Mae maes parcio’r Eisteddfod wedi’i leoli yn y cae uwchlaw’r Pafiliwn a gellir ei gyrraedd o’r A542 (Ffordd yr Abaty) trwy droi i ffwrdd naill ai yn Stryd y Twr neu Wharf Hill. Mae arwyddion da iddo. Codir £10 y dydd am barcio ym maes parcio’r Eisteddfod, a gallwch ei brynu ar y diwrnod.
Mae meysydd parcio’r cyngor yn y dref hefyd, sydd wedi’u nodi ar y map isod.
Bathodyn glas yn unig yw parcio i bobl anabl, a chodir £10 hefyd. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ac ni ellir eu cadw na’u gwarantu. Maent yn hygyrch o fynedfa Ffordd yr Abaty a gellir defnyddio’r ardal hon hefyd ar gyfer gollwng pobl – gyda’r car wedyn yn cael ei symud i brif faes parcio’r digwyddiad. Dysgwch fwy am ein Hygyrchedd yma.
