Archifau Categori: Newyddion

Eisteddfod Llangollen yn Galw – Ewch Ati i Bwytho!

Mae’r artist rhyngwladol Luke Jerram yn bwriadu defnyddio ffabrig i weddnewid pont Llangollen! Mae Eisteddfod Llangollen yn galw am bobl i roi help llaw i drawsnewid Pont nodedig Llangollen yn waith celf enfawr er mwyn lansio gŵyl eleni. Mae’r Eisteddfod wedi comisiynu’r artist rhyngwladol o fri Luke Jerram i greu’r gwaith celf newydd. Mae’n bwriadu lapio’r bont 60 metr o hyd mewn clytwaith anferth sy’n adlewyrchu crefftau a diwylliannau Cymru ynghyd â’r cenhedloedd sy’n cymryd rhan yn yr ŵyl.

Llangollen Ar-lein 2021

Yng ngoleuni’r frwydr fyd-eang barhaus yn erbyn y Coronafeirws, roeddem am roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am ein cynlluniau ar gyfer Llangollen Ar-lein 2021 sy’n cael ei addasu i adlewyrchu’r amgylchedd yr ydym i gyd bellach yn byw ynddo.

Fel y gwyddoch, rydym wedi atal yr elfen gystadlu byw traddodiadol ar gyfer Llangollen 2021, ac ail-ddychmygu ein digwyddiad mewn ffordd y gellir ei gyflwyno’n ddiogel ond a fydd yn dal i gyfleu hud yr Eisteddfod ryngwladol.

Roeddem yn gobeithio creu penwythnos hybrid fel rhan o’r cynnig eleni, yn cynnwys artistiaid o raglen 2020 gan gynnwys Llanfest, ein digwyddiad eiconig, ond oherwydd cyfyngiadau parhaus ni ellir gwireddu hyn yr haf hwn. Bydd y darparwyr tocynnau yn cysylltu â deiliaid tocynnau Llanfest i drefnu ad-daliad llawn yn ystod yr wythnos nesaf.

Byddwn yn ogystal, yn cysylltu gydag unrhyw gwsmeriaid eraill sy’n parhau i fod a thocynnau ers 2020, i gadarnhau eu dewisiadau hwythau. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Rydym yn ymwybodol ei fod yn siom i lawer na ellir gwireddu’r Eisteddfod arferol eleni. Ond rhaid pwysleisio ein bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i genhadaeth yr Eisteddfod o ddod â phobl ynghyd trwy gerddoriaeth a dawns, a bydd y genhadaeth hon wrth wraidd ein harlwy amgen yn 2021. Diolch i chi am ddeall y sefyllfa ac fel erioed, rydym yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth.

Cwestiynau Cyffredin Cwsmer

A fydd Eisteddfod yn 2021?

Bydd Llangollen Ar-lein 2021 yn ddigwyddiad cwbl ddigidol, gan na fydd yn bosibl i ni gynnal cyngherddau neu gystadlaethau byw oherwydd y pandemig. Bydd y digwyddiad digidol yn cael ei gynnal yn ystod wythnos arferol yr Eisteddfod a chyhoeddir manylion pellach yn fuan.

Beth yw’r dyddiadau ar gyfer Llangollen Ar-lein 2021?

Gan ein bod yn gweithio ar gwblhau ein rhaglen ar gyfer Llangollen Ar-lein 2021 nid ydym mewn sefyllfa i gadarnhau union ddyddiadau’r ŵyl eto. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl y bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng y 6ed – 11eg Gorffennaf 2021.

A yw Llanfest yn digwydd?

Yn anffodus, nid yw’n bosibl i Llanfest gyda James Morrison a Will Young fwrw ymlaen oherwydd cyfyngiadau Coronavirus ac rydym yn canslo’r holl archebion ar gyfer y digwyddiad hwnnw. Bydd ein Swyddfa Docynnau, neu’r asiantau tocynnau, yn cysylltu â deiliaid tocynnau i drefnu ad-daliad.

Rwyf wedi cadw tocynnau Eisteddfod o 2020 – sut fydd hyn yn effeithio arnaf i?

Bydd ein swyddfa docynnau yn cysylltu eto gyda chwsmeriaid sydd heb gadarnhau eu cyfarwyddiadau mewn perthynas â thocynnau a gedwir ers 2020 gan rannu’r dewisiadau sydd ar gael.

Pryd fydd newyddion pellach am y rhaglen ar gyfer Llangollen Ar-lein 2021?

Cyhoeddir manylion pellach yn ystod yr wythnosau nesaf ar ein gwefan, trwy’r wasg leol ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Sut mae cael diweddariadau rheolaidd am Llangollen Ar-lein 2021?

Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio, a fydd yn sicrhau eich bod chi’n cael ein diweddariadau ar y cyfle cyntaf. Defnyddiwch y cyfleuster cofrestru ar waelod tudalen Gartref y wefan hon i danysgrifio i’r rhestr. Bydd gwybodaeth bellach hefyd yn cael ei phostio ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan.

Mae gen i docynnau wedi’u harchebu trwy asiant tocynnau (Ticketmaster, Gigantic). Pwy ddylwn ni gysylltu ag er mwyn trefnu ad-dalu neu gyfnewid?

Bydd tocynnau a brynir drwy asiant penodol yn cael eu prosesu’n uniongyrchol gan yr asiant hwnnw.

Rwy’n awyddus i gefnogi Llangollen yn ystod y cyfnod anodd hwn. Sut alla i wneud hyn?

Os ydych mewn sefyllfa i’n cefnogi a’n helpu dros y misoedd nesaf, ewch i’r dudalen Rhoddion. Byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw gefnogaeth.

Chwilio am wybodaeth am gymryd rhan yn Llangollen? Ewch i’n gwefan Cyfranogwyr.

Diweddariad COVID-19 – Llangollen 2021

Yng ngoleuni’r frwydr fyd-eang barhaus yn erbyn y Coronafeirws, rydym yn gweithio ar gynlluniau i addasu fformat Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar gyfer Gorffennaf 2021.

Mae ansicrwydd sylweddol yn parhau ynghylch y posibilrwydd o gynnal digwyddiadau torfol yng Nghymru yn ystod haf 2021, rydym hefyd yn cydnabod y byddai’r cyfyngiadau Covid-19 sydd mewn grym ledled y byd yn cael effaith fawr ar y grwpiau o gorau a dawnswyr a fyddai fel arfer yn mynychu ein digwyddiad. Mae’r amgylchiadau hyn yn golygu ein bod wedi penderfynu atal yr elfennau cystadlu byw traddodiadol ar gyfer Llangollen 2021, ac ailddychmygu ein digwyddiad mewn ffordd y gellir ei chyflwyno’n ddiogel ond a fydd yn dal i gyfleu hud yr Eisteddfod ryngwladol.

Rydym yn gweithio’n galed i greu fformat ar gyfer Llangollen 2021 sy’n cynnwys opsiynau digidol a digwyddiad hybrid ar benwythnos a fydd yn cynnwys artistiaid o ŵyl 2020. Cadarnheir y manylion erbyn diwedd y Gwanwyn pan ddisgwylir gwybodaeth bellach am ganllawiau’r llywodraeth a phan fydd gennym eglurder ynghylch yr hyn y gellir ei gyflawni.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhannu ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin yma.

Cwestiynau Cyffredin Cwsmeriaid

A fydd Eisteddfod yn cael ei chynnal yn 2021?

Ni fydd yr Eisteddfod arferol yn cael ei chynnal yn anffodus, ond ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar gynlluniau ar gyfer Llangollen 2021 sy’n cael eu haddasu yng ngoleuni’r pandemig Coronafeirws. Yn anffodus, ni fydd cystadlaethau byw na rhaglen yn ystod y dydd yn 2021, ond rydym yn ystyried fformatau amgen gan gynnwys digwyddiad hybrid dros benwythnos ac opsiynau digidol.

Beth yw’r dyddiadau ar gyfer Llangollen 2021?

Gan ein bod yn dal i weithio ar gynlluniau ar gyfer fformat a hyd Llangollen 2021 nid ydym mewn sefyllfa i gadarnhau union ddyddiadau’r ŵyl eto. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl y bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng y 6ed – 11eg Gorffennaf 2021.

Rwyf wedi cadw fy nhocynnau o 2020 – sut fydd hyn yn effeithio arnaf?

Bydd ein Swyddfa Docynnau yn cysylltu â deiliaid Tocynnau Gŵyl a chwsmeriaid sydd â thocynnau ar gyfer ein rhaglen yn ystod y dydd neu gyngherddau nos Fercher, nos Iau a nos Sadwrn i gadarnhau eu hopsiynau tocynnau.
Nid yw cwsmeriaid sydd â thocynnau ar gyfer Aled Jones a Russell Watson neu Llanfest yn cael eu heffeithio a dylent gadw eu tocynnau.

Pryd fydd newyddion pellach am y rhaglen ar gyfer Llangollen 2021?

Cadarnheir y manylion ddiwedd y Gwanwyn pan ddisgwylir gwybodaeth bellach am ganllawiau’r Llywodraeth a bydd gennym fwy o eglurder ynghylch yr hyn y gellir ei gyflawni.

Sut mae cael diweddariadau rheolaidd am Llangollen 2021?

Gallwch gofrestru i fod ar ein rhestr bostio, a fydd yn sicrhau eich bod chi’n cael ein diweddariadau ar y cyfle cyntaf. Defnyddiwch y cyfleuster cofrestru ar waelod tudalen Hafan y wefan hon i danysgrifio i’r rhestr. Bydd gwybodaeth bellach hefyd yn cael ei phostio ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan.

Os na allaf fod yn bresennol ar y dyddiad aildrefnu yn 2021, a oes gennyf hawl i gael ad-daliad llawn?

Mae gennych hawl i gael ad-daliad tocyn llawn yn ôl i’ch dull talu gwreiddiol (ar gyfer arian parod, siec neu gerdyn sydd wedi dod i ben byddwn yn cysylltu â chi i drefnu opsiynau talu amgen). Fodd bynnag, nodwch, bydd yr ad-daliad am bris y tocyn yn unig gan nad oes modd ad-dalu unrhyw gostau ychwanegol fel tâl postio a ffioedd comisiwn. Mae hyn oherwydd ein bod eisoes wedi talu’r taliadau a godwyd trwy brosesu eich archeb wreiddiol neu bostio eich tocynnau atoch.

Mae gen i docynnau wedi’u harchebu trwy asiant tocynnau (Ticketmaster, Gigantic). Gyda phwy ddylwn i gysylltu os ydwyf angen ad-daliad neu gyfnewid tocyn?

Yr asiant tocynnau fydd yn delio’n uniongyrchol â’r holl docynnau a brynir trwyddynt. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid asiant a byddwn yn eu diweddaru yn llawn ar ddatblygiadau gyda Llangollen 2021.

Rwy’n awyddus i gefnogi Llangollen yn ystod y cyfnod anodd hwn. Sut alla i wneud hyn?

Os ydych mewn sefyllfa i’n cefnogi a’n helpu dros y misoedd nesaf, ewch i’r dudalen Rhoddion https://international-eisteddfod.co.uk/make-a-donation/. Byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw gefnogaeth.

Chwilio am wybodaeth am gymryd rhan yn Llangollen? Ewch i’n gwefan ‘Cyfranogwyr’ https://eisteddfodcompetitions.co.uk/

Diweddaru: Covid-19 Llangollen 2020/21

Yn dilyn cyngor diweddaraf y llywodraeth am y Coronafeirws (COVID-19), rydym wedi penderfynu gohirio 74ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf 2020. Bydd fformat Llangollen 2021 yn dibynnu ar y sefyllfa iechyd cyhoeddus a gofynion y llywodraeth ar gyfer cynnal digwyddiadau torfol. Ar hyn o bryd nid yw’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gwyliau eto ond rydym yn bwriadu bwrw ymlaen a byddwn yn ceisio gwneud ein proses ymgeisio mor hyblyg â phosibl i alluogi cyfranogwyr i fynychu.

(rhagor…)

Archif Llyfr Fflip

Mae’r casgliad hwn o bosteri a ddangosir ym Mhabell Archif yr Eisteddfod rhwng 2016 a 2019 yn rhoi hanes ffeithiol cryno o’r ŵyl. Mae’n seiliedig ar gofnodion sydd wedi’u gwirio. Eleni rydym wedi eu troi’n llyfr fflip y gellir ei weld YMA neu ei lawrlwytho o AMAZON.

Fe welwch linell amser yn adrodd ar y prif newidiadau y mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi mynd drwyddynt, a’r rhesymau am y newidiadau hynny: o fraslun cyntaf y syniad hyd at fyd gwahanol iawn yr 21ain ganrif. Mae’n dweud wrthych am ychydig o’r pynciau y mae’r Eisteddfod yn enwog amdanynt, fel ei harddangosfeydd blodau. Mae’n cynnwys ychydig o’r hyn y mae pobl eraill wedi’i ysgrifennu am yr ŵyl, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar. Gallwch ddeall newid mawr a fu yn sefyllfa ariannol yr Eisteddfod yn ystod chwyddiant a chyni economaidd y 1970au. Ac mae’n llawn ffotograffau hyfryd.

(rhagor…)

Yr Eisteddfod Ryngwladol Gyntaf 1947: ffilm newyddion Movietone

Mae wyth munud ac ugain eiliad y ffilm hon yn gofnod clyweledol unigryw o’r ŵyl gyntaf yn 1947. Ynddi mi fyddwch yn gweld a chlywed y corau buddugol. Byddwch yn rhannu’r cyffro gyda’r gynulleidfa sy’n llenwi’r babell fawr, a wnaed o gynfas dros ben o’r rhyfel gyda 6000 o seddi wedi’u benthyg o ystafelloedd ysgol, capeli a llefydd eraill o’r ardal. Mae’r Llywydd cyntaf, Mr W. Clayton Russon, yn egluro cysyniad sylfaenol yr Eisteddfod o sut y gall cystadleuaeth gerddorol ryngwladol helpu i hyrwyddo gwell dealltwriaeth a chysylltiadau cyfeillgar rhwng pobl o wahanol genhedloedd. Mae’r cyflwynwyr ar y llwyfan, a fenthycwyd yn 1947 gan yr Eisteddfod Genedlaethol, yn brysur a di-lol, yn union fel y maen nhw yn ein dyddiau ni. (rhagor…)

Cyfarwyddwr a enillodd Oscar yn gwneud ffilm am Eisteddfod Llangollen

Mae “The World Still Sings” yn ffilm ddogfen o Eisteddfod Ryngwladol 1964, ac fe’i cyfarwyddwyd gan Jack Howells a’i chynhyrchu ar y cyd gan gwmni Howells ei hun a Chwmni Esso Petroleum, Ltd. Yn 1962 enillodd Howells wobr Oscar am ei raglen ddogfen ar Dylan Thomas, ac ar adeg ffilm yr Eisteddfod roedd yn gweithio i ITV ar ffilm am Aneurin Bevan. Trwy ddewis ffilmio Eisteddfod Llangollen gosododd yr ŵyl yn gadarn ym mhantheon digwyddiadau eiconig Cymru.

Mae’r teitl yn ymateb i linellau o ddarllediad radio Dylan Thomas ym 1953 am ŵyl Llangollen:

“Are you surprised that people still can dance and sing in a world on its head? The only surprising thing about miracles, however small, is that they sometimes happen.”

(rhagor…)

Yr Archif Sain

Mae recordiadau sain wedi cael eu gwneud o Eisteddfod Llangollen ers yr ŵyl gyntaf un yn 1947. Yn y rhan o’n Archif sydd ar hyn o bryd yn cael ei gadw ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol, mae gennym recordiad o Gôr Ieuenctid Coedpoeth yn canu ‘Robin Ddiog’ yn ystod Eisteddfod 1947. Nid yw ansawdd y sain yn wych, ond am ychydig dros funud, gallwn fynd yn ôl mewn amser, a gwrando ar y grŵp ifanc hwn yn diddanu eu cynulleidfa, sy’n rhoi cymeradwyaeth fyddarol iddynt ar ddiwedd y gân. (rhagor…)

Archifo’r Gorffennol

Roeddem yn edrych ymlaen at eich cyfarfod chi i gyd yn Eisteddfod eleni a rhannu ein gweledigaeth ar gyfer y prosiect Archifo’r Gorffennol. Gan nad yw hynny’n bosibl yn anffodus, rydym wedi ysgrifennu nifer o flogiau er mwyn creu Pabell Archif rithwir eleni i sôn mwy wrthych am y prosiect.

(rhagor…)

Llangollen Arlein yn cyflwyno neges arbennig gan Dywysog Cymru ynghyd a’r Neges Heddwch Rhyngwladol gyntaf erioed arlein fel rhan o raglen ‘Wythnos yr Eisteddfod’

Y mis diwethaf, lansiodd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ‘Llangollen Arlein’ #cysyllturbyd, sef cynnig digidol i ddod â’i chymuned fyd-eang ynghyd yn dilyn gohirio gŵyl eleni. Yr wythnos nesaf, yn yr hyn a fyddai wedi bod yn ‘Wythnos yr Eisteddfod’, bwriedir darparu rhaglen o weithgareddau arlein i roi blas o’r Eisteddfod Ryngwladol i’r nifer fawr o gyfranogwyr ac ymwelwyr sydd fel arfer yn tyrru bob Gorffennaf i’r dref hardd hon yn Sir Ddinbych.

Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru

I agor yr wythnos ar ddydd Mawrth y 7fed o Orffennaf, cyflwynir neges arbennig gan noddwr yr Eisteddfod Ryngwladol, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Mae hyn yn cynnal y berthynas hir rhwng yr Eisteddfod Ryngwladol a Thywysog Cymru, sydd wedi ymweld â’r ŵyl deirgwaith. Mewn digwyddiad cofiadwy yn ystod ei ymweliad diweddaraf yn 2015, cafodd y Tywysog ei annog i ymuno mewn dawns gydag aelodau o dawnswyr Sheerer Punjabi, grŵp bhangra o Nottingham, ar gychwyn Gorymdaith y Cenhedloedd, un o draddodiadau nodedig yr Eisteddfod.

Ar ddydd Iau y 9fed o Orffennaf, fel rhan o ‘Ddiwrnod Heddwch’ traddodiadol yr ŵyl, bydd cynulleidfaoedd arlein yn cael gweld Neges Heddwch Rhyngwladol gyntaf erioed yr Eisteddfod. Prif ran y digwyddiad fydd perfformiad llafar o gerdd gomisiwn arbennig, Harmoni a Heddwch, a ysgrifennwyd gan Mererid Hopwood. Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan y mae Llywydd yr Eisteddfod Ryngwladol, Terry Waite, ynghyd â phlant o Ysgol Rhostyllen, Ysgol San Silyn Wrecsam ac Ysgol Dinas Bran. Bydd y premiere arlein hefyd yn cyflwyno perfformiad cyntaf darn newydd o gerddoriaeth, wedi’i ganu gan y soprano o Wrecsam, Elan Catrin Parry, gyda geiriau gan Mererid Hopwood a cherddoriaeth gan Edward-Rhys Harry.

Dywed Edward-Rhys Harry, Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Rydym yn falch iawn o agor yr wythnos ar y dydd Mawrth gyda neges gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Yn draddodiadol dydd Mawrth yr Eisteddfod yw Diwrnod y Plant, felly byddwn yn cynnal première arlein ein Neges Heddwch Diwrnod y Plant bryd hynny, gydag elfennau ohoni‘n cael eu cynnwys hefyd yn ein Neges Heddwch Rhyngwladol ar y dydd Iau.

Dyma’r tro cyntaf erioed i ni wneud unrhyw beth fel hyn ac rydym yn teimlo’n gyffrous iawn i allu rhannu’r neges arlein gyda’n cymuned ryngwladol. Mae wedi bod yn anhygoel cael Mererid Hopwood i greu cerdd newydd i ni sydd wedi crisialu hanfod ein gŵyl, ac rydym wedi ein rhyfeddu gan haelioni pobl eraill sydd wedi rhoi o’u hamser i’n helpu i greu Llangollen Arlein. Rydym yn teimlo’n wylaidd a diolchgar iawn ac yn gobeithio y bydd pobl yn mwynhau cael ‘blas o Langollen’ eleni.”

Bardd o Gymru yw Mererid Hopwood, ac yn 2001 hi oedd y ferch gyntaf erioed i ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, enillodd y Goron yn 2003 a’r Fedal Ryddiaith yn 2008. Hi oedd Bardd Plant Cymru yn 2005. Enillodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Nes Draw, gategori Barddoniaeth Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2016 a chafodd ei dewis i Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru 2016. Ar hyn o bryd mae’n Athro Ieithoedd a’r Cwricwlwm Cymreig ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Dros y 4 wythnos ddiwethaf mae pobl wedi bod yn pleidleisio trwy gyfrwng Llangollen.TV dros eu hoff berfformiadau ac eiliadau cofiadwy o’r 25 mlynedd diwethaf, wrth wylio clipiau ffilm yn arddangos perfformwyr o 57 o wahanol wledydd ac ymhell dros 10,000 o gystadleuwyr. Mae degau o filoedd o bobl wedi pleidleisio mewn pum categori a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi’n fyw ar sioe ddyddiol S4C ‘Prynhawn Da!’ yn ogystal ag ar Llangollen TV bob dydd yn ystod yr hyn a fyddai wedi bod yn Wythnos Eisteddfod Llangollen 2020 o ddydd Mawrth y 7fed o Orffennaf a dydd Sadwrn yr 11eg o Orffennaf.

Bydd yr wythnos hefyd yn cynnwys Gwobrau Heddychwyr Ifanc, ar y cyd â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), première arlein o Neges Diwrnod y Plant gan Chris Dukes gyda phlant ysgol lleol o Ysgol Bryn Collen, Llangollen ac Ysgol Uwchradd Catholig ac Anglicanaidd St Joseph, Wrecsam, a negeseuon gan gystadleuwyr o bob cwr o’r byd.

Bydd ‘Wythnos Eisteddfod’ yn dod i ben gyda rhaglen ddogfen 90 munud ar S4C am 7.30pm ar ddydd Sul 12fed o Orffennaf, fydd yn bwrw trem yn ôl ar rai o eiliadau mwyaf cofiadwy y 25 mlynedd diwethaf.

*****

Digwyddiadau Allweddol yr Wythnos
Premiere Arlein: Neges Diwrnod y Plant – Dydd Mawrth 7 Gorffennaf am 11am ar y Wefan/YouTube
Gwobrau Heddychwyr Ifanc: Dydd Iau 9 Gorffennaf ar y Wefan
Premiere Arlein: Neges Heddwch Rhyngwladol Dydd Iau 9 Gorffennaf am 11am ar y Wefan/YouTube
Cyhoeddi Enillwyr y Bleidlais Arlein: ar Prynhawn Da S4C, Mawrth-Gwener, 2pm, Llangollen.TV Mawrth-Sadwrn, 2pm
Uchafbwyntiau 2019 – BBC TWO Wales, Dydd Sul 12 Gorffennaf 2020, 6.30pm
Rhaglen Ddogfen Arbennig – ar S4C , Dydd Sul 12 Gorffennaf 2020 am 7.30pm

Am ddim i’w gwylio ar y llwyfannau digidol canlynol

Llangollen.net
Llangollen.TV
YouTube/ Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
S4C/ S4C Clic