Heddiw, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi derbyn grant gwerth £19,900 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer prosiect treftadaeth cyffrous, Archifo’r Gorffennol. Mae’r prosiect yn bosib diolch i’r arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, a’r gobaith yw mai dyma fydd y cam cyntaf i gasglu a digideiddio’r cyfoeth o ddeunydd archif sy’n ymwneud ag Eisteddfod Llangollen, fel y gall pawb ei fwynhau.
Gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd y prosiect yn galluogi Eisteddfod Llangollen i gyflogi archifydd a fydd yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a phlant o Ysgol Dinas Brân i ddod â hanes Eisteddfod Llangollen yn fyw. Bydd y gwaith yn cynnwys datblygu system archifau ar-lein cynaliadwy ac ymestynnol, adnoddau addysgol ac arddangosfeydd i’w defnyddio yn y gymuned a ffilm fer am hanes Eisteddfod Llangollen.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol gyntaf yn Llangollen yn 1947 fel ffordd o ddod â phobl ynghyd ar ôl erchyllterau’r Ail Ryfel Byd. Dros 70 mlynedd Eisteddfod Llangollen mae amrywiaeth enfawr o ffotograffau, dogfennau, sain a fideo wedi cael eu cynhyrchu a’u dosbarthu ar draws y byd. Bydd y prosiect hwn yn dechrau’r broses o gofnodi a dod â’r cyfoeth hwn o ddeunydd archifol at ei gilydd mewn un lleoliad, fel ei fod yn llawer mwy hygyrch ac y gall pawb sydd â diddordeb ymchwilio iddo.
Wrth siarad am y wobr, dywedodd Barrie Potter, Cadeirydd y Pwyllgor Archifau “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi derbyn y gefnogaeth hon diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ac rydym yn hyderus y bydd y prosiect yn sicrhau bod hanes Eisteddfod Llangollen ar gof a chadw ac yn cael ei ddathlu”.
Dywedodd Richard Bellamy, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cymru, “Ni fu archifau erioed mor bwysig. Maen nhw’n darparu adnodd mor werthfawr i unrhyw un sydd eisiau ymchwilio i’w gorffennol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn gallu cefnogi prosiectau fel Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen – Archifo’r Gorffennol sy’n llawn gwybodaeth am sut beth oedd bywyd a sut mae hynny wedi llunio pwy ydym ni heddiw.”
Ynglyn â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Gan ddefnyddio arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol, rydym yn Ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau treftadaeth yn y DU i greu newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau, heddiw ac yn y dyfodol. www.heritagefund.org.uk.
Dilynwch @HeritageFundUK ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwych #NationalLotteryHeritageFund
I ddysgu mwy am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ewch i www.llangollen.net