Roedd ein Cyfarwyddwr Artistig Dave Danford yn stiwdio BBC Radio Wales yng Nghaerdydd i siarad â Roy Noble am ein cynlluniau cyffrous ar gyfer Llangollen 2024.
(rhagor…)
Archifau Categori: Newyddion
Lansio “Yn Fyw Yn Llangollen” i Gefnogi’r Eisteddfod!
Bydd trefnwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnal nifer o gigs yn Neuadd y Dref Llangollen i godi arian i gefnogi eu Heisteddfod. Mae’r gigs, a gynhelir yn fisol yn Neuadd y Dref Llangollen yn cynnwys artistiaid teyrnged i ABBA, Robbie Williams, Pink Floyd, Slade yn ogystal â’r Merseybeats gwreiddiol, a berfformiodd gyda’r Beatles yn y 1960au. (rhagor…)
MAE DAVE, GWEITHIWR PROFFESIYNOL YN Y DIWYDIANT CERDDORIAETH, YN YMHYFRYDU YN YR HER O FOD YN GYFARWYDDWR ARTISTIG NEWYDD EISTEDDFOD GERDDOROL RYNGWLADOL LLANGOLLEN
Mae gweithiwr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant cerddoriaeth sydd wedi gweithio gyda rhai o enwau mwyaf y busnes wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Artistig newydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Yn 39 oed, mae Dave Danford eisoes wedi bod â chysylltiad degawd o hyd â’r ŵyl eiconig ac wedi camu i’r rôl allweddol ar ôl nifer o flynyddoedd fel ei Rheolwr Cynhyrchu.
Mae’n “hynod gyffrous” am ei benodiad, sydd newydd gael ei gyhoeddi gan fwrdd ymddiriedolaeth yr Eisteddfod. Ariennir y penodiad drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
Ac mae’n dweud ei fod yn ymhyfrydu yn yr her o oruchwylio pob agwedd gerddorol o’r ŵyl, o gyngherddau mawr yn cynnwys sêr mor amrywiol â Syr Tom Jones a’r Manic Street Preachers cyn ac yn ystod wythnos graidd yr ŵyl o 2-7 Gorffennaf, i’w rhaglen unigryw o gystadlaethau o safon ryngwladol. (rhagor…)
MENYW DDAETH YN ADNABYDDUS FEL WYNEB GOGLEDD CYMRU PAN ENILLODD YN EISTEDDFOD LLANGOLLEN YN EI HARDDEGAU’N DAL I DDYCHWELYD BOB BLWYDDYN
Mae menyw a ddaeth yn adnabyddus fel “wyneb gogledd Cymru” ar ôl iddi ennill cystadleuaeth ganu bron i 70 mlynedd yn ôl yn Eisteddfod Gerddorol Genedlaethol Llangollen yn dal i ddychwelyd yno bob blwyddyn fel gwirfoddolwr. Pan oedd yn ei harddegau, teithiodd Myron Lloyd o’i chartref yn Sir Benfro i gystadlu yn y categori Unawd Cân Werin yn Eisteddfod 1956. Daeth yn fuddugol.
Oherwydd ei llwyddiant, tynnwyd llun o Myron – oedd â’r cyfenw Williams bryd hynny am ei bod yn ddibriod – gan nifer o ddynion camera wrth iddi ddathlu allan ar y cae. Yn ddiweddarach, pan oedd hi yn ôl yn ne Cymru, cafodd y ferch i ffermwr, sydd yn awr yn ei 80au, syndod o weld y llun hwnnw ohoni a dynnwyd ar y diwrnod yn dechrau ymddangos ar amrywiaeth o nwyddau gwerthu oedd yn hysbysebu Gogledd Cymru. Roedd hi’n gwisgo gwisg Gymreig draddodiadol, yr het ddu a’r siôl, ac aeth y llun yn firol, neu mor agos ag y gellid i hynny yn yr 1950au.’’ (rhagor…)
CYHOEDDI TOM JONES, GREGORY PORTER a KATHERINE JENKINS OBE AR GYFER WYTHNOS GRAIDD EISTEDDFOD GERDDOROL RYNGWLADOL LLANGOLLEN
Dydd Mawrth 2il – Dydd Sul 7fed Gorffennaf 2024
TOCYNNAU AR WERTH O 9AM DYDD GWENER RHAGFYR 8fed YMA
Bydd yr eiconau o Gymru Tom Jones a Katherine Jenkins a’r artist rhyngwladol hynod boblogaidd Gregory Porter oll yn perfformio mewn prif gyngherddau yn ystod wythnos graidd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2024.
Wrth i restr lawn y digwyddiadau gael ei chyhoeddi heddiw, datgelir y bydd yr eicon cerddorol Tom Jones yn cyflwyno cyngerdd agoriadol wythnos graidd yr Eisteddfod ym Mhafiliwn Llangollen ar ddydd Mawrth Gorffennaf 2il, gan gychwyn chwe diwrnod o gyngherddau gyda’r nos, gyda’r mezzo-soprano Katherine Jenkins yn cau’r wythnos ar Ddydd Sul 7fed.
Rhwng y dyddiadau hyn gall y cynulleidfaoedd fwynhau amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau gyda’r nos, yn cynnwys y band gwerin arobryn Calan, y delynores frenhinol Alis Huws, ffefrynnau Britain’s Got Talent John’s Boys Male Chorus, sêr y West End a Broadway Kerry Ellis a John-Owen Jones, a’r seren jazz sydd wedi ennill gwobr GRAMMY ddwy waith, Gregory Porter.
Mae’r tocynnau’n mynd ar werth am 9am Ddydd Gwener Rhagfyr 8 o llangollen.net
EISTEDDFOD I DDOD A CHYMUNED LLANGOLLEN GYDA’I GILYDD ETO
Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnal cyfarfod cymunedol arall ddydd Llun 4 Rhagfyr 2023 yn Neuadd Gymunedol Sant Collen am 7yp. Mi fydd y sesiwn hybrid yn gyfle i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen cyngherddau 2024, ateb cwestiynau am eu cynlluniau ar gyfer yr haf nesaf, ac i wahodd trigolion i ymuno â’r tîm cynyddol o wirfoddolwyr.
Cynhelir y cyfarfod cymunedol ar yr un diwrnod ag y bydd yr Eisteddfod yn cyhoeddi ei chyngherddau nos ar gyfer wythnos sylfaenol yr Eisteddfod, a gynhelir o ddydd Mawrth 2 tan ddydd Sul 7 Gorffennaf 2024. Mae’r Eisteddfod wedi bod yn un o uchafbwyntiau calendr diwylliannol prysur Gymru ers iddi gael ei lansio yn 1947 i hyrwyddo heddwch trwy gân a dawns. (rhagor…)
YR ARWYR INDIE KAISER CHIEFS YN TREFNU GIG GYDAG EISTEDDFOD GERDDOROL RYNGWLADOL LLANGOLLEN
Mae’r arwyr indie Kaiser Chiefs yn teithio i ogledd Cymru yr haf nesaf ar gyfer sioe sy’n addo bod yn un syfrdanol.
Bydd y band sydd wedi ennill sawl gwobr yn dychwelyd i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar nos Sadwrn 29 Mehefin.
Bydd tocynnau’n mynd ar werth i’r cyhoedd am 9am ddydd Gwener 17 Tachwedd o llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk
Mae’r cyhoeddiad yn dilyn y newyddion y bydd Kaiser Chiefs yn rhyddhau eu halbwm stiwdio newydd sbon, sydd wedi’i enwi – yn addas ddigon – Kaiser Chiefs’ Easy Eighth Album, ar y 1af o Fawrth 2024. Wedi’i gynhyrchu gan Amir Amor (Rudimental), mae Easy Eighth Album yn gweld y band yn dychwelyd gyda sain newydd ffres a beiddgar. O’r sengl newydd ‘Feeling Alright‘, a ysgrifennwyd ar cyd gyda Nile Rogers, i gyffro gwyllt ‘Beautiful Girl‘, adlais o’r hen Kaiser Chiefs yn ‘Job Centre Shuffle’ ac ergydion teimladwy ‘Jealousy’, mae’r 10 trac hyn yn ddatganiad o fwriad go iawn gan fand sy’n parhau i daro deuddeg dro ar ôl tro.
Mae’r albwm yn cyrraedd ar gefn llwyddiant ysgubol diweddar traciau fel ‘Jealousy‘ a ‘How 2 Dance’, yn ogystal â thaith fawr yn yr arena yn y DU ddiwedd y llynedd.
Os oedd Duck 2019 yn pontio ewfforia Northern-Soul a’i wrthbwynt ar ddechrau’r 190au, bydd 2024 yn gweld y Kaiser Chiefs yn camu i fyd newydd; byd llawn riffiau bachog lle mae Ricky Wilson, Andrew “Whitey” White (gitâr), Simon Rix (bas), Peanut ar yr allweddellau a’r drymiwr Vijay Mistry, yn dod at ei gilydd i greu’r hyn maen nhw’n ei wneud orau; creu caneuon arloesol ar gyfer llawr dawns y byd.
A chyda band sydd wedi bod yn perfformio ers bron i ddau ddegawd, wedi’u harfogi ag ôl-gatalog helaeth o anthemau stadiwm, a llwyddiant ysgubol, gall dilynwyr y band ym Mhafiliwn Llangollen baratoi ar gyfer noson sy’n llawn caneuon anthemig fel ‘Oh My God’, ‘I Predict A Riot’, ‘Everyday I Love You Less and Less‘ a Ruby’.
Y prif sioe yw’r ddiweddaraf i’w chyhoeddi fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng hyrwyddwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a hyrwyddwyr Live Nation, Cuffe & Taylor.
Mae’r Kaiser Chiefs yn ymuno â’r sêr indie Manic Street Preachers a Suede, yr artist arobryn BRIT, Paloma Faith a’r sêr disgo Nile Rodgers & CHIC sydd ymhlith yr artistiaid sydd wedi’u cyhoeddi hyd yma ar gyfer yr ŵyl heddwch eiconig yn 2024.
Dywedodd Dave Danford, Rheolwr Arweiniol a Chynhyrchu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Rydym wrth ein boddau y bydd Kaiser Chiefs yn dychwelyd i Langollen. Mi gawson nhw dderbyniad anhygoel yn 2018, ac rydym mor falch y byddant yn dod â’u hanthemau yn ôl i ogledd Cymru yn 2024.
“Dyma’r cyhoeddiad diweddaraf yn unig fel rhan o’n partneriaeth gyffrous newydd gyda hyrwyddwyr Live Nation, Cuffe & Taylor, gyda mwy i ddod yn ystod yr wythnosau nesaf.”
Ychwanegodd cyd-sylfaenydd Cuffe & Taylor, Peter Taylor: “Mae Kaiser Chiefs yn fand byw gwych. Rydym wedi cyflwyno nifer o sioeau gyda nhw dros y blynyddoedd felly rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i ddod â nhw yn ôl i Langollen ar gyfer sioe a fydd yn gyffrous iawn i bawb sy’n cymryd rhan.”
Am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau ewch i llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk
YCHWANEGU CHWEDLAU CERDDORIAETH A SER BRIG Y SIARTIAU I ARTISTIAID EISTEDDFOD GERDDOROL RYNGWLADOL LLANGOLLEN
Bydd Brenin Disgo Nile Rodgers & CHIC a’r seren bop Jess Glynne yn perfformio fel prif berfformwyr yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr haf nesaf.
Cyhoeddir heddiw y bydd yr arloeswr cerddoriaeth chwedlonol Nile Rodgers yn dod ag awyrgylch parti anhygoel i Bafiliwn Llangollen ddydd Iau 11 Gorffennaf, tra bydd seren brig y siartiau Jess Glynne yn serennu ar ddydd Gwener 12 Gorffennaf.
Yn cefnogi Nile Rodgers & CHIC bydd y gantores a’r cyfansoddwr Sophie Ellis Bextor a’r band pop cyfoes o’r 80au, Deco.
Bydd tocynnau i’r ddwy sioe ar werth i’r cyhoedd yn gyffredinol am 9am ddydd Gwener, 27 Hydref, o llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk
Wrth siarad am ddyddiad Llangollen, dywedodd Nile Rodgers: “Y DU yw fy ail gartref felly er gwaetha’r ffaith nad yw hi hyd yn oed yn aeaf eto rwy’n gyffrous i gyhoeddi y byddwn yn dod ag ‘amseroedd da’ i chi yr haf hwn!”
Dywedodd Jess Glynne, sydd wedi cyhoeddi’r sioe fel rhan o’i thaith haf yn y DU: “Fedra i ddim aros i fynd yn ôl ar y llwyfan a mynd yn fyw i’m holl ddilynwyr! Bydd hi’n flwyddyn dda… I ffwrdd â ni!”
Mae Nile Rodgers wedi’I gynnwys yn y Rock & Roll Hall of Fame, wedi’i gyflwyno hefyd i Restr Enwogion y Cyfansoddwyr, mae’n gynhyrchydd, yn drefnydd a gitarydd sydd wedi ennill gwobrau Grammy lu gyda thros 200 o gynyrchiadau i’w enw.
Fel cyd-sylfaenydd CHIC, arloesodd iaith gerddorol a gynhyrchodd caneuon a gyrhaeddodd frig y siartiau dro ar ôl tro, caneuon fel Le Freak, Everybody Dance a Good Times a sbardunodd ddyfodiad hip-hop.
Mae ei waith gyda CHIC a’i gynyrchiadau ar gyfer artistiaid fel David Bowie, Diana Ross a Madonna wedi gwerthu mwy na 500 miliwn albwm a 75 miliwn o senglau ledled y byd. Mae ei gydweithio arloesol, gyda Daft Punk, Avicii, Sigala, Disclosure a Sam Smith yn adlewyrchu’r gorau o gerddoriaeth gyfoes.
Mae ei waith yn sefydliad CHIC gan gynnwys We Are Family gyda Sister Sledge ac I’m Coming Out gyda Diana Ross a’i gynyrchiadau ar gyfer artistiaid fel David Bowie (Let’s Dance), Madonna (Like A Virgin) a Duran (The Reflex) wedi gwerthu mwy na 500 miliwn albwm a 100 miliwn o senglau ledled y byd, tra bod ei gydweithio arloesol gyda Daft Punk (Get Lucky Punk), Daddy Yankee (Agua), a Beyoncé (Cuff It) yn adlewyrchu’r gorau o ganeuon cyfoes.
Jess Glynne yw’r unig artist unigol benywaidd o Brydain i gael saith sengl rhif un yn y DU. Mae’r newyddion ei bod hi’n mynd i Langollen yn dilyn rhyddhau ei sengl ddiweddaraf Friend of Mine ar ôl can yr haf What Do You Do?.
Mae’r ddau sengl yn nodi pennod newydd a mwy personol i’r canwr-gyfansoddwr sydd wedi ennill Grammy, sydd wedi cyflwyno rhai o ganeuon mwyaf cofiadwy pop dawnsio’r degawd diwethaf.
Gan ddod i amlygrwydd cenedlaethol fel y lleisydd ar Rather Be gan Clean Bandit a enillodd wobr Grammy yn 2014, a My Love gan Route 94, mae Jess bellach yn un o berfformwyr mwyaf y DU gyda chaneuon sy’n cynnwys I’ll Be There, Hold My Hand a Don’t Be So Hard On Yourself.
Mae ei dau albwm blaenorol wedi gwerthu platinwm a chyrraedd Rhif Un yn y siartiau, mae hi wedi casglu tri enwebiad gwobr Ivor Novello, gan ennill Grammy, ac naw enwebiad ar gyfer Gwobr Brit a 1.2 biliwn o ffrydiau.
Y prif sioeau yw’r diweddaraf i gael eu cyhoeddi fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng hyrwyddwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a hyrwyddwyr Live Nation, Cuffe and Taylor.
Gwerthwyd pob tocyn o sioe y sêr indie y Manic Street Preachers a Suede yn yr ŵyl heddwch eiconig ar ddydd Gwener 28 Mehefin o fewn awr i fynd ar werth ac mae tocynnau ar gael yn awr ar gyfer sioe yr artist platinwm dwbl Paloma Faith sydd wedi ennill gwobrau BRIT, a fydd yn dod i Ogledd Cymru ar ddydd Gwener 21 Mehefin.
Dywedodd cyd-sylfaenydd Cuffe and Taylor, Peter Taylor: “Rydym wedi cyflwyno nifer o sioeau gyda Nile Rodgers & CHIC a Jess Glynne. Mae’r ddau yn berfformwyr anhygoel a fydd yn dod â’u harddull unigryw eu hunain i Langollen gan sicrhau bod cynulleidfaoedd yn mwynhau cerddoriaeth fyw anhygoel.
“Bydd Nile Rodgers & CHIC yn perfformio eu caneuon enwog yn gwneud noson allan hollol wych, tra bod Jess Glynne yn artist benywaidd gwirioneddol eithriadol o Brydain.”
Ychwanegodd Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Sarah Ecob: “Pan ddatgelwyd ein partneriaeth â Cuffe and Taylor, mi wnaethon ni ddweud y byddem yn gwneud cyhoeddiadau enfawr, ac mae’r rhain yn enfawr. Mae Jess Glynne a Nile Rodgers a CHIC yn sêr rhyngwladol o’r radd flaenaf. Fedrwn ni ddim aros iddyn nhw ddod i Langollen ar gyfer ein gŵyl heddwch wych.”
Am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau ewch i llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk
Datganiad ar y sefyllfa yn y Dwyrain Canol
Ers 1947, ethos Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fu hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth trwy gerddoriaeth a dawns, yn ei hwythnos flynyddol ym mis Gorffennaf a thrwy gyflwyno prosiectau allgymorth cynhwysol trwy gydol y flwyddyn i gymunedau lleol yng Nghymru a ledled y byd.
Nid yw amcanion Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, sef hybu heddwch yn ein byd, byth yn bwysicach nag ar adegau o wrthdaro.
Mae’r gwrthdaro cynyddol ofnadwy rhwng Israel a Thiriogaethau Palestina yn peri gofid mawr ac rydym yn condemnio’r diystyrwch sy’n cael ei ddangos i hawliau dynol sylfaenol sifiliaid.
Rydym wedi croesawu cystadleuwyr o’r rhanbarth i Langollen mewn blynyddoedd blaenorol, mae ein meddyliau gyda’r bobl ddiniwed yn Gaza ac Israel ac ymunwn â’r gymuned ryngwladol i alw am ddad-ddwysáu’r trais ar unwaith.
Perfformio yn Llangollen 2024 – Ceisiadau i Gystadlu yn awr ar agor!
Llangollen 2024: 2-7 Gorffennaf
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi manylion am sut i gystadlu neu gymryd rhan yn Llangollen 2024. Ar draws 29 o gategorïau, gan gynnwys naw cystadleuaeth newydd, bydd rhai o dalentau cerddoriaeth a dawns gorau’r byd yn teithio i’r ŵyl heddwch eiconig yng ngogledd Cymru; lle mae Cymru’n croesawu’r byd.
Mae gwefan benodol ar gyfer Cyfranogwyr, a rhestr cystadlaethau, sy’n cynnwys yr holl wybodaeth ar sut i wneud cais, categorïau cystadlu, trefnu llety a mwy…
https://eisteddfodcompetitions.co.uk/
Mae’r cystadlaethau yn parhau i fod yn rhan ganolog o Eisteddfod Llangollen. Byddant yn cael eu cynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod o Ddydd Mawrth 2 Gorffennaf tan Ddydd Sul 7 Gorffennaf 2024. Mae cyfleoedd a gwobrau gwych ar gael i gystadleuwyr yn y dathliad gwirioneddol ryngwladol hwn o bopeth o fyd dawns a cherddoriaeth. Y cyntaf i agor ar gyfer ceisiadau cystadlu yw’r categorïau grŵp, gyda’r categorïau unigol i ddilyn yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Llangollen Sarah Ecob,
“Rydym yn falch iawn o agor ceisiadau ar gyfer rhai o’r cystadlaethau diwylliannol mwyaf uchel eu parch ac enwocaf y byd. Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys neb llai na Pavarotti. Yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen rydym yn dathlu rhagoriaeth gerddorol a bydd digwyddiad y flwyddyn nesaf yn parhau â’r traddodiad hwnnw. Eleni, rydym wedi bod yn benderfynol o sicrhau bod yr Eisteddfod nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu. Fodd bynnag, mae’n hanfodol gwneud yn siŵr bod ein gŵyl arferol yn parhau gan sicrhau bod cefnogwyr yn dal i allu mwynhau rhan draddodiadol, gystadleuol Eisteddfod Llangollen.”
Fel ffordd o ddathlu cyflawniadau plant a phobl ifanc, bwriedir cyflwyno cystadleuaeth newydd Côr Ifanc y Byd. Ar gyfer 2024 bydd y côr buddugol yn ymddangos ar y prif lwyfan yn y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol yn ystod cyngerdd nos Fercher 3 Gorffennaf.
Bydd cantorion unigol hefyd yn cael cyfle gwych i berfformio mewn cyngerdd gyda’r nos. Bydd Llais Rhyngwladol y Dyfodol yn rhan o’r cyngerdd ar nos Sadwrn 6 Gorffennaf ac, am y tro cyntaf erioed, bydd rownd derfynol Llais Rhyngwladol Theatr Gerdd yn perfformio gyda band byw yn y cyngerdd ar nos Iau 4 Gorffennaf (digwyddiad na ddylid ei golli!).
Mae ychwanegiadau newydd eraill yn cynnwys categori Dawns Agored (Unawd, Deuawd a Thrio) ar gyfer plant dan 11 oed, 12-17 oed, a 18 oed a throsodd, categori Corau Plant Agored, a Corau Cân Werin Oedolion a Chorau Siambr, Ensemble Offerynnol, Unawd Gwerin Lleisiol ac Offerynnol.
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi’i lleoli yn nhref hardd Llangollen yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Cynhelir y prif gystadlaethau ym Mhafiliwn Rhyngwladol Brenhinol sydd â lle gynulleidfa o 4000. Yn 2024, y naill ochr i wythnos yr Eisteddfod (2-7 Gorffennaf), llwyfennir sioeau ychwanegol – gan gynnwys cyngerdd gyda’r Manic Street Preachers a Suede (Dydd Gwener 28 Mehefin), a Paloma Faith (Dydd Gwener 21 Mehefin).
Llyfryn cystadlaethau y gellir ei lawrlwytho, ffurflenni cais a gwybodaeth arall i gystadleuwyr ar gael ar wefan bwrpasol: https://eisteddfodcompetitions.co.uk/