Ers 1949, mae pobl ifanc Llangollen wedi cyflwyno neges o heddwch ac ewyllys da i blant y byd o lwyfan yr Eisteddfod ryngwladol.
Heddiw, mae’r neges yn cael ei chyflwyno yn ystod Diwrnod y Plant, sy’n cael ei mynychu gan grwpiau mawr o ddisgyblion o ysgolion ledled y rhanbarth.
Sefydlodd Urdd Gobaith Cymru draddodiad Neges Heddwch ac Ewyllys Da flynyddol am y tro cyntaf ym 1922, ac fe wnaeth yr Eisteddfod adleisio neges yr Urdd ym 1949 i ddechrau, a gyflwynwyd o’r llwyfan yn Saesneg ac yn Gymraeg yn ystod sesiwn Diwrnod y Llywydd dydd Sadwrn gan un person ifanc wedi’i wisgo mewn gwisg Gymreig. Esblygodd y fformat yn y 1980au, gan ddod yn rhan o raglen newydd Diwrnod y Plant a gweithio gydag ysgolion lleol i greu neges newydd bob blwyddyn.
Am ragor o wybodaeth ar sut y gall eich ysgol gymryd rhan yn Neges Heddwch y Plant yn Llangollen, cysylltwch â Swyddfa’r Eisteddfod yn Llangollen:
Ffôn: 01978 862 000
E-bost: info@llangollen.net
Gellir dod o hyd i stori Neges Heddwch yr Eisteddfod yn Llangollen ar wefan Treftadaeth yr Eisteddfod.
dolen: https://www.limearchive.org.uk/eisteddfod-story/the-llangollen-peace-message/









