Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dathlu lansio ei raglen 2020 newydd gyda chyngerdd Nadolig Rhyngwladol yng nghwmni’r tenor Cymreig Rhys Meirion
Archifau Tag Royal International Pavilion
Mared Williams yn ennill teitl Llais Rhyngwladol Theatr Gerddorol 2018
Perfformiwr o Gymru yn cipio teitl mawreddog a gwobr cyfle unwaith mewn oes i ganu yn Eisteddfod y Traeth Aur yn Awstralia
Mae perfformiwr o Gymru wedi ennill teitl Llais Rhyngwladol Theatr Gerddorol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar gyfer 2018.
Llwyddodd Mared Williams, 21 mlwydd oed, i syfrdanu cynulleidfaoedd a’r beirniad gyda’i pherfformiadau o “So Big / So Small”, “Pulled” o The Addams Family a “Being Alive” ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol yn rownd derfynol y gystadleuaeth ddydd Mercher 4 Gorffennaf.
Galwad Olaf i gystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn galw ar unawdwyr ifanc talentog i gofrestru cyn y dyddiad cau ar 2il Mawrth er mwyn cystadlu am y teitl mawreddog.
Mae soprano “penigamp” a enillodd un o brif wobrau mewn gŵyl ryngwladol yn annog unawdwyr ifanc o bob rhan o’r byd i gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth eleni, er mwyn cael cyfle i lansio eu gyrfaoedd ar y llwyfan rhyngwladol.
Yn ôl Sian Dicker, 27, bu ennill gwobr Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn hwb anferth i’w gobeithion i fod yn gantores opera lwyddiannus.
“Ysbryd hylifol… dyna beth yw hyn”
Y canwr byd enwog Gregory Porter yn canmol Eisteddfod Ryngwladol yn ystod noson o ganu jazz a soul.
Bu’r canwr jazz, blues a soul Gregrory Poter yn canu clodydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ystod ei berfformiad gwefreiddiol yno ar ddydd Gwener 7fed Gorffennaf. Fe ddiolchodd i’r Eisteddfod am ei hymroddiad i ddod a phobl at ei gilydd yn ysbryd cariad a heddwch ac am gynorthwyo parhad cerddoriaeth werin.
Wrth siarad o lwyfan y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol, fe wnaeth Porter hefyd gysylltu negeseuon dwy o’i ganeuon enwocaf gydag ethos yr ŵyl flynyddol. “Mae ‘na deimlad da yma”, meddai.
Manic Street Preachers i chwarae gig fwyaf erioed Llanfest
Y band byd-enwog i berfformio ar noson olaf Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, nos Sul 9fed Gorffennaf 2017.
Yn syth o daith lwyddiannus i nodi 20 mlynedd ers cyhoeddi eu pedwerydd albym ‘Everything Must Go’, mae Manic Street Preachers wedi cyhoeddi y bydden nhw’n perfformio yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen – wrth i’r ŵyl ddathlu ei phen-blwydd yn 70ain.
Y seren opera byd enwog Bryn Terfel ar drywydd y chwedlonol Luciano yn Llangollen
Mae’r canwr opera byd-enwog Bryn Terfel wedi galw heibio Llangollen – er mwyn ffilmio rhaglen deledu newydd a mynd ar drywydd y tenor Eidalaidd chwedlonol Luciano Pavarotti.