Croeso i’n gwefan. Os byddwch yn parhau i bori a defnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i gydymffurfio a chael eich rhwymo gan y telerau ac amodau canlynol sydd, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, yn rheoli perthynas Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen â chi mewn perthynas â’r wefan hon. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o’r telerau ac amodau hyn, peidiwch â defnyddio ein gwefan. Ar gyfer telerau ac amodau tocynnau cliciwch yma.
Mae’r term ‘Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen’ neu ‘ni’ yn cyfeirio at berchennog y wefan sydd â’i swyddfa gofrestredig yn y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol, Ffordd yr Abaty, Llangollen, Sir Ddinbych, LL20 8SW. Rhif cofrestredig y cwmni yw 1165311. Mae’r term ‘chi’ yn cyfeirio at y defnyddiwr neu’r sawl sy’n pori ein gwefan.
Mae defnyddio’r wefan hon yn amodol ar y telerau defnydd canlynol:
- Mae cynnwys tudalennau’r wefan hon ar gyfer eich gwybodaeth a’ch defnydd cyffredinol yn unig. Gellir ei newid heb rybudd.
- Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i fonitro dewisiadau pori. Darllenwch ein polisi cwcis llawn yma.
- Nid ydym ni nac unrhyw drydydd parti yn darparu unrhyw warant ynghylch cywirdeb, amseroldeb, perfformiad, cyflawnder nac addasrwydd y wybodaeth a’r deunyddiau a geir neu a gynigir ar y wefan hon at unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod y gallai gwybodaeth a deunyddiau o’r fath gynnwys gwallau neu gamgymeriadau ac rydym yn benodol yn eithrio atebolrwydd am unrhyw wallau neu gamgymeriadau o’r fath i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith.
- Mae eich defnydd o unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon ar eich menter eich hun, ac ni fyddwn yn atebol. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw gynnyrch, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael drwy’r wefan hon yn cwrdd â’ch gofynion penodol.
- Mae’r wefan hon yn cynnwys deunydd sy’n eiddo neu wedi ei drwyddedu i ni. Mae’r deunydd hwn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i’r canlynol, sef dyluniad, cynllun, edrychiad, ymddangosiad a graffeg. Gwaherddir atgynhyrchu ac eithrio lle mae hynny’n unol â’r hysbysiad hawlfraint, sy’n ffurfio rhan o’r telerau a’r amodau hyn.
- Mae pob nod masnachol a atgynhyrchir ar y wefan hon, nad ydynt yn eiddo, neu’n drwyddedig i’r gweithredydd, yn cael eu cydnabod ar y wefan.
- Gall defnyddio’r wefan hon heb ganiatâd arwain at hawliad am iawndal a/neu olygu cyflawni trosedd.
- O bryd i’w gilydd, efallai y bydd y wefan hon hefyd yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn er hwylustod i chi er mwyn darparu gwybodaeth bellach. Nid ydynt yn golygu ein bod yn cymeradwyo’r gwefan/gwefannau hynny. Nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y wefan/gwefannau cysylltiedig.
- Mae eich defnydd o’r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy’n deillio o ddefnydd o’r fath ar y wefan yn ddarostyngedig i gyfreithiau Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.