
Yn dilyn eu taith In Harmony, a werthodd allan yn 2019, mae dau o leisiau clasurol mwyaf poblogaidd y byd yn lansio rhaglen gyngerdd Llangollen 2022 gan berfformio caneuon o’u halbwm, Back In Harmony.
Bydd y noson yn cynnwys toreth o emynau, ariâu a chaneuon poblogaidd – yn amrywio o gyffro Funiculi, Funicula i heddwch Yr Arglwydd yw Fy Mugail.
Mae Aled a Russell wedi coleddu ysbryd yr Eisteddfod o gydweithredu a chyfeillgarwch, tra bod y ddau ohonynt yn dod â’u harddull unigryw eu hunain i greu’r record hyfryd yma.
Fel dau o artistiaid lleisiol amlycaf y byd clasurol, gyda gwobrau nodedig dirifedi, gwerthu miliynau o gopïau o’u halbymau a chyrraedd brig y siartiau dro ar ôl tro, bydd y cyfuniad perffaith hwn yn swyno dilynwyr selog a chynulleidfaoedd yr Eisteddfod fel ei gilydd.
“Mae eu sioe fyw yn profi mor wych yw’r ddau yma.” Broadway World
Dydd Iau 7 Gorffennaf 2022 – 7:30pm
Tocynnau – £48/£37
Noddir yn garedig gan
