Mae darlleniad radio enwog gan y bardd Dylan Thomas am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael ei ail-greu i nodi 70 mlynedd ers y darllediad gwreiddiol.
Bydd darlleniad yr actor, yr awdur a’r cyfarwyddwr Celyn Jones yn ganolbwynt i raglen gryno o ddigwyddiadau i ddathlu campwaith 15 munud y consuriwr llenyddol ar Wasanaeth Cartref y BBC pan ymwelodd ym 1953.
Roedd y delweddau llafar bywiog yn creu darlun hudolus a bythgofiadwy o’r digwyddiad unigryw ac fe’i traddodwyd yn ei lais dwfn, soniarus.
Ond fe ddatgelwyd na fu bron iawn i’r darllediad hanesyddol ddigwydd o gwbl oherwydd collodd Thomas ei nodiadau ar y ffordd yn ôl i stiwdio’r BBC yng Nghaerdydd.
Yr un flwyddyn roedd y diweddar Frenhines Elizabeth hefyd yn bresennol yn yr Eisteddfod yn fuan ar ôl ei Choroni.
Roedd yr ŵyl wedi ei sefydlu chwe blynedd ynghynt o dan gysgod tywyll yr Ail Ryfel Byd fel ffordd o hybu heddwch trwy harmoni cerddorol a dawns.
Ers hynny mae cannoedd o filoedd o gystadleuwyr o bob rhan o’r byd wedi ymweld â Llangollen.
Mae’r dref hardd yn Nyffryn Dyfrdwy lle mae “Cymru’n cwrdd â’r byd” bellach yn paratoi ar gyfer yr ŵyl lawn gyntaf ers pandemig Covid-19.
Mae’r cyfan yn cychwyn ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 4, ac mae’r cystadlaethau a’r cyngherddau’n parhau tan ddydd Sul, Gorffennaf 9, gyda miloedd o gantorion a dawnswyr o bob rhan o’r byd yn cymryd rhan.
Mae pob diwrnod yn cynnwys rhaglen lawn o gystadlaethau yn y Pafiliwn a rhestr o stondinau ac arddangosfeydd ar y maes ynghyd â chystadleuwyr o bedwar ban byd, nifer ohonynt mewn gwisg liwgar tra bod tri llwyfan awyr agored yn cynnal llif cyson o berfformiadau byw.
Mae adloniant ar y safle allanol yn cynnwys gweithdai, sgyrsiau, arddangosiadau rhyngwladol, perfformiadau theatr awyr agored, sgiliau syrcas, sesiynau bath sain, yoga, dawnsio bol, Cymraeg i ddechreuwyr a salsa.
Bydd Llwyfan y Byd yn cynnwys perfformiadau cerddorol sy’n rhychwantu cerddoriaeth gwerin, jazz, byd ac indie.
Bydd blas rhyngwladol hefyd i’r bwyd sydd ar gael yn ardal newydd Bwyd y Byd.
Bydd ymwelwyr yn gallu “mynd o amgylch y byd mewn 80 munud” gyda stondinau yn gweini bwyd o wahanol wledydd gan gynnwys India, Gwlad Groeg, Jamaica, Mecsico, yr Almaen a’r Eidal.
Yn ôl cynhyrchydd gweithredol yr Eisteddfod, Camilla King, roedden nhw’n arbennig o awyddus i ddathlu pen-blwydd darllediad cofiadwy Dylan Thomas.
Meddai: “Er yn drist iawn bu farw Dylan Thomas yn Efrog Newydd ychydig fisoedd ar ôl ei ymweliad â Llangollen, bydd ei etifeddiaeth werthfawr yn parhau oherwydd mae’n cael ei ystyried fel un o’r mawrion llenyddol.
“Roedden ni’n teimlo ei bod hi’n arbennig o briodol cofio nid yn unig ei ddarllediad gwych ond hefyd canon ehangach ei waith a’i wnaeth yn fardd o fri.”
Bydd y gweithgareddau’n cynnwys cyflwyniad gan yr Athro Chris Adams, is-gadeirydd yr Eisteddfod ac aelod o’i Phwyllgor Archifau, a ddatgelodd fod y bardd wedi cael y swm hael o 20 gini am ei ymdrechion.
Dywedodd yr Athro Adams fod Thomas, a aned yn Abertawe, wedi “cynhyrchu delweddau llafar o’r Eisteddfod gynnar y mae eu grym yn atseinio hyd heddiw”.
Roedd yn fwy rhyfeddol fyth, meddai, gan fod pobl leol yn cofio ei fod wedi treulio llawer o’i amser yn Llangollen yn y dafarn, gyda Gwesty’r Wynnstay (The Three Eagles bellach) yn un o’i hoff lefydd am ddiod.
Ategwyd hynny gan y diweddar Aneirin Talfan Davies, cynhyrchydd y BBC a anfonwyd i Langollen i gadw llygad ar Thomas, a oedd yn yr Eisteddfod yng nghwmni ei wraig, Aeronwy a’u merch, Caitlin.
Adroddodd Talfan Davies, a oedd yn fardd dawnus ei hun, sut yr oedd Thomas wedi treulio’r wythnos yn “crwydro’n ddiamcan trwy strydoedd Llangollen, gan dreulio hanner awr hwnt ac yma ym mhabell yr eisteddfod ac oriau lawer ym mariau tafarndai’r dref.”
Disgrifiodd hefyd ffordd y bardd o weithio oedd yn golygu “ysgrifennu nodiadau ar bacedi sigaréts, a phanig Thomas ar y ffordd yn ôl i Gaerdydd pan ofnai ei fod wedi colli’r nodiadau”.
Diolch byth, daeth y nodiadau i’r amlwg ymhen dim o dro ac mae’r darn gorffenedig, cryno wedi’i ddisgrifio fel enghraifft glasurol o’i athrylith gyda geiriau.
Ar wahân i’r cystadlaethau a chofio Dylan Thomas, mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys cyngerdd gyda Alfie Boe a’r grŵp theatr gerdd Welsh of the West End ar noson gyntaf yr Eisteddfod ar nos Fawrth, Gorffennaf 4.
Ddydd Mercher bydd Y Blodau Gwyn: I Mewn i’r Goleuni, cyngerdd i goffau’r rhai a fu farw yn Sarajevo ac Wcráin, yn cynnwys cerddorfa NEW Sinfonia gydag unawdwyr o Bosnia, Cymru ac Wcráin, gyda gwaith enwog Karl Jenkins, The Armed Man yn ganolbwynt i’r noson.
Mae’r orymdaith boblogaidd o gyfranogwyr rhyngwladol a dathlu heddwch yn digwydd ddydd Iau, ac yna Hedfan, gwaith cyfrwng cymysg newydd, sy’n cynnwys dawns, cerddoriaeth a gwaith theatr gan yr artistiaid gweledol ysbrydoledig y Propellor Ensemble, wedi’u hysgogi gan batrymau mudol ym myd natur a byd pobl.
Ar y nos Wener bydd Band Mawr Guy Barker yn cymryd y llwyfan ynghyd â chanwr Strictly Come Dancing, Tommy Blaize.
Mae’r dydd Sadwrn yn cynnwys y digwyddiad rhuban glas, cystadleuaeth Côr y Byd ar gyfer Tlws Pavarotti, a hefyd cystadlaethau Pencampwyr Dawns a Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine 2023.
Mae gwedd newydd ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod ddydd Sul gyda rownd derfynol fyw newydd sbon lle bydd sêr lleisiol yn brwydro i hawlio’r teitl Llais Theatr Gerdd, a Cân i Llan, cystadleuaeth cyfansoddi caneuon newydd i’r rhai sydd heb gytundeb proffesiynol rhwng 14-22 oed, gan ddarparu llwyfan ar gyfer lleisiau sy’n dod i’r amlwg mewn cerddoriaeth boblogaidd gyfoes.
Ychwanegodd Camilla King: “Mae adloniant ar y safle allanol yn ymestyn ar draws tri phrif lwyfan gyda mwy o ddigwyddiadau ‘pop-yp’ dyddiol ac yn cynnwys gweithdai yn yr Amffitheatr gyda Chwmni Theatr Byd Bychan yn gwahodd ymwelwyr i greu eu cerflun blodau gwyn eu hunain ac Ensemble Propellor yn adeiladu offeryn anferth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu.
“Bydd hefyd adeiladu Lego dyddiol, celf a chrefft, sesiynau blodau gan drefnwyr enwog yr Eisteddfod, sgiliau syrcas gyda Jester Jack, Xplore Science, ioga, bath sain, dawnsio bol a chyfle i ddysgu sgiliau newydd gan y cystadleuwyr gwadd amrywiol.
“Mae Sgyrsiau ar Lwyfan y Gromen yn cynnwys Bethan Rhiannon o Calan yn trafod ‘O ddawns y glocsen i gomedi’, y bardd Mererid Hopwood yn arwain panel ar y Ddarlith Heddwch flynyddol, gan fyfyrio ar hanes anhygoel Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru.
“Bydd perfformwyr rhyngwladol yn ymddangos ar Lwyfan y Byd gan gynnwys y Mynachod Tashi Lhunpo o Dibet, cerddoriaeth werin Siapaneaidd SOAS Min’yo, perfformwyr o Bosnia ac Wcráin, a cherddoriaeth gan Filkin’s Drift, Seprona, Kilbride Brothers, Triawd Billy Thompson, The Bartells, y Chester Big Band a Lilly Boughey a llawer mwy.”
Tocynnau & Beth sy’ ymlaen: www.international-eisteddfod.co.uk/cy/whats-on/