Rhian Lois

Mae’r soprano o Gymru, Rhian Lois, wedi perfformio a derbyn clod mawr ar lwyfan  English National Opera mewn rhannau fel Adele Die Fledermaus, Nerine yn Medea gan Charpentier ac Atalanta yn Xerxes. Yn 2015, gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, fel Papagena, ac yn haf 2016 ymddangosodd am y tro cyntaf yng Ngogledd America fel Zerlina yn Santa Fe.

Yn 2018/19 bydd Lois yn ymddangos am y tro cyntaf mewn sawl tŷ opera nodedig  ac yn perfformio nifer o rannau sylweddol, gan gynnwys Nanetta yn Falstaff gan Verdi – tŷ opera i’w gyhoeddi, a Valencienne yn The Merry Widow gan Lehar. Bydd hefyd yn perfformio mewn cyngerdd yng Ngŵyl Rhyngwladol Enescu.

Roedd 2017/18 yn dymor o ymddangosiadau am y tro cyntaf, gan gynnwys yn y Grand Théâtre de Mae Genève fel Angellka ym mhremiere Ewropeaidd Figaro gets a Divorce, a dwy ran gydag English National Opera fel Susanna yn Le Nozze di Figaro a’r Governess yn The Turn of the Screw.

Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys Susanna a Barbarina Le Nozze di Figaro, premiere rhyngwladol Figaro Gets a Divorce, ac Adele yn Die Fledermaus ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru. Roedd ei pherfformiadau cyngerdd yn cynnwys datganiad ar gyfer y Sefydliad Gwobrau Opera Rhyngwladol yn ogystal â pherfformiad yn Neuadd Albert ochr yn ochr â Chôr Coleg y Brenin Caergrawnt fel rhan o Ŵyl Nadolig Raymond Gubbay.

Wedi graddio o Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Y Coleg Cerdd Brenhinol a’r Stiwdio Opera Cenedlaethol, mae ei hymddangosiadau hefyd yn cynnwys Atalanta yn Xerxes, Musetta yn La Boheme, Frasquita yn Carmen, Dynes Ifanc yn Between Worlds, Nith Cyntaf yn  Peter Grimes, Papagena yn The Magic Flute ac Yvette yn The Passenger, i gyd ar gyfer ENO. Mae hefyd wedi canu rhan Papagena yn y Tŷ Opera Brenhinol, Pamina yn The Magic Flute ar gyfer Nevill Holt ac Eurydice yn Orpheus gan Telemann gyda Classical Opera yng Ngŵyl Handel Llundain.

Mae galw mawr amdani ar y llwyfan cyngherddau, ac mae wedi perfformio Requiem Mozart a Messiah Handel gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham a Simon Halsey, ‘Igor Fest’rhaglen Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham o waith Stravinsky, Requiem Brahms yn Milton Court y Barbican, Messiah Handel yng Nghaergrawnt; Carmina Burana yn Neuadd Brangwyn; a chyngerdd o Gampweithiau Mozart yn y Royal Festival Hall; a pherfformiad o gerddoriaeth ar gyfer A Midsummer Night’s Dream gan Mendelssohn gydag Edward Gardner a Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham a recordiwyd gan Chandos.