Mae gan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen enw da sy’n dyddio’n ôl i 1947 am ddod â’r byd i Langollen – ac i Gymru. Mae cannoedd o filoedd o bobl, o ddwsinau o wledydd wedi ymweld dros y blynyddoedd, gan ddod â’u diwylliannau a’u hieithoedd i Ogledd Cymru.
Mae Llangollen bob amser wedi croesawu a dathlu creadigrwydd ac amrywiaeth byd-eang wrth hyrwyddo heddwch a’n dynoliaeth gyffredin. Ond beth am y cymunedau hynny o lawer iawn o wledydd sydd wedi ymsefydlu yng Nghymru flynyddoedd lawer yn ôl, neu sydd wedi symud yma’n ddiweddar am bob math o resymau – o ganlyniad i ryfeloedd, neu geisio noddfa a lloches?
Sut maen nhw’n gweld eu hunain a sut orau i roi cyfle iddyn nhw ddangos i Gymru a’r byd sut mae eu cymunedau’n ymdopi ac yn wir yn ffynnu yng Nghymru?
Dyna’r her yr oedd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a Chyngor Celfyddydau Cymru eisiau mynd i’r afael â hi, trwy gyfrwng barddoniaeth, cerddoriaeth a dawns. A dyna sut, a pham y cynlluniwyd a datblygwyd y prosiect Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Ym mis Gorffennaf 2024, cymerodd tri grŵp o wahanol rannau o Gymru ran mewn prosiect peilot i berfformio yn Llangollen, i rannu ac arddangos eu cefndiroedd diwylliannol eu hunain ac i ddweud wrth y byd am eu cymunedau sy’n byw yma yng Nghymru. Roedd yn llwyddiant mawr ac yn 2025, dechreuodd chwe grŵp deinamig o bob cwr o Gymru weithio ar eu prosiectau cymunedol unigol.
Fe gafodd y grwpiau gymorth gan yr ymgynghorwyr cymunedol arbenigol Richie Turner a Lyndy Cooke ynghyd â chyfarwyddwyr y prosiect, Garffild a Sian Eirian Lewis, i fynd drwy’r broses greadigol. Darparwyd cyngor a chefnogaeth arbenigol i bob grŵp ar sut i adrodd straeon a pherfformio gan dri phartner allanol allweddol – Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Cherddoriaeth Gymunedol Cymru. Fe berfformiodd pob un o’r chwe grŵp ar Lwyfan y Globe yn yr Eisteddfod ar 9fed o Orffennaf 2025.
Roedd yn brynhawn gwych o greadigrwydd, angerdd ac egni, a ddechreuodd gyda pherfformiad gan gwmni Dance Empire o Wrecsam mewn partneriaeth â grŵp ieuenctid EYST, grŵp o bobl ifanc o wahanol wledydd sydd wedi ymgartrefu yn ardal Wrecsam. Cyflwynodd y bobl ifanc, o bump oed i eraill yn eu harddegau, berfformiad deg munud o hyd drwy gân a dawns ar y thema ‘Heddwch Byd-eang’. Defnyddiwyd caneuon pop modern Saesneg fel rhan o’r perfformiad a roedd y gân Gymraeg adnabyddus, ‘Yma o Hyd’, wedi cael pawb i ganu gyda’i gilydd ar y diwedd. Eu neges yn syml oedd, ta waeth o ble rydych chi’n dod, neu’r heriau rydych chi’n eu hwynebu mewn bywyd, ein bod ni’n dal yma, wedi’n huno gyda’n gilydd.
Nesaf ar Lwyfan y Globe daeth Samarpan, grŵp dawns Indiaidd â berfformiodd ddarn hyfryd o ddawns glasurol Indiaidd wedi eu plethu gyda dylanwadau diwylliannol Cymreig yn cynrychioli undod, perthyn a gobaith am y dyfodol. Fe wnaethon nhw gyflwyno caneuon gwerin traddodiadol Cymru wedi’u cyfuno â symudiadau dawns traddodiadol Indiaidd mewn perfformiad â oedd yn hudolus ac yn emosiynol.
Dangosodd y grŵp cymunedol Caminhos o ardal Caerdydd gymysgedd o ddawns, llafarganu a’r gair llafar Brasilaidd ac Affricanaidd. Mewn perfformiad llawn lliw ac egni, fe wnaethon nhw adrodd eu stori am gymuned â oedd yn byw mewn cytgord ond oedd yn wynebu grymoedd allanol a greodd helbul ac anhrefn. Roedd gan y perfformiad hwn bopeth, gan gynnwys darn oedd yn efelychu ymladd arddull ‘martial arts’ ac fe wnaeth y cymysgedd o lafarganu, canu a dawnsio wir gyffwrdd cynulleidfa emosiynol a gwerthfawrogol.
Daeth Oasis nesaf – perfformiad ar y cyd â gyflwynwyd gan Fand Gambas a Chôr Un Byd Cymru. Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw gyflwyno perfformiad â oedd yn dathlu diwylliant a iaith trwy ddefnyddio amrywiaeth o ganeuon pwerus i ddisgrifio’r ymdeimlad unigryw o fod yn geiswyr lloches yma yng Nghymru. Roedd yn berfformiad cofiadwy iawn yn seiliedig ar eu negeseuon clir o ‘wneud y byd yn well lle i fyw’ ac o fod yn ‘rhydd i hedfan’ ac i ‘freuddwydio am gariad’.
Fe wnaeth canu a dawnsio i sŵn Afrobeats gan TGP Teulu Dawns Cymru sicrhau bod y gynulleidfa yn dawnsio hefyd! Grŵp ifanc o geiswyr lloches yw’r rhain a oedd am daflu goleuni ar themâu fel hunaniaeth, treftadaeth, gwydnwch a phŵer cymuned. Dechreuodd y perfformiad gyda chyflwyniad yn y Gymraeg a’r Saesneg gan un o’r aelodau a’r negeseuon oedd “mae heddwch y byd yn dechrau gyda ni” ac “nid ydym wedi torri”. Ar ddiwrnod poeth iawn, roedd hwn yn berfformiad llawn egni ac emosiwn â gyflwynodd y gynulleidfa i gymuned glos ac agos sy’n byw yn ne Cymru.
A llifodd yr egni a’r emosiwn hwnnw’n ddi-dor i’r perfformiad nesaf a’r olaf gan y grŵp Balkan Roots o Gaerdydd a Chasnewydd, grŵp cydweithredol sy’n cynnwys unigolion o wledydd yr hen Iwgoslafia ac sydd bellach yn byw yng Nghymru. Maent yn rhannu treftadaeth Balcanaidd ac mae eu stori, â adroddir trwy gân a dawns, yn ymwneud ag adeiladu pontydd rhwng yr hen a’r newydd, rhwng traddodiadau a ffordd newydd o fyw, a defnyddio cymuned a charedigrwydd i uno cenhedloedd. Roedd hwn yn berfformiad llawn bywyd gyda llawer o ganu gwych – a’r perfformwyr yng nghanol y gynulleidfa ar ddiwedd y sioe ar gyfer dathliad cofiadwy gyda’i gilydd.
Yna cymerodd y grwpiau ran yng Ngorymdaith y Cenhedloedd yn Llangollen, ochr yn ochr â 4000 o gystadleuwyr rhyngwladol o bob cwr o’r Byd – gan gloi prynhawn gwych yn dathlu amrywiaeth Cymru trwy gân a dawns.
Dywedodd Garffild Lewis, un o gyfarwyddwyr y prosiect, “Mae prosiect Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol wedi dangos i ni bŵer rhyfeddol y celfyddydau i uno pobl, dathlu amrywiaeth, ac adrodd straeon sy’n bwysig. Roedd gweld y cymunedau hyn yn rhannu eu traddodiadau, eu brwydrau, a’u llawenydd ar Lwyfan y Byd yn gyffrous iawn. Dyma beth yw pwrpas yr Eisteddfod – lle i ddiwylliannau gwrdd, i gysylltu, ac i greu rhywbeth gwirioneddol gofiadwy.”
Roedd hwn yn ddiwrnod – ac yn brosiect – a fydd yn cael ei gofio a’i drysori gan bawb dan sylw. Roedd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, ymhlith y cannoedd o bobl â wyliodd y grwpiau – ac roedd wrth ei fodd gyda’r perfformiadau ac yn falch iawn o brosiect Rhythmau a Gwreiddiau.
Rhaid i’r gair olaf fynd i un o’r perfformwyr:
“…roedd bod yn rhan o ŵyl Gymreig mor eiconig—yn enwedig drwy’r rhaglen Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol—yn gyfle newydd ac ysbrydoledig. Fe wnaeth ganiatáu inni gyflwyno ffurfiau celf clasurol a chymunedol Indiaidd ochr yn ochr â thraddodiadau diwylliannol cyfoethog Cymru mewn lleoliad â gydnabyddir yn fyd-eang. Roedd yn gam ystyrlon yn ein taith barhaus o ddefnyddio’r celfyddydau i adeiladu pontydd diwylliannol”.


Canmolodd David drefnwyr yr Eisteddfod a lletygarwch Cymru:
Mae Nicoletta Mantovani, gweddw Luciano Pavarotti a threfnwyr yr Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yng Nghymru wedi talu teyrnged i Gôr Ieuenctid “rhagorol” Seland Newydd. Mae hyn yn dilyn eu buddugoliaeth nodedig fel Côr y Byd yn yr ŵyl fyd-enwog. Mewn dathliad dwbl i Seland Newydd, enwyd cyfarwyddwr y côr, David Squire, hefyd yn Arweinydd Mwyaf Ysbrydoledig.
Mae Ken Skates AS, Aelod Senedd De Clwyd – sy’n cynnwys Llangollen – wedi talu teyrnged i drefnwyr Eisteddfod Llangollen ar ôl gwyl lwyddiannus arall ddod i ben.
Ymunodd y seren opera Syr Bryn Terfel â chantorion enwog Fisherman’s Friends i gludo cynulleidfa’r Pafiliwn ar fordaith gerddorol gyffrous neithiwr (dydd Sul).
Mewn uchafbwynt ysblennydd i 4 diwrnod o berfformiadau o’r radd flaenaf, coronwyd Côr Ieuenctid Seland Newydd yn Gôr y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2025. Mewn diweddglo cyffrous, swynodd y côr cymysg y beirniaid a chodi Tlws Pavarotti mawreddog, a gyflwynwyd gan Nicoletta Mantovani a Chadeirydd yr Eisteddfod John Gambles.
Daw’r Eisteddfod i ben heddiw ( dydd Sul) gyda Diwrnod Hwyl i’r Teulu o 10am–4pm, yn cynnwys y cyflwynydd teledu plant annwyl Andy Day a’i fand gwych Andy and the Odd Socks. Uchafbwynt y dydd fydd cyngerdd amser cinio yn y Pafiliwn, a gynhyrchwyd mewn partneriaeth â Music for Youth, gan arddangos talent ifanc anhygoel o bob cwr o’r DU a pherfformwyr rhyngwladol yr ŵyl.
Mae’r Eisteddfod enwog yn rhywbeth sy’n rhoi Llangollen ar y map rhyngwladol, yn ôl AS yr ardal Becky Gittins.
Mae perfformwyr ifanc wedi bod yn dangos pa mor bwysig yw Eisteddfod Llangollen iddyn nhw wrth iddynt ddisgleirio yn ei chystadlaethau’r wythnos hon.







