Mae Eisteddfod Llangollen yn dathlu deng mlynedd o’i Brosiect Cynhwysiad drwy gomisiynu darn perfformio newydd sbon, SEND A Message, ar ddydd Mercher 4ydd Gorffennaf.
Mae’r prosiect cwbl gynhwysol, sy’n hyrwyddo harmoni a hygyrchedd i bawb yn y celfyddydau perfformio, yn dathlu ei ddegfed blwyddyn gyda darn perfformio a ysgrifenwyd gan y bardd Aled Lewis Evans a’r cyfansoddwr Owain Llwyd.
Yn cael ei berfformio gan blant o Ysgol St Christopher yn Wrecsam, Ysgol Tir Morfa yn Rhyl, Ysgol Plas Brondyffryn yn Sir Ddinbych, unigolion o Goleg Derwen yng Nghroesoswallt a Chôr Rhanbarthol Theatretrain yn y Wyddgrug, mae SEND A Message yn hyrwyddo’r syniad o ledaenu cariad a heddwch drwy gerddoriaeth, cân a dawns ac yn arddangos amrywiaeth eang o dalent o ledled Cymru.
Mae pob grŵp yn cynrychioli cymysgedd amrywiol o aelodau o’r gymuned leol na fyddai fel arfer yn cael y cyfle i berfformio mewn digwyddiadau rhyngwladol fel Eisteddfod Llangollen. Gyda nifer o gyfranogwyr yn goresgyn heriau gwahanol yn weithredol ac yn rheoli amrywiaeth o anableddau corfforol, anghenion addysgol arbennig a phroblemau iechyd meddwl er mwyn cymryd rhan yn y Prosiect Cynhwysiad; mae aelodau’r grŵp yn cynrychioli croestoriad o’r gymdeithas leol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod Ryngwladol, Vicky Yannoula: “Fel sefydliad sy’n adnabyddus am groesawu lliaws o ymwelwyr byd-eang, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’r Prosiect Cynhwysiad yn rhywbeth sydd yn agos iawn at galon pawb yma yn Eisteddfod Llangollen.
“Rydym wedi ymrwymo i roi cyfleoedd cyfartal i bawb gael perfformio a gyda chefnogaeth barhaus ac arian gan Sefydliad ScottishPower, rydym yn gallu parhau â gwaith gwych y Prosiect Cynhwysiad sydd yn ei dro, yn galluogi pobl o bob llwybr bywyd i berfformio ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol.
“Bob blwyddyn, rydym yn hynod lwcus i weithio gyda phobl angerddol, talentog ac ymroddedig, a dyma pam rydyn ni’n dathlu deng mlynedd anhygoel o’r prosiect hwn!”
Dywedodd Ann McKechin, Ymddiriedolwr a Swyddog Gweithredol Sefydliad ScottishPower: “Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wir yn ddigwyddiad cynhwysol sydd, drwy ei phrosiect Send a Message, yn rhoi cyfle i grŵp o bobl gyda galluoedd amrywiol i berfformio darn sydd wedi’i gomisiynu’n arbennig gyda’i gilydd ac i ddysgu gan ei gilydd.
“Mae Sefydliad ScottishPower wedi ymrwymo i ariannu prosiectau fel hyn sy’n cefnogi’r celfyddydau, yn lleihau anghydraddoldeb o ran cyfleoedd ac yn ysbrydoli pobl i gyflawni eu potensial.”
Yn siarad am ran Coleg Derwen yn y Prosiect Cynhwysiad, dywedodd Maryanne Evans: “Mae hwn yn gyfle mor gyffrous i’r myfyrwyr yng Ngholeg Derwen. Mae gallu bod yn rhan o ŵyl mor wych yn fraint a hanner!”
Gan barhau, dywedodd Steve Davies o Gôr Rhanbarthol Theatretrain: “Mae pob un o’r disgyblion wedi ffynnu o gael bod yn rhan o ddatblygiad y darn ar gyfer y Prosiect Cynhwysiad ac maen nhw’n edrych ymlaen at eu hymddangosiad cyntaf yn Eisteddfod Llangollen.”
Cyfansoddwyd SEND A Message gan Owain Llwyd ac mae’r perfformiad wedi’i goreograffu gan Angharad Harrop, gyda Leslie Churchill Ward fel Cydlynydd Artistig.