Ewch i wefan Archif yr Eisteddfod www.limearchive.org.uk. Yma gallwch ddod o hyd i straeon, lluniau, newyddion, canlyniadau a mwy o wyliau’r gorffennol sydd wedi’u curadu gan y Pwyllgor yr Archif.
Cedwir y casgliad mwyaf o ddeunydd archifol ar gyfer yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn Archifdy Sir Ddinbych yn Rhuthun. Fe’i gwarchodir mewn storfa â system gyflyru aer a gwrth-dân. Mae’r deunydd yn gymysgedd o lyfrau cofnodion, lluniau, toriadau papur newydd, posteri, a rhai recordiadau sain. Mae’r rhan fwyaf ohono yn dyddio o cyn 1980, ond mae rhai bylchau, yn enwedig mewn perthynas â gweithgareddau pwyllgor.
Sut fedrwch chi helpu?
Gall unrhyw un sydd ag unrhyw fath o ddeunyddiau sy’n ymwneud â’r Eisteddfod ein helpu i greu darlun mwy o’r Eisteddfod. Gallant wneud un o dri pheth:
- Rhoi deunyddiau i’r Eisteddfod
- Gadael i’r Eisteddfod ei fenthyg yn barhaol
- Gadael i ni wneud copi ohono ar gyfer ein harchif a’i ddychwelyd
Ym mhob achos, rydym yn addo cymryd gofal o unrhyw beth y rhowch fynediad i ni ato.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i: www.limearchive.org.uk/cy/get-involved