Gwirfoddoli

Yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen mae gennym gyfleoedd gwirfoddoli sy’n addas ar gyfer ystod eang o ddiddordebau, sgiliau a galluoedd. Yn naturiol, rydym yn croesawu pobl sydd eisiau cymryd rhan yn ystod wythnos yr Eisteddfod ei hun, ond rydym hefyd yn awyddus i glywed gan unigolion a allai roi rhywfaint o’u hamser trwy gydol y flwyddyn, gan fod digon i’w wneud bob amser!

Mae sefydliad yr Eisteddfod yn cynnwys swm anhygoel o 800 o wirfoddolwyr mewn amrywiaeth o swyddogaethau, yn ogystal ag amryw o weithwyr swyddfa sy’n cymryd gofal o’r ochr ariannol, gweinyddu a gwerthiant tocynnau. Mae yna drefn bwyllgorau, gyda phob pwyllgor yn ymdrin â maes gwahanol o’r sefydliad, o gyllid a thocynnau, i flodau ac archifau.

Yn gyffredinol, mae gwirfoddolwyr yn aelodau o bwyllgor ac yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfodydd a digwyddiadau ar hyd y flwyddyn er mwyn trafod a datblygu cynlluniau, a rhoi eu mewnbwn gwerthfawr i baratoadau’r Eisteddfod.

Gwneud Cais

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at volunteers@llangollen.net 

Ein timau gwirfoddolwyr

Archifau/Archives

  • Catalogio a rheoli creiriau, llenyddiaeth, ffotograffau a ffilmiau’r Eisteddfod.
  • Trefnu arddangosfeydd ac arddangosiadau o ddeunydd archifol yn ystod wythnos yr Eisteddfod a digwyddiadau eraill yn ôl y gofyn.
  • Ymchwilio i Eisteddfodau’r gorffennol.
  • Datblygu a rheoli archif electronig.

Blodeuog/Floral

  • Dylunio a chreu arddangosfeydd blodau trawiadol yn y prif bafiliwn ac o amgylch y safle yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
  • Creu sawl tuswau o flodau i’w cyflwyno i’r ymwelwyr o bwys, artistiaid enwog a noddwyr.
  • Rhedeg stondin flodau yn ystod wythnos yr Eisteddfod gan werthu addurniadau bwrdd, tuswau blodau ac eitemau eraill a baratowyd gan wirfoddolwyr i godi arian.
  • Cefnogi digwyddiadau ar hyd y flwyddyn gydag addurniadau blodau.

Daearoedd/Grounds

Mae daearoedd yn bwyllgor mawr sy’n cynnwys y meysydd canlynol:

  • Rheoli Blaen y Tŷ yn y pafiliwn, gan gynnwys:
    • Sefydlu a threfnu seddi pafiliwn ac ardaloedd blaen y tŷ.
    • Trefnu seddi ar gyfer y gynulleidfa gyda chefnogaeth tîm o dywyswyr o’r ysgol uwchradd leol.
  • Rheoli safle gan gynnwys:
    • Gwerthu lleiniau i fasnachwyr ac arlwywyr wythnos yr Eisteddfod
    • Cynllun a gosodiad maes yr Eisteddfod.
    • Rheoli’r holl faterion mewn perthynas â safle a gwasanaethau safle (adeiladu, cynfas, plymio, trydan ac ati)
    • Trafod a rheoli contractwyr safle (adeiladu’r safle, cynfas, diogelwch ac ati)
  • Trefnu parcio ceir a bysiau.
  • Ceir benthyg.
  • Rheoli Iechyd a Diogelwch.
  • Rheoli cyfathrebu (switsfwrdd, ffonau, radio walkie talkies, teledu cylch cyfyng).

Cystadleuwyr/Competitors

Pwyllgor mawr arall yw Cystadleuwyr ac mae’n cynnwys y gweithgareddau canlynol:

  • Cysylltu gyda chystadleuwyr o’r Deyrnas Unedig a thramor er mwyn eu cynorthwyo gyda pharatoadau teithio, trosglwyddiadau, llety ac unrhyw faterion sy’n codi yn ystod eu hamser yn yr ŵyl.
  • Cyrchu a threfnu llety mewn gwestai mawr a bach, sefydliadau addysgol ac aros mewn cartrefi ar gyfer cystadleuwyr.
  • Croesawu grwpiau wrth iddynt gyrraedd maes yr Eisteddfod a darparu gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaethau dehongli ar eu cyfer yn ôl yr angen.
  • Paratoi a darparu prydau bwyd ar gyfer grwpiau sy’n cystadlu.
  • Edrych ar ôl bagiau ac eiddo cystadleuwyr wrth iddynt berfformio.

Marchnata/Marketing

  • Gweithio gyda Swyddog Marchnata Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen er mwyn gweithredu strategaeth farchnata gytunedig drwy gymysgedd o farchnata uniongyrchol a hysbysebu.
  • Mewnbwn i ddyluniad, cynnwys a dosbarthiad amrywiaeth eang o ddeunyddiau marchnata.
  • Cydlynu a datblygu sgyrsiau annog a marchnata Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i sefydliadau allanol.
  • Trefnu a staffio stondinau arddangos.
  • Dylunio, adeiladu a staffio’r Ganolfan Ymwelwyr/Gwybodaeth yn ystod wythnos yr ŵyl.
  • Recriwtio, hyfforddi a threfnu Croesawyr a Gwerthwyr Rhaglen gan weithio’n agos gyda sefydliadau addysg lleol.
  • Baneri rhyngwladol ar y bont yn Llangollen ac ar y Maes.

Cerddoriaeth a Llwyfannau

Mae’r pwyllgor Cerddoriaeth a llwyfannau yn gyfrifol am weithgareddau sy’n gysylltiedig â chystadlaethau a pherfformiadau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Llwyfannau Allanol: Mae tri llwyfan allanol mewn lleoliadau gwahanol ar y maes gyda pherfformiadau gan gystadleuwyr, grwpiau nad ydynt yn cystadlu a rhai artistiaid proffesiynol. Mae gwirfoddolwyr yn ymwneud â gweithgareddau fel cyflwyno, sain a goleuo a chymorth cyffredinol.
  • Hawlfraint: Mae’r tîm hawlfraint yn gyfrifol am wirio beth y mae pob grŵp yn ei berfformio a delio â materion PRS (hawliau perfformio).
  • Cefnogaeth swyddfa: Mae’r tîm hwn yn cynnwys tasgau fel teipio dyfarniadau, canlyniadau ac ati.
  • Criw Llwyfan: Mae’r tîm criw llwyfan yn ymwneud â phob agwedd ar reoli llwyfaniad perfformiadau ar y prif lwyfan yn y pafiliwn. Mae yna amryw o swyddogaethau, gan gynnwys cydlynu, gweithwyr llwyfan a rheolwyr llwyfan cynorthwyol.
  • Rhagbrofion: Mae’r rhain yn cael eu cynnal mewn lleoliadau amrywiol yn y dref cyn y cystadlaethau terfynol ar y prif lwyfan yn y pafiliwn. Mae angen gwirfoddolwyr i stiwardio, edrych ar ôl y beirniaid a gweithredu fel rhedwyr rhwng y lleoliad a’r swyddfa gerdd ar y maes.
  • Digwyddiadau Allanol/Yn y Dref: Perfformiadau yw’r rhain yn mewn gwahanol leoliadau yn y dref a’r cyffiniau. Mae gweithgaredd gwirfoddolwyr yn debyg i’r rhai sy’n ofynnol ar gyfer y llwyfannau allanol.

Stiwardio/Stewarding

  • Stiwardio mynedfeydd y pafiliwn trwy gydol y dydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
  • Gwirio tocynnau.
  • Stiwardio y tu mewn i’r Pafiliwn yn ystod cyngherddau a chystadlaethau.
  • Helpu ymwelwyr gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.

Tocynnau/Tickets

  • Cynorthwyo staff y swyddfa gyda gwerthiant tocynnau a gweinyddu ar hyd y flwyddyn
  • Staffio’r brif swyddfa a chroesawu ymwelwyr i’r maes a gwirio tocynnau
  • Staffio swyddfeydd tocynnau yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gwerthu tocynnau dydd a thocynnau cyngerdd a delio gydag unrhyw ymholiadau mewn perthynas â mynediad