James Hendry

Ymunodd yr arweinydd Prydeinig, James Hendry, â Rhaglen Artistiaid Ifanc Jette Parker yn y Tŷ Opera Brenhinol ar ddechrau tymor 2016/17. Yn ystod ei Dymor cyntaf bu’n arwain Oreste gan Handel a Pherfformiad yr Haf gan Artistiaid Ifanc, yn ogystal ag ymuno â’r staff cerdd ar gyfer Der Rosenkavalier, Adriana Lecouvreur, Madama Butterfly, Otello a Turandot ar gyfer yr Opera Brenhinol a Les Enfants Terribles ar gyfer y Bale Brenhinol. Yn nhymor 2017/18 bu’n arwain La Tragédie de Carmen yn ogystal ag ymuno â’r staff cerdd ar La Boheme, Tosca, Rigoletto, Macbeth a hefyd arwain Nawfed Symffoni Beethoven gyda Sinfonia’r Southbank.

Magwyd Hendry yn Kingston upon Hull, ac ef oedd un o’r myfyrwyr cyntaf i gael ei dderbyn ar raglen Cerddorion Ifanc Swydd Efrog, lle bu’n astudio piano gyda Robert Markham yn ogystal ag astudiaethau mewn cerddoriaeth siambr, cyfeiliant, cerddoriaeth a chyfansoddi. Aeth ymlaen i astudio’r piano gyda Helen Krizos yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr (RNCM) ac fel répétiteur gyda Kevin Thraves yn adran Astudiaethau Lleisiol RNCM.  Mae ei wobrau’n cynnwys medal y Wobr Genedlaethol yng Ngwobrau Addysg Prydain. Mae wedi gweithio’n rheolaidd gyda thîm corawl Hallé, gan gynnwys gweithio fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Côr Ieuenctid Hallé a gweithio fel Hyfforddwr Lleisiol a Chyfeilydd ar gyfer Academi Côr Hallé. Ef yw Cyfarwyddwr Cerddorol Cwmni Opera Cenedlaethol Gilbert and Sullivan, ac mae wedi arwain nifer o deithiau cenedlaethol ar draws y DU gan arwain gweithiau cyfan G&S.

 

Hyd yma yn nhymor 2018/19, gwahoddwyd James i ddychwelyd i staff cerdd y Tŷ Opera Brenhinol i gynorthwyo ar gynyrchiadau Hansel und Gretel, La Traviata, Faust, La Forza del Destino, Andrea Chenier a Le Nozze di Figaro. Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf hefyd fel arweinydd gydag English National Opera, gan arwain Lucia di Lammermoor gan Donizetti.  Yn y dyfodol ago sbydd yn gweithio gydag Opera North a Scottish Opera.