Eisteddfod Llangollen yn croesawu chwe ymddiriedolwr newydd!

New trustee Shea Ferron on stage at Llangollen2023 with Alfie Boe, taking a selfie showing the audience in the background.

Mae caplan sydd hefyd yn Arweinydd Sgwadron yn yr Awyrlu, canwr a rannodd y llwyfan yn annisgwyl gydag Alfie Boe a dynes a symudodd 6000 o filltiroedd i fod yn nes at yr ŵyl y mae hi’n ei charu yn ddim ond rhai o ymddiriedolwyr newydd gŵyl byd enwog Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Dywedodd Sarah Ecob, Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, “Rydym yn falch iawn o groesawu ein Haelodau Bwrdd newydd sy’n dod ag ystod o ddoniau newydd a gwybodaeth ddofn o’r Eisteddfod i’n Bwrdd. Bydd hyn yn amhrisiadwy wrth i ni barhau â’n rhaglen adferiad a hoffwn ddiolch i’r Aelodau Bwrdd sy’n gadael, ac rwy’n siŵr y bydd pob un ohonynt yn parhau i fod yn weithgar o fewn strwythurau’r Eisteddfod.”

Mae’r ymddiriedolwyr wedi ymuno â’r tîm wrth i’r Eisteddfod, a ddechreuodd yn 1947 i hybu heddwch, wynebu heriau ariannol enfawr. Cafodd yr ymddiriedolwyr newydd eu hethol yn uniongyrchol gan aelodau’r cwmni ac mae pob un ohonynt yn dod ag arbenigeddau gwahanol. Gyda’i gilydd, byddant yn camu i fyny i lenwi’r bwlch a adawyd ar ôl y penderfyniad ariannol anodd i ddiswyddo rôl y Cynhyrchydd Gweithredol, a ddaliwyd yn flaenorol gan Camilla King.

Nid yw’r parchedig di-lol Rebeca Canon yn ddieithr i’r celfyddydau. Mae’r Caplan yn yr Awyrlu Brenhinol sy’n gyrru’r ‘tuk tuk’ wedi hyfforddi fel Actor a Chyfarwyddwr Theatr proffesiynol. Gweithiodd yn rhyngwladol yng Ngwlad Thai, Bali a Rwsia ar berfformiadau a digwyddiadau amlddisgyblaethol ar raddfa fawr. Mae hi bellach yn Gaplan (Anglicanaidd) gyda’r Awyrlu gan ymgartrefu yn Llangollen gyda’i phartner Gerallt.

Dywedodd Rebekah, sydd wrth ei bodd yn garddio ac yn neidio allan o awyrennau am hwyl, “Rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o gyfrannu at ddyfodol yr Eisteddfod Ryngwladol. Mae’n ddigwyddiad unigryw sydd wedi cyfrannu’n uniongyrchol at wneud Llangollen yn lle mor arbennig. Mae curiad calon ein tref yn gyfystyr ag amrywiaeth, cynwysoldeb a chelfyddyd yr Eisteddfod ac rwyf am ganolbwyntio ar weld hynny’n parhau am genedlaethau i ddod. Mae chwarae rhan allweddol wrth ddiogelu ein gŵyl heddwch sy’n croesawu’r byd i Langollen bob blwyddyn yn fraint anhygoel.”

Mae Shea Ferron, 20 oed, eisoes yn ffigwr adnabyddus yn Llangollen. Ym mis Mai, roedd yn aelod o Gorws John’s Boys a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain’s Got Talent. Mae’r myfyriwr drama yn gyn-enillydd Côr y Byd ac ymunodd ag Alfie Boe ar y llwyfan ym mis Gorffennaf i gymeradwyaeth afieithus. Shea yw’r Ymddiriedolwr ieuengaf erioed yn hanes yr Ŵyl ac mae wedi bod yn ymwneud â’r Eisteddfod mewn sawl modd ers ei blentyndod. Mae Shea yn cyfuno ei waith fel ymddiriedolwr ag astudio yn ei flwyddyn olaf yn The Institute for Contemporary Theatre ym Manceinion.

Meddai Shea, “Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, fel y celfyddydau, yn fy ngwaed. Ers pan oeddwn i’n ifanc, mae wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd. Mae rhai o fy atgofion cyntaf yn deillio o’r ŵyl ysbrydoledig hon. Mae’n anrhydedd i mi, ac rwy’n ddiolchgar iawn, i gael ymuno â bwrdd yr ymddiriedolwyr ar adeg mor dyngedfennol yn hanes 76 mlynedd yr Eisteddfod, er mwyn sicrhau y bydd yr ŵyl yma am genedlaethau i ddod.”

Mae’r bwrdd cryfach eisoes wedi cynnal noson agored enfawr, gan ddod â’r pwyllgorau a’r gwirfoddolwyr ynghyd (llawer ohonynt yn newydd i’r Eisteddfod); gwelodd hynny ddwsinau o gefnogwyr yn trafod syniadau i ddiogelu dyfodol yr ŵyl. Mae’r bwrdd hefyd eisoes wedi cyfarfod sawl gwaith wrth iddynt roi cynlluniau ar waith ar gyfer gŵyl y flwyddyn nesaf. Mae cynlluniau codi arian yn cael eu cwblhau wrth i’r tîm weithio i sicrhau dyfodol yr ŵyl.

Wyneb cyfarwydd arall sy’n ymuno â’r bwrdd yw Selana Kong, oedd yn caru Eisteddfod Llangollen gymaint nes iddi hi, ei gŵr Bill a’i mab Daniel symud 6000 o filltiroedd dim ond i fod yn nes ati. Am flynyddoedd, bu Selena a Bill yn teithio draw o Hong Kong i wirfoddoli. Bellach maent yn byw o fewn pellter cerdded i Bafiliwn Brenhinol Rhyngwladol Llangollen ac mae Selana eisiau estyn allan ar draws y byd i barhau â thraddodiad heddwch yr Eisteddfod.

Meddai Selana, sy’n hyfforddwr proffesiynol, cyfryngwr ac ymgynghorydd, “Mae Eisteddfod Llangollen yn ŵyl ryfeddol ac mewn byd sydd wedi’i begynnu, mae ein neges o heddwch ac undod yr un mor hanfodol heddiw ag yr oedd yn 1947. Rwyf am barhau â thraddodiad ein gŵyl o ymestyn allan i’r byd. Syrthiodd Bill a fi mewn cariad ag Eisteddfod Llangollen a theithio’n ôl yn aml i wirfoddoli. Yn 2019, mi wnaethon ni benderfynu beidio teithio yn ôl a blaen a symud yma i fyw. Pan ofynnwyd i mi sefyll etholiad i Fwrdd yr Eisteddfod, neidiais ar y cyfle. Mae’n gyfle anhygoel i roi rhywbeth yn ôl i’r ŵyl a newidiodd ein bywydau a sicrhau y gall barhau i newid bywydau pobl eraill.”

Mae aelodau newydd eraill y bwrdd yn cynnwys Allison Davies, cyn-athrawes yn Ysgol Dinas Brân sydd wedi bod yn ymwneud llawer â’r ŵyl ers degawdau, a Karen Price; sydd wedi bod yn rhan o’r ŵyl ar hyd ei hoes – yn gyntaf yn helpu gyda’r arddangosiadau blodau enwog ac yn fwy diweddar fel Cadeirydd Pwyllgor y Cystadleuwyr a Swyddog Cyswllt Cystadleuwyr y DU. Mae’r gweithiwr cyfathrebu proffesiynol David Hennigan hefyd wedi’i ethol ar y bwrdd. Canodd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Llangollen yn 1985, cyfarfu â’i wraig yn yr ŵyl ac mae bellach wedi symud i fyw i’r dref hardd.