
Sylwer os gwelwch yn dda: Safle ar agor i grwpiau ysgol yn unig o 8:30yb .
Bydd y safle ar agor i aelodau’r cyhoedd a deiliaid tocynnau o 10.30am tan 10.00pm.
Bydd eich sedd cadw ar gael yn arena’r Pafiliwn ar gyfer Gwobrau’r Heddychwyr Ifanc a chystadlaethau’r prynhawn o 12:00pm ymlaen.
Pris Llawn – £16
Pris Plentyn – £6
(Ffioedd Archebu yn berthnasol)
Mae tocynnau Diwrnod y Pafiliwn yn cynnwys mynediad llawn i’r maes a sedd gadw yn y Pafiliwn ar gyfer cystadlaethau yn ystod y dydd.
Cyngherddau Dydd
Diwrnod y Plant (Grwpiau ysgol sydd wedi archebu ymlaen llaw yn unig) – ychydig o wybodaeth i’w hychwanegu
Diwrnod pleserus i’r plant a gwibdaith addysgiadol sy’n bodloni nifer o ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol; cysylltu ymwybyddiaeth o ddinasyddiaeth fyd-eang a diwylliant â phrofiad cadarnhaol a chofiadwy.
Cystadlaethau
(Sylwer mi all y rhain newid ac ychwanegir yr amseroedd maes o law):
Ni ddylid colli diwrnod llawn cyntaf y cystadlaethau fel y corau plant a grwpiau dawnsio gwerin y plant gamu ar y llwyfan. Rydym hefyd yn cynnwys Gwobrau Heddychwyr Ifanc Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
Gwobrau Heddychwyr Ifanc – dathlu pobl ifanc sydd wedi cyfrannu at heddwch a dinasyddiaeth fyd-eang yn eu hysgol, grŵp ieuenctid, cymuned leol neu dramor mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Corau Plant Iau – Mae’r gystadleuaeth corau plant yma ar gyfer cantorion 12 oed ac iau. Byddant yn canu rhaglen gyferbyniol o hyd at 6 munud, a fydd yn cynnwys trefniant gan gyfansoddwr byw.
Dawns Werin Traddodiadol i Blant – Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer grwpiau dan 16 oed. Byddant yn arddangos traddodiadau dawnsio gwerin o’u diwylliant eu hunain. Bydd ganddynt gerddorion a chludwyr baneri. Ni ddefnyddir unrhyw gerddoriaeth wedi’i recordio ymlaen llaw ar gyfer y gystadleuaeth hon.
Corau Plant Hŷn – Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer corau 12-18 oed. Byddant yn perfformio rhaglen gyferbyniol o hyd at 8 munud, a fydd yn cynnwys gwaith neu drefniant gan gyfansoddwr byw.
Côr Plant y Byd – I ddathlu safon wych y canu corawl ymysg plant a phobl ifanc yn yr Eisteddfod, rydym wedi cyflwyno tlws arbennig ar gyfer corau plant yn unig. Bydd yr enillydd yn derbyn Tlws Rhyngwladol a £500; bydd yr arweinydd mwyaf ysbrydoledig yn derbyn £200. Arian y wobr a thlws yn rhoddedig gan Dr a Mrs Rhys Davies er cof am eu mab Owen Davies.