Galwad Olaf i gystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn galw ar unawdwyr ifanc talentog i gofrestru cyn y dyddiad cau ar 2il Mawrth er mwyn cystadlu am y teitl mawreddog.

Mae soprano “penigamp” a enillodd un o brif wobrau mewn gŵyl ryngwladol yn annog unawdwyr ifanc o bob rhan o’r byd i gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth eleni, er mwyn cael cyfle i lansio eu gyrfaoedd ar y llwyfan rhyngwladol.

Yn ôl Sian Dicker, 27, bu ennill gwobr Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn hwb anferth i’w gobeithion i fod yn gantores opera lwyddiannus.

Dywed y trefnwyr bod lliaws o gystadleuwyr eisoes wedi cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth – fydd yn rhoi cyfle i rai o gantorion ifanc gorau’r byd fynd benben am Darian Pendine a’r brif wobr o £6,000, yn ogystal â £2,000 yr un i’r ail a’r trydydd.

Bob blwyddyn, mae tref wledig Llangollen yn Nyffryn Dyfrdwy yn croesawu tua 4,000 o berfformwyr rhyngwladol a chymaint â 50,000 o ymwelwyr i’r ŵyl gerddoriaeth a dawns.

Un o uchafbwyntiau’r rhaglen wythnos o hyd yw gwobr Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine, sy’n arddangos talentau ifanc ynghyd a pherfformwyr dawnus eraill.  

Fe fydd y mudiad gofal Parc Pendine, sy’n rhoi pwyslais mawr ar y celfyddydau, yn cyfrannu £5,000 i’r wobr unwaith eto eleni gyda’r gweddill yn dod gan sefydliad Syr Bryn Terfel ac Eisteddfod Llangollen.

Yn dilyn ei phrofiad y llynedd, mae Sian o Trowbridge yn Wiltshire yn annog unawdwyr ifanc eraill i beidio anghofio am y dyddiad cau ar 2il Mawrth.

Dywedodd Sian: “Mae cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine yn blatfform perffaith i unawdwyr brwdfrydig sydd eisiau lansio neu roi hwb i’w gyrfaoedd cerddorol.

“Er bod y wobr ariannol wedi bod yn fuddiol iawn, mae’r gwerth gwirioneddol yn dod o’r profiad unigryw o rannu llwyfan gyda pherfformwyr safonol, dysgu gan eraill a chreu cysylltiadau gwerthfawr.

“Mae’r Eisteddfod Ryngwladol mor groesawgar ac yn cynnwys perfformwyr o bob cefndir. Rwy’n annog unrhyw unawdydd brwd i gofrestru a mwynhau’r holl fanteision mae’r gystadleuaeth ryngwladol arbennig hon yn medru ei gynnig.”

Ers i’w pherfformiad blesio’r beirniaid – y soprano enwog Elin Manahan Thomas a’r cyfansoddwr Gareth Jones – mae Sian wedi defnyddio’r wobr ariannol i gyllido blwyddyn olaf ei chwrs Meistri yn y Guildhall School of Music and Drama. Mae hi hefyd yn cydweithio gyda’r pianydd Stephen Rose, sef cyfeilydd cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine y llynedd.

Yn ddiweddar, bu i berchnogion Parc Pendine Mario Kreft MBE a’i wraig, Gill, sefydlu Ymddiriedolaeth Gelfyddydol a Chymunedol Pendine – sy’n cefnogi dros 20 o sefydliadau, gan gynnwys Eisteddfod Llangollen.

Dywedodd Mario: “Roedd safon y gystadleuaeth y llynedd yn anhygoel ac roedd Sian yn gwbl haeddiannol o’r wobr gyntaf.

“Ein bwriad wth gefnogi’r gystadleuaeth gyda Syr Bryn Terfel yw darparu carreg gamu i gantorion ifanc gwych o bob rhan o’r byd, er mwyn iddyn nhw fedru cyflawni breuddwyd a sefydlu gyrfa ar y llwyfan rhyngwladol.

“Mae Syr Bryn yn brawf bod talent eithriadol yn medru mynd â rhywun yn bell ac rydym yn falch iawn o chwarae ein rhan i helpu cantorion ifanc dawnus i ddilyn yr un trywydd.

“Mae’r gystadleuaeth yn cyd-fynd yn berffaith gyda’n hethos ym Mharc Pendine gan fod y celfyddydau, a cherddoriaeth yn benodol, yn elfen bwysig ym mhob peth a wnawn wrth gyfoethogi bywydau ein preswylwyr a’n staff.”

Eleni, bydd rownd derfynol y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar ddydd Mercher 4ydd Gorffennaf fel rhan o gyngerdd Y Casgliad Clasurol. Bryd hynny, fe fydd cyfle hefyd i weld cyfarwyddwr cerdd yr ŵyl, Vicky Yannoula, sy’n bianydd medrus, yn perfformio ar lwyfan y pafiliwn eiconig am y tro cyntaf.

Fe fydd hi’n ymuno gyda phianydd dawnus arall, Peter Jablonski, i berfformio “casgliad cerddorol deinamig a phwerus”.

Yn ôl Vicky: “Mae enw da cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine yn cynyddu bob blwyddyn ac mae safon y cystadleuwyr hyd yn hyn wedi bod yn eithriadol. Rwy’n edrych ymlaen at rannu llwyfan gyda’r unawdwyr talentog mewn dathliad o ddau offeryn pwerus, y llais a’r piano.”

Fe fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal dros ddau ddiwrnod yn ystod gŵyl 2018. Yn y rhagbrawf, bydd gofyn i gystadleuwyr berfformio rhaglen gyferbyniol o hyd at wyth munud sy’n cynnwys Oratorio/Opera/Lieder/Cân yn yr iaith wreiddiol. Ar gyfer y rownd derfynol, fe fydd unawdwyr dewisedig yn cael eu gwadd i lwyfan y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol er mwyn perfformio datganiad o hyd at 11 munud.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un dros 19 mlwydd oed a than 28 mlwydd oed ar ddiwrnod y gystadleuaeth. Y diwrnod olaf i gofrestru fydd dydd Gwener 2il Mawrth ac fe ellir gwneud cais ar wefan cyfranogwyr yr Eisteddfod: http://eisteddfodcompetitions.co.uk/

Mae tocynnau ar gyfer Y Casgliad Clasurol a phob cyngerdd arall ar gael yma neu trwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01978 862001.