Fe ddaeth llwyfan Eisteddfod Llangollen yn fyw gyda melodïau gwerin fyrlymus nos Iau, diolch i fand Jamie Smith, Mabon, a’u steil chwareus wrth gyflwyno casgliad egnïol o gerddoriaeth werin Gymraeg traddodiadol.
Archifau Tag Eisteddfod Llangollen
Cerddoriaeth Cymru wrth galon dathliadau Llangollen
Nos Fercher, fe gynhaliwyd noson gyfareddol o gerddoriaeth Gymreig yn Eisteddfod Llangollen yng nghwmni’r soprano Shân Cothi a’r tenor Rhodri Prys Jones.
Roedd y ddau unawdydd yn canu i gyfeiliant cerddorfa Sinffonieta Prydain, wnaeth hefyd berfformio gyda’r tenor byd enwog, Rolando Villazón, mewn gala glasurol nos Fawrth.
Ymddangosiad cyntaf yng Nghymru i’r Maestro Ifanc
Mae wedi bod yn cyffroi’r byd arwain, ac erbyn hyn mae’r arweinydd Prydeinig, James Hendry, yn dod â’i arddull unigryw i Langollen 2019 yn ei ymddangosiad cyntaf yng Nghymru ar nos Fawrth y 7fed o Orffennaf.
Cynnig Unigryw Rheiilfordd Llangollen
Mae gan Reilffordd Llangollen gynnig unigryw a hael i bawb sydd â Thocyn Gŵyl Eisteddfod Llangollen Thocyn Gŵyl wythnos Eisteddfod Llangollen ar gyfer digwyddiad 2019.
Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn helpu Eisteddfod Llangollen i greu Archif o’i Gorffennol
Heddiw, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi derbyn grant gwerth £19,900 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer prosiect treftadaeth cyffrous, Archifo’r Gorffennol. Mae’r prosiect yn bosib diolch i’r arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, a’r gobaith yw mai dyma fydd y cam cyntaf i gasglu a digideiddio’r cyfoeth o ddeunydd archif sy’n ymwneud ag Eisteddfod Llangollen, fel y gall pawb ei fwynhau.
Gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd y prosiect yn galluogi Eisteddfod Llangollen i gyflogi archifydd a fydd yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a phlant o Ysgol Dinas Brân i ddod â hanes Eisteddfod Llangollen yn fyw. Bydd y gwaith yn cynnwys datblygu system archifau ar-lein cynaliadwy ac ymestynnol, adnoddau addysgol ac arddangosfeydd i’w defnyddio yn y gymuned a ffilm fer am hanes Eisteddfod Llangollen.
Eisteddfod Llangollen yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda Seremoni Arbennig
Fe fydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnal digwyddiad Gŵyl Ddewi ar thema ryngwladol ddydd Gwener 1af Mawrth, er mwyn codi arian i gynorthwyo cystadleuwyr o dramor i deithio i’r ŵyl.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yn ŵyl, Dr Edward-Rhys Harry: “Bwriad y digwyddiad Gŵyl Ddewi yw helpu cyllido’r bwrsari sy’n sicrhau ein bod yn medru croesawu cymaint o gystadleuwyr rhyngwladol ac sy’n bosib i Langollen fis Gorffennaf. Mae’n wych gweld perfformwyr lleol mor dalentog yn rhoi eu hamser i gefnogi’r achos.
“Digwyddiad traddodiadol fydd hwn yn bendant, fydd hefyd yn esgus perffaith i ddathlu diwylliant Cymreig ac amrywioldeb rhyngwladol.”
Ymweld eto â Llangollen yn gwireddu breuddwyd i seren Collabro Thomas Redgrave
Mae band bechgyn theatr gerdd a enillodd Britain’s Got Talent gan adael y beirniad Amanda Holden yn ei dagrau ar eu ffordd i Ogledd Cymru.
Bydd Collabro yn serennu gyda Kerry Ellis, brenhines y West End, yng nghyngerdd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar ddydd Mercher, Gorffennaf 6.
Ac i un o aelodau’r band, Thomas Redgrave, mae’n mynd i olygu dychweliad hapus i Langollen lle bu’n cystadlu fel aelod mewn côr o Lundain rai blynyddoedd yn ôl.
Tenor enwog yn ymuno ar lwyfan gyda Katherine Jenkins
Cyhoeddwyd y bydd un o denoriaid gorau’r byd yn ymddangos ar lwyfan gyda’r seren canu clasurol Katherine Jenkins OBE yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen,.
Dyma fydd trydydd ymddangosiad Noah Stewart yn Llangollen mewn pedair blynedd wrth iddo baratoi i ymuno â’r mezzo soprano o Gymru ar y llwyfan mewn addasiad cyngerdd o opera Georges Bizet, Carmen.
Mae Stewart, sy’n hanu o Harlem, Efrog Newydd, yn edrych ymlaen yn arw i berfformio ochr yn ochr â Katherine wrth iddi bortreadu Carmen y sipsi danllyd, yn Llangollen, sydd yn lle ‘arbennig’ iddo ac yn un o’i hoff leoliadau cyngerdd.
Cyfarfod â bachgen yn canu ar lôn wledig oedd yr ysbrydoliaeth i sylfaenydd gŵyl eiconig
Bydd mab sylfaenydd yr ŵyl eiconig yn westai anrhydeddus yn y 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr haf hwn.
Ac mae Selwyn Tudor wedi dwyn i gof yr achlysur pan gafodd ei ddiweddar dad, Harold, ei ysbrydoliaeth cychwynnol i greu’r digwyddiad sydd wedi dod yn symbol o heddwch a dealltwriaeth ledled y byd.
Yn niwedd y 1940au cafodd y newyddiadurwr Cymreig enwog Harold Tudor weledigaeth o greu gŵyl ddiwylliannol fawreddog yn Llangollen er mwyn helpu i wella’r creithiau a adawyd gan yr Ail Ryfel Byd. (rhagor…)