Mae rhoddion elusennol yn hanfodol i waith Eisteddfod Llangollen ac am y rheswm hwn mae arnom angen eich cymorth i sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau a chymryd rhan yn y digwyddiad blynyddol gwych hwn.
Mae sawl ffordd gyflym a diogel y gallwch chi gyfrannu at yr Eisteddfod heddiw.
Rhoi ar-lein
Cliciwch yma i gyfrannu ar-lein
Cyfraniad ariannol drwy neges destun
Tecstiwch YourLlangollen5 at 70085 i gyfrannu £5
Tecstiwch YourLlangollen10 at 70085 i gyfrannu £10
Bydd negeseuon testun yn costio swm y rhodd a ddewiswyd ynghyd â chost un neges cyfradd rhwydwaith safonol. Bydd y tâl hwn yn cael ei gymryd o’ch credyd Talu wrth Fynd neu’n cael ei ychwanegu at eich bil ffôn symudol misol.
Rhoi wrth Fyw (“Give As You Live”)
Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gyfrannu rhodd am ddim i ni bob tro y byddwch yn siopa ar-lein?
Y cyfan sydd rhaid i chi ei wneud yw siopa drwy Rhoi wrth Fyw (Give as you Live) a bydd canran o’ch gwariant yn cael ei rhoi i ni, heb unrhyw gost ychwanegol i chi.
Mae’n gyflym a hawdd ei defnyddio, dilynwch y ddolen hon i’n cyfrif a gofynnwch i’ch holl ffrindiau a’ch teulu ein cefnogi ni hefyd!
“Just Giving”
Rydym yn elusen gofrestredig ar ‘Just Giving’ sy’n golygu y gallwch godi arian ar ein rhan, boed hynny’n ras rhedeg noddedig neu ymgyrch cyfryngau cymdeithasol! Mae’r arian yn mynd yn syth atom ni.
Ble mae’ch rhodd yn mynd?
Mae‘n helpu artistiaid ledled y byd i oresgyn heriau economaidd i berfformio
Rhaglenni allgymorth i gynnwys y gymuned leol yn y celfyddydau a diwylliant
Yn meithrin ein prosiect cynhwysiant i hyrwyddo amrywiaeth yn y celfyddydau
Mae’n caniatáu i’r ŵyl barhau i redeg bob blwyddyn
Tlysau a gwobrau am gystadlaethau corawl
Mae’n ein galluogi i gynnig tocynnau am ddim i ysgolion lleol a grwpiau cymunedol