Manic Street Preachers a Suede i Serennu yn Eisteddfod  Llangollen 2024

DYDD GWENER MEHEFIN 28  

Bydd Manic Street Preachers a Suede yn serennu mewn cyngerdd arbennig iawn yng ngogledd Cymru yr haf nesaf.

Bydd taith y ddau fand indie chwedlonol yn cyrraedd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar ddydd Gwener Mehefin 28.

Mae’r dyddiad ym mis Mehefin yn nodi dychweliad ysgubol y Manic Street Preachers i Langollen ar ôl iddynt serennu ddiwethaf yn yr ŵyl yn 2017.

Tocynnau yn mynd ar werth cyffredinol am 9am ddydd Gwener Hydref 13 o llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk

Mae’r Manic Street Preachers yn un o’r bandiau roc mwyaf dylanwadol ac eiconig i ddod allan o Gymru erioed. Maent wedi rhyddhau 14 albwm ac wedi arwain gwyliau di-ri gan gynnwys Glastonbury, T in the Park, V Festival, Reading a Leeds. Maent wedi ennill un ar ddeg o Wobrau’r NME, wyth Gwobr Q a phedair Gwobr BRIT ac mae’r band hefyd wedi cael eu henwebu ar gyfer Gwobr Mercury a Gwobrau Cerddoriaeth MTV Europe.

Ar hyn o bryd mae Manics yn y stiwdio yn gweithio ar eu 15fed albwm, sy’n ddilyniant i ‘The Ultra Vivid Lament’ a aeth syn syth i Rif 1 yn siartiau’r DU pan gafodd ei ryddhau ym mis Medi 2021. Y tro diwethaf i’r band berfformio yn y DU oedd yr haf hwn pan gawson nhw ganmoliaeth uchel am eu  perfformiadau yng ngwyliau Ynys Wyth a Glastonbury.

Mae newyddion am y daith yn ateb y galw mawr yn dilyn llwyddiant nawfed albwm Suede, Autofiction, a gwerthwyd pob tocyn i’w prif daith yn y DU yn gynharach eleni. Gan fynd yn syth i Rif 2 yn Siart Albymau’r DU ar ôl cael ei ryddhau, safle siartiau albwm gorau Suede ers Head Music yn 1999. Barn dilynwyr a beirniaid fel ei gilydd oedd bod yr albwm newydd yn cynrychioli uchafbwynt gyrfa i’r band.

Mae 2023 wedi gweld rhyddhau Suede30 – atgof amserol o sut y cafodd albwm cyntaf y band effaith mor bwerus a thrawsnewidiol ar gerddoriaeth Brydeinig. Saethodd albwm cyntaf Suede i rif 1 yn Siartiau Albymau’r DU pan gafodd ei rhyddhau, gan werthu dros 100,000 o gopïau yn ei wythnos gyntaf, a mynd ymlaen i ennill Gwobr Gerddoriaeth Mercury a dod yr albwm gyntaf a werthodd gyflymaf erioed yn y DU ar y pryd.

Mae cyngerdd Suede a’r Manic Street Preachers yn Llangollen yn rhan o daith o’r DU ac Iwerddon sy’n dilyn taith lwyddiannus y ddau fand yn yr Unol Daleithiau yn 2022 a gafodd dderbyniad gwych.

Cyflwynir y brif sioe mewn partneriaeth newydd rhwng Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a hyrwyddwyr Live Nation, Cuffe a Taylor.

Mae Cuffe and Taylor, un o brif hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw, theatr a digwyddiadau’r DU, yn partneru â’r Eisteddfod Ryngwladol i hyrwyddo cyfres o gyngherddau byw ar y cyd â’r ŵyl heddwch fyd-enwog.

Dywedodd Peter Taylor, cyd-sylfaenydd Cuffe and Taylor: “Rydym wedi cyflwyno sioeau di-ri yng Nghymru dros y blynyddoedd felly mae’n wych cael ffurfio perthynas newydd a chyffrous iawn gyda thîm Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

“Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddod â sêr rhyngwladol yma ac yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â phawb yn Llangollen er mwyn helpu i sicrhau dyfodol y digwyddiad hanesyddol hwn.

“Rwy’n falch iawn mai ein cyhoeddiad cyntaf yw ein bod yn dod â’r Manic Street Preachers a Suede i Langollen a byddwn yn datgelu hyd yn oed mwy o artistiaid ac enwau mawr yn fuan iawn.”

Mae Cuffe and Taylor yn cyflwyno teithiau syfrdanol, gwyliau a sioeau ledled y DU gan lenwi stadiymau pêl-droed, arenâu, theatrau a safleoedd hanesyddol mawr gan weithio gyda rhestr o artistiaid yn amrywio o Diana Ross, Lionel Richie, Britney Spears a Stereophonics i Syr Tom Jones, Rod Stewart, Sam Fender, The Strokes a Kylie.

Dywedodd Sarah Ecob, Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Rydym mor falch o fod yn gweithio gyda Cuffe and Taylor, sydd ag enw rhagorol yn y diwydiant. Drwy weithio mewn partneriaeth â nhw, rydym wedi sicrhau bod ein gŵyl heddwch a sefydlwyd yn 1947 nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu. Rydym mor gyffrous i groesawu’r Manic Street Preachers yn ôl ac yn edrych ymlaen at wneud mwy o gyhoeddiadau dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.”

Am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau ewch i llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk

Manic Street Preachers Gwefan | Facebook | Twitter | Instagram

Suede Gwefan | Facebook | Instagram | Twitter | YouTube