Galw am gantorion i ymuno â chôr o 200

Mae ymgyrch wedi’i lansio i chwilio am gantorion o bob rhan o ogledd Cymru i ymuno â chôr torfol o 200 o leisiau i alw am heddwch byd-eang. 

Bydd y perfformiad yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn talu teyrnged i’r miloedd o ddynion, merched a phlant a gafodd eu lladd mewn cyflafan yn rhyfel Bosnia yn y 1990au ac yn taflu goleuni ar gyflwr enbyd y rhai sy’n dioddef ar hyn o bryd yn Wcrain sydd wedi’i rhwygo gan ryfel. 

Bydd y cyngerdd, o’r enw Y Blodau Gwyn: I Mewn i’r Goleuni, yn cael ei chynnal am 8pm nos Fercher, Gorffennaf 5, ychydig ddyddiau cyn Diwrnod Coffa Srebrenica ar Orffennaf 11 i gofio’r 8,372 o Fwslimiaid Bosniaidd a gafodd eu lladd yn 1995. 

Mae motiff y Blodau Gwyn wedi’i fabwysiadu fel symbol o goffâd yn Srebrenica ac mae 11 petal y blodyn yn cynrychioli’r diwrnod y dechreuodd yr hil-laddiad. 

Dewiswyd thema’r cyngerdd i adlewyrchu pwrpas sefydlu’r Eisteddfod, digwyddiad eiconig a sefydlwyd yn 1947 i hybu heddwch yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. 

Canolbwynt y rhaglen fydd detholiadau o offeren heddwch ingol, The Armed Man, gan y cyfansoddwr Cymreig enwog Karl Jenkins. 

Mae angen gwirfoddolwyr i ymuno â’r côr enfawr, sydd wedi’i ffurfio’n arbennig, un o’r corau mwyaf a welwyd erioed yng ngogledd Cymru. 

Bydd cerddorfa nodedig NEW Sinfonia yn cyfeilio iddynt gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn Eisteddfod Llangollen. 

Mae arweinydd NEW Sinfonia, Robert Guy, wedi cyhoeddi galwad ar gantorion o bob oed i gofrestru ar gyfer y côr, gydag ymarferion i gychwyn ar Fai 13. 

Dywedodd na fydd unrhyw rwystrau i gymryd rhan yn yr achlysur cyffrous hwn, gan ychwanegu: “Nid yw wedi’i gyfyngu i’r rhai sydd â phrofiad blaenorol o ganu cyngherddau. Mae’n agored i bawb, y cyfan sydd ei angen arnyn nhw yw cariad at ganu.” 

Wrth galon y côr bydd criw o gantorion amatur brwd sy’n perthyn i’r prosiect hynod lwyddiannus NEW Lleisiau a sefydlwyd eisoes gan NEW Sinfonia. 

Meddai Robert: “Diolch i lwyddiant ysgubol ein prosiect NEW Lleisiau mae gennym eisoes grŵp craidd o gantorion amatur brwdfrydig yn barod i gamu i fyny a chanu yn Llangollen. Ond mae angen llawer mwy o gantorion, yn enwedig tenoriaid a baswyr. 

“Bydd angen 200 o leisiau i gyd felly rydym yn annog unrhyw un sydd ag angerdd am ganu ac awydd i gymryd rhan yn y digwyddiad pwysig hwn i gofrestru’n gyflym.” 

Mae NEW Lleisiau yn cynnwys ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yng ngogledd Cymru yn dilyn gwrthdaro neu erledigaeth yn eu gwledydd eu hunain. Maent wedi cael cysur o ganu gyda’i gilydd ac wedi gwneud ffrindiau newydd trwy iaith gyffredin cerddoriaeth. 

Yn eu plith mae arweinydd ifanc o Wcrain, Polina Horelova, a orfodwyd gyda’i theulu ifanc i ffoi o’i dinas enedigol, Mariupol ar ôl i’r Rwsiaid oresgyn y ddinas a’i difrodi. 

Y gobaith yw y bydd Polina yn arwain y darn gwerin traddodiadol o Wcrain, Cân yr Afon yn ystod y cyngerdd coffa. 

Ychwanegodd Robert: “Rydym yn falch bod NEW Lleisiau yn cynnwys cymysgedd mor eang o alluoedd cerddorol ac amrywiaeth o genhedloedd. Rydym yn cynnwys cantorion o Gymru, Wcráin, Irac, Iran, Algeria ac El Salvador, ymhlith gwledydd eraill. 

“Ar gyfer ein rhaglen Y Blodau Gwyn: I Mewn i’r Goleuni, mae angen sopranos, altos, tenoriaid, baswyr a lleisiau ifanc hefyd; rydym yn annog pawb i ddod ymlaen. 

“Bydd ymarferion rheolaidd felly does dim angen i bobl ofni nad ydyn nhw’n ddigon da neu ddiffyg hyder. Rydym yma i’w harwain trwy’r holl broses arbennig.” 

Bydd ymarferion mewn dwy ganolfan, un yng nghanolfan celfyddydau cymunedol Tŷ Pawb, Wrecsam, a’r llall yn Eglwys y Plwyf Llanelwy. Maent yn cyfarfod ar foreau Sadwrn rhwng 10am a 12 canol dydd. Mae yna hefyd gyfleuster i bobl ymuno ag ymarferion trwy dechnoleg fideo-gynadledda Zoom. 

Dywedodd Cynhyrchydd Gweithredol Eisteddfod Llangollen, Camilla King: “Rydym wedi bod yn meddwl am wneud rhywbeth ar y thema a’r raddfa hon ers peth amser ond dim ond eleni y mae’r gwahanol linynnau wedi dod at ei gilydd i greu’r hyn sy’n argoeli i fod yn noson hudolus. 

“Mae’n dorcalonnus edrych yn ôl ar ryfel Bosnia a sylweddoli bod hunaniaeth ddiwylliannol gyfan dan ymosodiad. 

“Yn ogystal â llofruddio’r boblogaeth, targedwyd ei threftadaeth gyfan, dinistriwyd gweithiau celf a dymchwelwyd eiconau diwylliannol. Ac yn awr dim ond dau ddegawd yn ddiweddarach mae erchyllterau tebyg iawn yn digwydd yn Wcrain ar hyn o bryd. 

“Roedden ni eisiau cynnal cyngerdd i dynnu sylw at y ffaith bod y ddynoliaeth yn gallu bod yn gymaint yn well na hyn. Roeddem am adlewyrchu’r ethos o heddwch, cyfeillgarwch ac amrywiaeth ddiwylliannol sydd wrth wraidd yr Eisteddfod Ryngwladol a dyna’r rheswm pam y cafodd ei sefydlu yn y lle cyntaf yr holl flynyddoedd yn ôl yn 1947. 

“Bydd hi’n noson fyfyrgar sy’n procio’r meddwl ond bydd hefyd yn codi calon gan ei bod yn amlygu themâu pwysig o obaith, undod a goresgyn rhaniadau.” 

Ychwanegodd Camilla: “Rwy’n disgwyl y bydd y galw mawr am docynnau gan nad oes amheuaeth yn fy meddwl y bydd hon yn noson fythgofiadwy. Rydym yn gwahodd pawb i ddod draw i fwynhau.” 

Am fwy o fanylion am y gyngerdd am 8pm nos Fercher, Gorffennaf 5, ewch i: https://international-eisteddfod.co.uk/events/wednesday-evening/ ac i gofrestru ar gyfer y côr neu i gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch lleisiau@newsinfonia .org.uk a robert@newsinfonia.org.uk neu ffoniwch Robert Guy ar 07725 050510.