Archifau Tag ScottishPower Foundation

Prosiect Cynhwysiad yn Gyrru Neges o Heddwch am y Ddegfed Flwyddyn

Bu i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ddathlu degawd o’i Phrosiect Cynhwysiad heddiw (dydd Mercher 4ydd Gorffennaf) gyda pherfformiad o waith comisiwn newydd, SEND A Message, ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol.

Wedi’i ariannu gan grant hael gan Sefydliad ScottishPower, fe wnaeth y perfformiad gydio yng nghalonnau a dychymyg cynulleidfa’r ŵyl, wrth i bum grŵp o Gymru a Swydd Amwythig ddod at ei gilydd i ddiddanu’r dorf gynhyrfus. (rhagor…)

Eisteddfod Llangollen yn Anfon Neges Heddwch i Bawb

Mae Eisteddfod Llangollen yn dathlu deng mlynedd o’i Brosiect Cynhwysiad drwy gomisiynu darn perfformio newydd sbon, SEND A Message, ar ddydd Mercher 4ydd Gorffennaf.

Mae’r prosiect cwbl gynhwysol, sy’n hyrwyddo harmoni a hygyrchedd i bawb yn y celfyddydau perfformio, yn dathlu ei ddegfed blwyddyn gyda darn perfformio a ysgrifenwyd gan y bardd Aled Lewis Evans a’r cyfansoddwr Owain Llwyd.

Yn cael ei berfformio gan blant o Ysgol St Christopher yn Wrecsam, Ysgol Tir Morfa yn Rhyl, Ysgol Plas Brondyffryn yn Sir Ddinbych, unigolion o Goleg Derwen yng Nghroesoswallt a Chôr Rhanbarthol Theatretrain yn y Wyddgrug, mae SEND A Message yn hyrwyddo’r syniad o ledaenu cariad a heddwch drwy gerddoriaeth, cân a dawns ac yn arddangos amrywiaeth eang o dalent o ledled Cymru.

(rhagor…)

Côr amrywiaeth gyda 100 o aelodau’n canu neges o heddwch

Bydd côr arbennig o dros 100 o blant ac oedolion sy’n dathlu amrywiaeth yn cyflwyno neges glir am heddwch byd wrth berfformio mewn gŵyl eiconig.

Daeth cymorth o £8,000 oddi wrth sefydliad elusennol cwmni ynni Scottish Power er mwyn i griw o gorau a grwpiau dawns o bob rhan o Ogledd-ddwyrain Cymru gael arddangos eu talentau yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Mae’r grŵp wedi cymryd yr enw Fel Un / As One, a bydd yn cyflwyno cân o’r enw Un Teulu / One Family, am y tro cyntaf erioed, wedi’i hysgrifennu’n arbennig ar gyfer y digwyddiad gan gyfansoddwr cerdd a geiriau lleol. Mae’r gân yn rhoi’r neges bod modd hyrwyddo heddwch trwy amrywiaeth cerdd a dawns.

Mae’r pum grŵp gwahanol sy’n aelodau o Brosiect Cynhwysiad 2016 yr Eisteddfod wedi bod yn gweithio’n galed ar wahân i berffeithio eu perfformiadau mewn cyfres o weithdai dros y pedwar mis diwethaf. Daeth pawb at ei gilydd am yr ymarfer olaf yn Ysgol Dinas Bran, Llangollen yn barod ar gyfer y ddau ymddangosiad ar ail ddiwrnod yr ŵyl.

Bydd y perfformiadau ar ddydd Iau 7 Gorffennaf, am 10 y bore ar Lwyfan y Post Brenhinol, ac am 1.00 y prynhawn yn y Pafiliwn.

Roedd cyfarwyddwr artistig y prosiect, Lesley Churchill Ward, yn hynod falch o’r ffordd yr aeth yr ymarferion ac yn falch o bawb fu’n cymryd rhan.

Mae Lesley wedi gweithio gyda llu o grwpiau celfyddydau perfformio fel cyfarwyddwr cerdd ac athrawes celf theatr ers gadael Ysgol Theatr Prifysgol Ohio, a dywedodd hyn: “Mae Fel Un yn bendant yn dangos llawer o amrywiaeth.

“Mae’n cynnwys dau grŵp dawns NEW Dance o Wrecsam a grŵp gyda’i ganolfan yn Ysgol Maes Hyfryd, y Flint, ynghyd â chorau All Aloud o Goedpoeth, a Tuned Together o gartref gofal iechyd meddwl ger Dinbych. Ac mae un arall o’r enw KIM – sy’n sefyll am Gwybodaeth, Ysbrydoliaeth, Ysgogiad (Knowledge, Inspiration, Motivation) – wedi’i ffurfio gan elusen iechyd meddwl KIM-Inspire sydd â’i ganolfan yn Nhreffynnon.

Scottish Power sponsors of the Llangollen Eisteddfod Inclusion Project who will be performing at the Llangollen Eisteddfod . Pictured during rehearsals are members of the Kim Choir.

Scottish Power sponsors of the Llangollen Eisteddfod Inclusion Project who will be performing at the Llangollen Eisteddfod . Pictured during rehearsals are members of the Kim Choir.

“Rydym hefyd wedi gweithio’n agos ar y prosiect gyda’r sefydliad datblygu, Dawns Gogledd-ddwyrain Cymru.

“Mae’r perfformwyr yn amrywio o blant mor ifanc â thair oed i bobl dros eu pedwar ugain.

Mae rhai ohonynt yn oedolion gydag awtistiaeth, anawsterau dysgu, anhwylderau personoliaeth cymhleth ac yn ddall. Ond daeth pawb at ei gilydd yn rhyfeddol i harmoneiddio ar y gân Un Teulu, teitl sy’n crynhoi’n berffaith beth yw natur y prosiect hwn.

“Maen nhw wedi bod yn gweithio ar wahân yn annibynnol, a dyma’r tro cyntaf iddyn nhw berfformio fel un grŵp. Bydd y dawnswyr hefyd yn canu a’r cantorion yn symud, gyda’r coreograffi wedi’i drefnu ar eu cyfer.

Ychwanegodd Lesley: “Rwy’n anhygoel o falch o beth maen nhw wedi’i gyflawni. Mae wedi golygu llawer o waith ond hefyd wedi bod yn waith hapus gyda digon o chwerthin ar hyd y ffordd.

“Rydym wedi cael prosiectau cynhwysiad yn gweithio gyda’r Eisteddfod o’r blaen hefyd, ond dyma’r tro cyntaf i ni weithio ar raddfa mor fawr.

“I mi, mae hyn yn dangos bod talent gan bob un person ar y blaned hon. Yn yr hinsawdd wleidyddol fel y mae rŵan mae dod â phobl at ei gilydd i ledaenu neges o heddwch trwy gerdd a dawns yn fwy perthnasol a hanfodol nag erioed.”

Roedd Rheolwr Cyswllt Cymunedol ScottishPower, Roy Jones, yn yr ymarfer a dywedodd ef: “Fe ddechreuodd Sefydliad ScottishPower dair blynedd yn ôl ar gefnogi elusennau ar draws y Deyrnas Unedig.

“Bydd ceisiadau i’r Sefydliad am arian yn cael eu pwyso a’u mesur gan elusenwyr annibynnol, a chafodd 23 o gynlluniau eu cymeradwyo yn 2016, yn cynnwys Prosiect Cynhwysiad yr Eisteddfod.

“Mae hyn yn fater o hyrwyddo celf a diwylliant a chael y sbectrwm cyfan o bobl i gymryd rhan, rhai ohonynt yn bobl gydag anableddau.

“Mae’n brosiect cyffrous iawn a gwerth chweil ac mae’r Sefydliad yn arbennig o falch o fod yn ei gefnogi.”

Mae Ann Loughrey yn un o Ymddiriedolwyr a Swyddog Gweithredol Sefydliad Scottish Power, ac meddai: “Mae gennym ymrwymiad i gefnogi celf a diwylliant, ac ar adeg dathlu 70 mlynedd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen rydym yn hynod falch o fod yn ariannu’r prosiect Fel Un, sydd wedi dod â grŵp at ei gilydd gydag amrywiaeth o wahanol alluoedd. Bydd y rhain yn perfformio darn o gerdd a dawns sydd wedi’i gyfansoddi’n arbennig, ar brif lwyfan yr ŵyl.”

Bydd y darn newydd sydd i gael ei berfformio yn yr Eisteddfod yn cynnwys cerddoriaeth wedi’i gyfansoddi gan y cyfansoddwr ifanc Owain Llwyd, Glyndyfrdwy, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Dinas Bran.

Dywedodd: “Y nod oedd i’r gân Un Teulu adlewyrchu ethos y Prosiect Cynhwysiad a hefyd yr hyn y mae’r Eisteddfod Ryngwladol yn ei gynrychioli o ran hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth trwy gerddoriaeth.

“Mae cyfansoddwr y geiriau a minnau wedi gweithio’n agos gyda’r grŵp, gan fynd i’r gweithdai oedd ganddynt er mwyn cael eu syniadau hwy ar beth ddylai’r darn yma fod yn ymwneud ag ef. Felly mae llawer o’u syniadau dramatig hwy wedi dod yn rhan ohono.

Scottish Power sponsors of the Llangollen Eisteddfod Inclusion Project who will be performing at the Llangollen Eisteddfod . Pictured are Wyne Driscoll, Mark Hinton and Jane Harper during rehearsals .

Scottish Power sponsors of the Llangollen Eisteddfod Inclusion Project who will be performing at the Llangollen Eisteddfod . Pictured are Wyne Driscoll, Mark Hinton and Jane Harper during rehearsals .

“Mae’r gân yn tua 10 munud o hyd a hefyd yn cynnwys elfennau o ddawns, sy’n ei gwneud yn gyffrous iawn.

“Roedd yn anhygoel gweld y pum grŵp yn ei pherfformio gyda’i gilydd am y tro cyntaf, yn neuadd fy hen ysgol yn Llangollen.”

Fe ysgrifennwyd y geiriau ar gyfer sgôr cerddorol Owain gan Aled Lewis Evans, ysgrifennwr o Wrecsam. Dyma ddywedodd Aled: “Rwyf wedi bod i gryn dipyn o’r sesiynau gweithdy i gael ryw syniad o beth fyddai’r perfformwyr yn dymuno cael ei gyfleu yn y geiriau. Datgan pethau fel ‘ymlaen ac at i fyny’ ac am gyflwr y byd y dyddiau hyn. Hefyd daeth y syniad oddi wrth y perfformwyr y dylai hyn fod am undod teulu.”

Ymysg y rhai fydd yn perfformio Un Teulu yn yr Eisteddfod fydd Dorothy McKeand, 67 oed, o Mancot yn Sir y Fflint, sydd wedi bod yn aelod o Gôr KIM yn Nhreffynnon am y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd: “Rwyf wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn am tua thri mis. Ar ôl yr holl weithdai rydym wedi eu gwneud mae’n wych gweld pawb yn dod at ei gilydd fel un grŵp ar gyfer yr ymarfer heddiw.

“Mae’r holl beth wedi bod yn waith caled ond rydan ni hefyd wedi cael llawer o hwyl.

“Bydd llawer o bobl yn dweud nad ydyn nhw’n gallu canu ond mae beth rydan ni wedi’i glywed heddiw’n profi eu bod yn gallu. Mae’r cyfan yn digwydd am ein bod ni wedi cael y gefnogaeth ffantastig oddi wrth Sefydliad ScottishPower.”

Perfformiwr o ben arall y sbectrwm oed yw Ben Edwards, 11 oed, o Dreuddyn ger yr Wyddgrug, Sir y Fflint.

Meddai Ben: “Rwyf wedi bod yn aelod o gôr All Aloud ers pedair blynedd ac mae gweithio ar y prosiect yma i gael cân gwbl newydd wedi bod yn brofiad da.

“Mae wedi bod yn ffantastig gweld pawb yn dod at ei gilydd yn yr ymarfer, ac rwyf wir wedi mwynhau fy hun.

“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at berfformio’r gân o flaen cynulleidfa yn yr Eisteddfod.”

Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Rwy’n gweld y Prosiect Cynhwysiad yn beth pwysig iawn   i’r ŵyl ac mae’r un mwyaf o’i fath rydym wedi bod yn ymwneud ag ef.

“Mae Llangollen i raddau helaeth iawn yn ymwneud ag amrywiaeth, ac rydym yn hynod falch bod y prosiect yn rhoi llwyfan i bob llais.

“Ni fyddai modd i ni wneud hyn heb y gefnogaeth ragorol rydym wedi ei chael oddi wrth sefydliad Scottish Power a gwaith anferth ein cyd-drefnydd artistig, Leslie Churchill Ward.

“Mae hwn yn bendant yn rhywbeth y gall pawb fu’n ymwneud â’r prosiect fod yn falch iawn ohono, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Eisteddfod yn parhau i fod yn llwyfan iddo am flynyddoedd i ddod.”