Fe ddaeth llwyfan Eisteddfod Llangollen yn fyw gyda melodïau gwerin fyrlymus nos Iau, diolch i fand Jamie Smith, Mabon, a’u steil chwareus wrth gyflwyno casgliad egnïol o gerddoriaeth werin Gymraeg traddodiadol.
Mabon oedd y prif westai noson Dathliad Rhyngwladol yr ŵyl wnaeth arddangos carnifal bywiog o ddiwylliannau. Fe ddaeth rhai o dalentau gorau’r byd at ei gilydd ar gyfer y noson, lle cynhaliwyd Gorymdaith y Cenhedloedd gyda pherfformwyr rhyngwladol yn gwau ei ffordd drwy’r gynulleidfa gyda baneri eu gwledydd cartref, wrth ddathlu prif werthoedd yr Eisteddfod o undod a chyfeillgarwch rhyngwladol.
O dan arweiniad Jamie Smith, sy’n canu a chwarae’r acordion, mae pumawd talentog Mabon wedi sefydlu ei hunain fel un o fandiau byw mwyaf poblogaidd y sin gerddoriaeth werin draddodiadol. Bu i’r band serennu mewn cyfansoddiad gwreiddiol o gerddoriaeth werin fywiog, oedd yn cynnig cyfuniad o jig Geltaidd a geiriau hwyliog.
Ar ôl derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol am berfformiadau egnïol ar draws y byd, fe wnaeth Mabon gyflwyno dehongliadau modern o alawon gwerin Cymraeg gydag egni diddiwedd, wrth i’r gynulleidfa fwynhau y bedwaredd noson o gerddoriaeth fyw yn yr Eisteddfod.
Cyn y perfformiad, fe wnaeth Mabon gynnal digwyddiad dawns byrfyfyr. Gofynnwyd i’r gynulleidfa ymuno â nhw i ddawnsio i alawon Cymreig adnabyddus, a gyflwynwyd gyda sain fodern. Fe ddaeth yr ŵyl gyfan yn fyw wrth i gystadleuwyr, perfformwyr, ymwelwyr a threfnwyr ymuno yn yr hwyl a chymryd rhan yn y Twmpath, sef digwyddiad lle daw pobl ynghyd i ddawnsio gwerin.