Canon
Hyfforddwyd fel Actor a Chyfarwyddwr Theatr proffesiynol yn y DU gan weithio’n rhyngwladol ar berfformiadau a digwyddiadau amlddisgyblaethol ar raddfa fawr. Mae hi bellach yn Gaplan (Anglicanaidd) gyda’r Awyrlu Brenhonol (RAF). 

Grant Calton
Sylfaenydd a buddsoddwr yn y diwydiannau cerddoriaeth, ffilm a theledu yn Ewrop ac Awstralia. Partner yn Ironbridge Capital a mentor busnes i Ymddiriedolaeth y Tywysog a’r Mercers Guild. 

Allison Davies
Yn gyn-athrawes ac uwch swyddog addysg, mae gan Allison sgiliau trefnu a sgiliau pobl. Mae’n arbenigo mewn diogelu a chynhwysiant ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Panel Maethu Annibynnol ar gyfer asiantaeth faethu. 

Sarah Ecob (Cadeirydd)
Sarah yw Pennaeth Gwasanaeth Economi a Diwylliant Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyda chyfrifoldebau yn cynnwys Venue Cymru, Theatr Colwyn a Stadiwm CSM. Mae Sarah yn hyrwyddwr angerddol dros bŵer y celfyddydau a diwylliant i wella lles ac i gefnogi’r economi. 

Shea Ferron
Mae Shea yn wyneb adnabyddus yn lleol ac ym myd y celfyddydau. Yn fyfyriwr blwyddyn olaf yn The Institute for Contemporary Theatre ym Manceinion, mae’n canu gyda’r enwog Johns’ Boys a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain’s Got Talent. 

John Gambles
Yn Swyddog Addysg ac Athro wedi ymddeol, mae John hefyd yn Ymddiriedolwr Ardal Genhadaeth Glyn-y-groes a Chymdeithas y Cwn Llandysilio a’r Rhewl. 

David Hennigan
Yn weithiwr cyfathrebu proffesiynol ac yn newyddiadurwr darlledu hyfforddedig, mae David yn arbenigo mewn cyfathrebu corfforaethol, cysylltiadau cyfryngau, eiriolaeth a llywodraethu. 

Selana Kong
Yn arbenigo mewn addysg cerddoriaeth ryngwladol, hyfforddi a llywodraethu corfforaethol. Ei sgiliau allweddol yw arwain a thrafod; deinameg tîm a rheoli perthnasoedd; meddwl strategol a chreadigol. 

Lucy Morris
Yn Drysorydd Eisteddfod Llangollen ers 2020 , mae Lucy wedi ymddeol fel Rheolwr Cyllid i Gyngor Sir y Fflint a bu hefyd yn dal swyddi cyfrifeg uwch o fewn y GIG a’r sector preifat. Mae hi’n gyfrifydd cymwysedig ac yn archwilydd mewnol. 

Karl Young
Ar ôl cymhwyso fel pensaer, daeth Karl yn arlunydd tirluniau ac yn berchen ar Oriel Oak Street yn Llangollen. Mae wedi bod yn aelod o griw llwyfan Eisteddfod Llangollen ers 2006 ac yn Ddirprwy Reolwr Llwyfan.