Bydd wythnos graidd yr Eisteddfod, 2-7 Gorffennaf 2024, yn cynnwys y meysydd arferol:
- Cystadlaethau cerddoriaeth a dawns o fri rhyngwladol: unrhyw un sydd â diddordeb mewn cystadlu edrychwch ar faes llafur eleni!
- Amrywiaeth o gyngherddau amrywiol bob nos yn y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol, gyda rhywbeth at ddant pawb.
- Yr orymdaith boblogaidd ac anhygoel drwy strydoedd Llangollen, yn dathlu ein cymuned leol a’n gwesteion rhyngwladol.
- Maes awyr agored llawn cyffro sy’n cynnwys perfformiadau, bwyd stryd a siopa, adloniant i’r teulu cyfan!
Y naill ochr i wythnos graidd yr Eisteddfod cynhelir y sioeau ychwanegol rydym yn eu cyd-gyflwyno gyda Cuffe & Taylor i ddod ag enwau proffil uchel a buddsoddiad a phroffil ychwanegol sydd mawr eu hangen i’r Eisteddfod a Llangollen.
Gwneir cyhoeddiadau am raglen wythnos yr Eisteddfod ddiwedd yr hydref, cadwch lygad ar y dudalen hon, ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ymunwch â’n rhestr bostio.