Hanes

Darganfod hanes yr Eisteddfod, y buddugoliaethau, problemau a’i chyfrinachau, ar wefan yr archif www.limearchive.org.uk.

Stori’r Eisteddfod

Roedd Eisteddfod Ryngwladol 1947 yn llwyddiant ysgubol: mentrodd grwpiau o 7 gwlad dramor draw i Langollen, gan ymuno â 33 côr o Gymru, Lloegr a’r Alban. Roedd y cyfan yn hwyl mawr. Canmolwyd y trefnwyr, y sylfaenwyr, a’r cystadleuwyr yn fawr.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf cynyddodd nifer y gwledydd a gymerodd ran: erbyn 1953, pan ymwelodd y Frenhines Elisabeth II â’r Eisteddfod fel rhan o’i thaith drwy Gymru ar ôl y coroni, roedd cantorion a dawnswyr o 30 gwlad wedi cystadlu yn Llangollen. Roedd gŵyl wirioneddol ryngwladol wedi cael ei chreu, ei threfnu a’i rhedeg gan wirfoddolwyr.

Erbyn hyn mae Llangollen wedi ennill ei lle ymysg digwyddiadau cerddoriaeth byd. Mae mwy na 400,000 o gystadleuwyr o dros 140 o genhedloedd wedi perfformio’n frwd ar lwyfan Llangollen.

Yn 1955 roedd y Luciano Pavarotti ifanc yn aelod o gôr ei dref enedigol, Modena, a arweiniwyd gan ei dad. Enillodd y côr y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth corau meibion. Dychwelodd Pavarotti ar gyfer cyngerdd arbennig yn 1995

Mi ddechreuodd gyda gweledigaeth y gallai’r traddodiad eisteddfodol Cymreig hynafol fod yn ffordd o iacháu clwyfau’r Ail Ryfel Byd, a helpu i hyrwyddo heddwch parhaol.

Roedd Snowflakes yn un o blith nifer o gôrau Cymreig yn Eisteddfod gyntaf Llangollen ac roedd eraill yn cynnwys Cymdeithas Gorawl Merched Penarth a Chymdeithas Gerddorol Merched y Rhondda Ganol a fu’n cystadlu yn erbyn corau o bob rhan o’r DU, Portiwgal, yr Eidal, Sweden, Denmarc, yr Iseldiroedd a Hwngari.

Mae’r sêr cerddorol sydd wedi ymddangos yn ein cyngherddau yn cynnwys Margot Fonteyn, Alicia Markova, Joan Sutherland, Angela Georghiu, Kiri Te Kanawa, Jehudi Menuhin, José Carreras, Lesley Garrett, Bryn Terfel, Katherine Jenkins, Dennis O’Neil, James Galway, Nigel Kennedy, Elaine Paige, Michael Ball, a Montserrat Caballé.

Dywed Placido Domingo mai ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf yn y Deyrnas Unedig oedd yn Eisteddfod Ryngwladol 1968.