Cyfarfod â bachgen yn canu ar lôn wledig oedd yr ysbrydoliaeth i sylfaenydd gŵyl eiconig

Bydd mab sylfaenydd yr ŵyl eiconig yn westai anrhydeddus yn y 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr haf hwn.

Ac mae Selwyn Tudor wedi dwyn i gof yr achlysur pan gafodd ei ddiweddar dad, Harold, ei ysbrydoliaeth cychwynnol i greu’r digwyddiad sydd wedi dod yn symbol o heddwch a dealltwriaeth ledled y byd.

Yn niwedd y 1940au cafodd y newyddiadurwr Cymreig enwog Harold Tudor weledigaeth o greu gŵyl ddiwylliannol fawreddog yn Llangollen er mwyn helpu i wella’r creithiau a adawyd gan yr Ail Ryfel Byd.

Ac, yn ôl ei fab ieuengaf Selwyn, sydd bellach yn 81 oed ac yn byw yn Birmingham, dechreuodd y freuddwyd un bore wrth iddo ef a’i dad fynd ar daith feicio un bore Sul yn y bryniau ger eu cartref yng Nghoedpoeth.

Dywedodd: “Roeddem wrth ein boddau yn mynd allan i feicio ar y lonydd gwledig ac un dydd Sul yn 1945 neu 1946 roeddem allan yn y wlad pan welsom fachgen ifanc tua 11 neu 12 oed – yr un oed â mi bryd hynny – yn cerdded tuag atom dros frig y bryn yn canu ar dop ei lais.

“Cerddodd yn syth heibio i ni, ac mi wnaethon ni ei wylio ef nes iddo fynd o’r golwg.

“Roedd gweld y bachgen yma yn gwneud ei hun mor hapus trwy ganu wedi rhoi’r syniad i Dad o ddechrau Eisteddfod i greu rhywbeth a fyddai’n meithrin y syniad o heddwch ymysg y cenhedloedd trwy gerddoriaeth.”

Roedd Harold Tudor yn dod yn wreiddiol o Tanyfron, ger Coedpoeth, ac ar ôl mynychu Ysgol Grove Park yn Wrecsam dechreuodd weithio i’r Wrexham Leader ac yn ddiweddarach daeth yn is-olygydd ar bapurau newydd y Post and Echo yn Lerpwl.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd daeth hefyd yn aelod o’r Cyngor Prydeinig, sefydliad sy’n arbenigo mewn cyfleoedd addysgol a diwylliannol rhyngwladol.

Daeth y gwaith yma ag ef i gysylltiad â chynrychiolwyr llywodraethau tramor alltud oedd yn aros ym Mhrydain.

Ar ôl cael y syniad o ddechrau digwyddiad rhyngwladol yn nhref dwristaidd fechan Llangollen yn Sir Ddinbych, enillodd gefnogaeth hanfodol i’w syniad gan yr athro lleol George Northing, cadeirydd cyntaf yr Eisteddfod, ac unigolion eraill, gan gynnwys W S Gwynn Williams, ffigur blaenllaw mewn cerddoriaeth Gymreig a oedd yn byw yn y dref.

Mi wnaeth y cynllun fagu stêm a llwyfannwyd yr Eisteddfod gyntaf ar gae yn y dref ym mis Mehefin 1947 gyda Harold yn gyfarwyddwr cyhoeddusrwydd mygedol.

Dros y blynyddoedd bu’n ymwneud llai gyda’r ŵyl, yn enwedig ar ôl iddo gael swydd fel is-olygydd gyda’r Post and Mail yn Birmingham a symudodd yno gyda’i deulu. Ar ôl gyrfa lawn bu farw yn 79 oed yn 1986.

Ganwyd Selwyn Tudor, yr ail o ddau fab Harold, pan oedd y teulu yn dal i fyw yn Lerpwl. Bydd ei frawd hynaf, Peter, sydd bellach yn byw yn Swydd Stafford, hefyd yn dod draw i Langollen ym mis Gorffennaf.

I ddianc rhag  erchyllterau’r Blitz yn Lerpwl ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd symudodd Harold Tudor ei deulu i’w gartref yng Nghoedpoeth a dechreuodd Selwyn ysgol uwchradd yn hen Ysgol Ramadeg Grove Park yn Wrecsam.

Ei swydd gyntaf ar ôl gadael yr ysgol oedd fel cynorthwyydd gwerthu yn hen siop fawr Lloyd Williams yn y dref am gyfnod byr, cyn i’r teulu symud i Birmingham i ddilyn gyrfa papur newydd Harold.

Ar ôl gweithio am beth amser mewn manwerthu, yn y pen draw dechreuodd Selwyn ei fusnes ei hun yn gwneud cistiau pren ac adfer hen bethau, tan ei ymddeoliad yn 65 oed.

Mae ganddo ef a’i wraig Ann, sy’n byw yn ardal West Heath yn Birmingham, ddwy ferch, Susan a Debi a phedair wyres, rhwng 15 a 25 oed.

Meddai Selwyn: “Roedd fy nhad yn ddyn clyfar, caredig a hael iawn.

“Ar ôl diwedd y rhyfel roedd yn chwilio am syniad i geisio hyrwyddo cytgord rhyngwladol a sut i symud hynny yn ei flaen, a byddai bob amser yn dweud mai’r cyfarfyddiad yna gyda’r bachgen ifanc yn canu i fyny yn y bryniau uwchlaw Llangollen oedd yr ysbrydoliaeth go iawn i gychwyn yr Eisteddfod.Selwyn Tudor 2

“Rwyf hefyd yn cofio ei fod yn arfer mynd â’i feic modur dros y bryniau drwy World’s End i lawr i Langollen er mwyn siarad â phobl am y trefniadau ar gyfer yr Eisteddfodau cyntaf.

“Ar ôl ychydig o flynyddoedd wedi i ni symud lawr i Birmingham collodd gysylltiad gyda’r Eisteddfod, ond does dim amheuaeth mae ef oedd y sylfaenydd, sy’n rhywbeth rwyf wedi bod yn falch iawn ohono erioed.

“I ryw raddau rwy’n meddwl fod ei ran wedi cael ei anghofio dros y blynyddoedd ond mi wnaethon nhw osod plac er cof amdano uwchben Llyfrgell Coedpoeth rai blynyddoedd yn ôl. Mae plac coffa arbennig hefyd ar ei fedd ym mynwent Coedpoeth. “

Dywedodd Rhys Davies, Cadeirydd yr Eisteddfod: “Bydd yn wych gweld Selwyn yn yr ŵyl eto eleni – mae ei dad wedi gadael etifeddiaeth wych a pharhaol ar ei ôl yn y digwyddiad mawr yma.

“Roedd Harold Tudor yn ddyn o weledigaeth fawr ac mae gan yr Eisteddfod a phobl nid yn unig yn Llangollen ond ar draws y byd lawer iawn i ddiolch iddo amdano.”

Ychwanegodd Selwyn: “Yn anffodus, roeddwn yn rhy ifanc i fynychu’r Eisteddfod gyntaf yn 1947 ond mi wnes i ddechrau mynd yn rheolaidd yn 2004 ac ers hynny mae fy ngwraig a minnau ond wedi colli un ŵyl, sef y llynedd pan oedd Ann yn sâl.

“Y flwyddyn gyntaf yr es i Langollen cawsom wahoddiad i fyny ar y llwyfan i gymryd rhan mewn dathliad bach cyn cychwyn yr Eisteddfod ac rwy’n cofio yn dda Gethin Davies, cadeirydd yr ŵyl ar y pryd, yn tapio fy ysgwydd a dweud, ‘Roedd eich tad yn ddyn hyfryd’.

“Yr hyn mae fy ngwraig a minnau yn ei fwynhau’n fawr am yr Eisteddfod yw’r awyrgylch wrth i chi gerdded ar hyd y maes, cyfarfod a chael sgyrsiau gwych gyda phobl o bob cwr o’r byd.

“Rydym hefyd yn caru’r holl gerddoriaeth a dawns ac yn ceisio gweld cymaint o bethau ag y gallwn yn ystod yr wythnos.

“Rydym eisoes wedi trefnu ein llety ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at fod yn yr Eisteddfod eleni, yn arbennig gan mai dyma yw’r 70ain gŵyl.

Selwyn Tudor 9“Byddaf hefyd yn cofio fy nhad, rhywun na fyddaf fyth yn ei anghofio am yr holl bethau y gwnaeth eu cyflawni.”

Mae’r Eisteddfod eleni’n dechrau ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 5, gyda’r seren Katherine Jenkins yn cynnig agoriad cyffrous wrth iddi ganu opera Carmen gan Bizet

Dydd Mercher fydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant a bydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns a hefyd cystadleuaeth newydd yr unawd dan 16 oed a bydd y cyngerdd gyda’r nos yn rhoi llwyfan i Leisiau Theatr Gerdd.

Bydd y digymar Bryn Terfel yn serennu yng Nghyngerdd Gala y 70ain Eisteddfod ar y nos Iau tra bydd dydd Iau yn gweld coroni Côr Plant y Byd,

Bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn wledd o gerddoriaeth a dawns gan y goreuon o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod gan gyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd gyda’r hwyr.

Bydd y cyngerdd yn agor gyda Swae Carnifal y Caribî, yn cael ei ddilyn gan y neges Heddwch Ryngwladol yn cael ei thraddodi gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.

Mewn newid i’r amserlen bydd dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.

Neilltuir dydd Sadwrn i Gorau’r Byd a bydd yn cloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, cyn i’r Eisteddfod ymlacio’n llwyr yn y Llanfest ar y dydd Sul cyn y cyngerdd terfynol cofiadwy.