Rhys Meirion yn Dychwelyd i Langollen i Gynnal Cyngerdd Nadolig

Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dathlu lansio ei raglen 2020 newydd  gyda chyngerdd Nadolig Rhyngwladol yng nghwmni’r tenor Cymreig Rhys Meirion a’r arweinydd Nic Parry, ar ddydd Sul 15fed Rhagfyr.

Fe fydd y tenor, sy’n hen ffrind i’r ŵyl, yn dychwelyd i berfformio yn y gyngerdd, sy’n anelu at godi pres i gyllido’r ŵyl. Yn rhannu llwyfan gyda Rhys Meirion a’i lais melfedaidd fydd y gantores o Wrecsam, Elan Catrin Parry. Bu i’r ferch ysgol gyfareddu’r gynulleidfa’r llynedd gyda’i pherfformiad o’i sengl gyntaf, ‘Angel’, ac mae disgwyl iddi hoelio sylw’r Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol unwaith eto eleni gyda’i halawon Nadoligaidd.

Bydd y gynulleidfa hefyd yn clywed gan y pianydd talentog Julian Gonzales, Dawnswyr Gwerin Ryngwladol a Band Pres Ysgol Dinas Brân, sy’n alelodau o’r ysgol leol.

Wrth drafod y digwyddiad, dywedodd Rhys Meirion: “Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ganu ym mhafiliwn eiconig Llangollen unwaith eto.

“Mae gan yr Eisteddfod le arbennig iawn yn fy nghalon. Dwi’n cofio gweld Pavarotti yn perfformio yno yn y 90au ac roedd hynny yn un o’r adegau wnaeth fy ysbrydoli i gymryd y cam nesaf a dilyn gyrfa mewn cerddoriaeth.”

Yn ôl Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod,  Dr Edward Rhys-Harry: “Mae’n fraint cael croesawu’r tenor byd enwog, Rhys Meirion, i Langollen ar gyfer ein cyngerdd Nadolig. Rydym yn gobeithio y bydd y gynulleidfa yn mwynhau’r arlwy Nadoligaidd o dalentau cerddorol arbennig.

“Mae’n addo i fod yn noson gofiadwy o berfformiadau gwych fydd yn siwr o adael pawb yn teimlo’n Nadoligaidd.”

Bydd y noson hefyd yn cynnwys y fenter newydd, Groto ‘Y Rhodd o Roi’. Y bwriad yw annog gwestai i gyfrannu eitemau bwyd i’w rhoi i dan y goden Nadolig, a fydd yna’n cael eu rhoi i Fanc Bwyd Llangollen.

Dywedodd Elise Jackson, Swyddog Ymgysylltu’r Gymuned yr Eisteddfod Ryngwladol: “Mae’r Nadolig yn amser i ddathlu heddwch ac ewyllys da – gwerthoedd craidd sy’n cael eu hybu o fewn ein gŵyl. Rydym yn falch iawn o lansio elfen newydd i’n cyngerdd carolau, y fenter ‘Rhodd o Roi’ ar y cyd ȃ’r banc bwyd lleol. Rydym yn annog aelodau’r gynulleidfa i ddod a bwydydd sych gyda nhw ar y noson i helpu cefnogi pobl leol sy’n ei chael hi’n anodd darparu ar gyfer eu teuluoedd dros gyfnod y Nadolig.”

Bydd tocynnau ar gyfer y gyngerdd ar gael o Ŵyl Fwyd Llangollen ar Hydref 19eg-20fed ym Mhafiliwn Llangollen. Cant eu gwerthu am bris o £13 i oedolion a £5 i blant (plant o dan 5 am ddim), a byddent hefyd ar gael o Swyddfa’r Eisteddfod a Chanolfan Ymwelwyr Llangollen neu ar lein yma.