Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen – Polisi Preifatrwydd
(Diweddarwyd ym mis Mai 2018)
Pwrpas y polisi preifatrwydd hwn
Rydym yn ymroi i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ac i fod yn dryloyw am y wybodaeth a ddaliwn amdanoch chi. Mae defnyddio gwybodaeth bersonol yn ein galluogi i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’n mynychwyr, ac yn ei dro, darparu gwybodaeth bersonol ac amserol i chi am y gwaith a wnawn.
Pwrpas y polisi hwn yw rhoi esboniad clir i chi ynghylch sut rydym yn casglu ac yn prosesu eich gwybodaeth bersonol trwy eich defnydd o’n gwefan, gan gynnwys unrhyw ddata yr ydych yn ei ddarparu drwy’n gwefan a phan fyddwch yn cofrestru i’n cylchlythyr, yn prynu tocyn neu’n rhoi rhodd.
Mae’n bwysig eich bod chi’n darllen y polisi preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw bolisi preifatrwydd arall neu hysbysiad prosesu teg y gallem eu darparu ar achlysuron penodol pan fyddwn yn casglu neu’n prosesu gwybodaeth amdanoch chi, er mwyn i chi fod yn ymwybodol o sut a pham rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn ychwanegu at ein polisïau eraill ac ni fwriedir iddo ddiystyru’r polisïau hynny.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwn amdanoch yn unol â:
- Deddf Diogelu Data 1998
- Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb y CE) 2003
- Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE (Rheoliad yr UE 2016/679), (‘GDPR’) a ddaw i rym o 25 Mai 2018.
Mae’r polisi hwn yn esbonio:
- Pwy ydym ni
- Gwybodaeth y gallem ei chasglu amdanoch chi
- Sut ydym yn casglu eich data
- Sut gallem ddefnyddio eich gwybodaeth
- Datgelu eich manylion i drydydd parti
- Diogelwch eich gwybodaeth bersonol
- Cadw Data
- Eich hawliau cyfreithiol
- Rhoi gwybod am newidiadau i’n polisi preifatrwydd
- Manylion cyswllt a rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar ddiwedd y polisi hwn.
I weld ein telerau ac amodau gwerthu, ewch i Telerau ac Amodau Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
Cookies in use on this website
Cookie | Type | Duration | Description |
---|---|---|---|
qtrans_front_language | persistent | 1 year | This cookie sets which language you last viewed the website |
wordpress_test_cookie | Session | Session | This cookie is used to check whether cookies are enabled to provide the proper user experience for our site administrators |
_fbp | third party | 90 days | This is the Facebook Pixel cookie. It helps us keep track of our Facebook ads. |
_ga | third party | 2 years | Used by Google Analytics to distinguish users |
_gat | third party | 1 min | This Google Analytics cookie does not store any user information; it's just used as a check to limit the number of requests. |
_gid | third party | 24 hours | Used by Google Analytics to distinguish users |