Archifau Categori: Cerdd

Hwb anferth i gystadleuaeth cantorion ifanc gorau’r byd

Mae cystadleuaeth eiconig i ddod o hyd i gantorion ifanc gorau’r byd wedi cael hwb enfawr gan sefydliad gofal arloesol.

Mae Parc Pendine wedi cytuno i fwy na threblu’r wobr ariannol fydd ar gael i’w hennill yng nghystadleuaeth fawreddog Llais y Dyfodol yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Yn ôl Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd yr ŵyl, bydd cynyddu’r wobr flynyddol i £5,000 o 2017 ymlaen, yn “codi’r gystadleuaeth i lefel hollol newydd”.

Meddai: “Mae’r rhodd yma’n gyfraniad gwirioneddol nodedig a fydd yn arwain at ymchwydd mawr yn y diddordeb am ddoniau lleisiol newydd.

“Mae’r amseriad yn arbennig o briodol gan y byddwn yn dathlu ein 70ain gŵyl yn 2017 ac yn edrych ymlaen at ddyfodol fydd hyd yn oed yn fwy disglair.”

(rhagor…)

Mab sylfaenydd Eisteddfod Llangollen yn cofio dyddiau cynnar cyffrous yr ŵyl

Bydd mab y gŵr a sefydlodd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ŵr gwadd yn ystod y 70ain ŵyl fis Gorffennaf yma.

Mae Peter Tudor, sydd nawr yn 84 oed, yn cofio sut y bu i’w dad, y newyddiadurwr Cymraeg nodedig Harold Tudor, feddwl am y syniad o ddigwyddiad diwylliannol mawr er mwyn helpu i leddfu creithiau’r Ail Ryfel Byd.

Mae gan Peter gof byw o’r cynnwrf wrth i gystadleuwyr o ledled Ewrop ddechrau ymgasglu ar gyfer yr ŵyl gyntaf yn y pentref bychan yn Sir Ddinbych yn ystod haf 1947.

(rhagor…)

Bryn Terfel ac un o brif denoriaid y byd ar lwyfan gyda’i gilydd yng nghyngerdd gala Llangollen

Mae’r seren opera enwog Bryn Terfel, yn bwriadu dathlu 70fed Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen mewn steil – drwy rannu’r llwyfan gyda chyfaill da iddo sydd hefyd yn denor rhyngwladol o fri.
Bydd y bas-bariton poblogaidd Bryn Terfel CBE, yn serennu yng nghyngerdd nos Iau, 7 Gorffennaf, ac yn ymddangos ar y llwyfan gydag ef fydd y canwr opera o Malta, yr hynod dalentog Joseph Calleja, y mae ei lais wedi cael ei gymharu â’r chwedlonol Caruso. (rhagor…)

Y chwedlonol bwgi wwgi Jools Holland yn dychwelyd i ddathlu braint yr ŵyl

Bydd y chwedlonol bwgi wwgi Jools Holland yn dod yn ôl i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddathlu dod yn is-lywydd yr ŵyl eiconig.

Yn gyn bianydd Squeeze, arweinydd band, awdur, cyflwynydd teledu a radio, mae wrth ei fodd cael cynnig y swydd er anrhydedd yn ‘y digwyddiad gwbl ddisglair’.

Bydd Jools a’i Gerddorfa Rhythm & Blues yn cau’r llen ar yr Eisteddfod 70 oed yr haf nesaf gyda pharti codi’r to ddydd Sul, 10 Gorffennaf.

(rhagor…)