Ymddangosiad cyntaf yng Nghymru i’r Maestro Ifanc

Mae wedi bod yn cyffroi’r byd arwain, ac erbyn hyn mae’r arweinydd Prydeinig, James Hendry, yn dod â’i arddull unigryw i Langollen 2019 yn ei ymddangosiad cyntaf yng Nghymru ar nos Fawrth y 7fed o Orffennaf.

Roedd Hendry, a fagwyd yn Kingston upon Hull, yn un o’r myfyrwyr cyntaf i gael ei dderbyn ar Gerddorion Ifanc Swydd Efrog ac aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr. Yn 2016 ymunodd â’r Tŷ Opera Brenhinol nodedig yn Llundain lle bu’n gweithio gyda rhai o sêr y diwydiant gan gynnwys y soprano blaenllaw Anna Netrebko. Mae ei arddull arwain amrwd ac emosiynol yn cael ei ysbrydoli gan ei fentor a’i ysbrydoliaeth, Antonio Pappano, un o ffigurau mwyaf adnabyddus byd opera cyfoes, a ganmolwyd am ei berfformiadau carismataidd ac ysbrydoledig mewn repertoire symffonig ac operatig.

Meddai Hendry: “Rwy’n rhywun sy’n dangos fy mheimladau’n agored  a bydd cynulleidfa Llangollen yn profi drostynt eu hunain fy arddull ‘verissimo’ o arwain, sy’n dilyn gwirionedd y gerddoriaeth, gan ddefnyddio fy nghorff i gyd, nid dim ond fy maton, i gysylltu gydag ystyr y darn, y gerddorfa a’r cantorion. Mae llawer o arweinwyr yn hyfforddi am flynyddoedd gan ddefnyddio’r baton i arwain eu perfformiad, i mi mae’r angerdd yn y ddrama yn ogystal â’r gerddoriaeth, mae’r baton yn eilbeth.”

Eleni yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen bydd yn perfformio gyda Rolando Villazón, un o brif denoriaid y byd am y tro cyntaf.

“Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar i weithio gyda Rolando. Mae’n bwriadu dod â rhai pethau annisgwyl i’w berfformiad, gan gynnwys cân Verde annisgwyl. Mae Verde yn fwy adnabyddus fel cyfansoddwr nag ysgrifennwr caneuon, felly bydd hyn yn arbennig iawn. Mae Rolando yn enwog am ei hyblygrwydd a’i angerdd, felly gyda’n gilydd byddwn yn tanio’r llwyfan gyda’n hangerdd a’n hegni pur.

“Rwyf hefyd yn gyffrous iawn i weithio gyda’r soprano telynegol lleol Rhian Lois am y tro cyntaf.”

Mae Hendry yn addo y bydd ei gyngerdd ar y nos Fawrth yn cynnig tipyn o bopeth operatig, gan gynnig repertoire unigryw i’w westeion drwy opera, clasurol a hyd yn oed theatr gerdd. Ac ychwanegodd, “Bydd yn berfformiad angerddol sy’n cynnig taith ysbrydoledig i gefnogwyr opera hen a newydd.”

Yn ogystal â’r repertoires operatig, mae hefyd yn bwriadu taflu goleuni ar y gerddorfa, gan archwilio nifer o eitemau cerddorfaol yn unigol.

Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer pob cyngerdd gyda’r nos a gellir eu prynu ar-lein yn www.llangollen.net neu drwy’r swyddfa docynnau ar 01978 862001.