Rolando Villazón

Tenor

Drwy ei berfformiadau unigryw, hudolus gyda thai opera a cherddorfeydd enwocaf y byd, mae Rolando Villazón wedi llwyddo i sicrhau ei hun fel un o berfformwyr mwyaf poblogaidd a mawr ei glod gan feirniaid y byd cerddorol ac fel un o brif denoriaid ein cyfnod.  Cafodd ei ddisgrifio fel y mwyaf dymunol o divos y dydd (The Times) gyda llais gwrol gwych…grandezza, gwychder a phŵer (Süddeutsche Zeitung), mae Rolando Villazón ymhlith artistiaid mwyaf amryddawn ein cyfnod, gan gydbwyso gyrfaoedd llwyddiannus fel cyfarwyddwr llwyfan, nofelydd a seren deledu yn ogystal â’i yrfa ar y llwyfan.

Rolando Villazón yw un o berfformwyr mwyaf poblogaidd ei genhedlaeth, ac mae’n westai rheolaidd ar y llwyfannau enwocaf, gan gynnwys Tai Opera Berlin, Munich a Fiena, Teatro alla Scala Milan, Tŷ Opera Brenhinol Covent Garden, a Metropolitan Opera Efrog Newydd, yn ogystal â Gŵyl Salzburg.  Mae’n cydweithio’n rheolaidd gyda cherddorfeydd ac arweinwyr enwocaf y byd, megis Daniel Barenboim ac Yannick Nézet-Séguin ar lwyfannau cyngerdd ym mhob cwr o’r byd.

Fe gyfarwyddodd am y tro cyntaf yn 2010 yn Lyon ac ers hynny mae wedi cyfarwyddo cynyrchiadau i Festspielhaus Baden-Baden, Deutsche Oper Berlin, Vienna Volksoper ac i Deutsche Oper am Rhein Düsseldorf.  Mae Rolando Villazón,  sydd wedi bod yn artist recordio gyda Deutsche Grammophon ers 2007, wedi recordio mwy na 20 CD a DVD sydd wedi ennill gwobrau lu.  Ef hefyd yw’r Chévalier de l’Ordre des Arts et des Lettres yn Ffrainc, mae’n llysgennad i elusen Red Noses Clown Doctors International, ac yn aelod o Collège de Pataphysique Paris. Yn 2013, cyhoeddwyd nofel gyntaf Rolando Villazón “Malabares” yn Sbaen.  Cyhoeddwyd cyfieithiadau Almaeneg a Ffrangeg o’r nofel yn 2014. Cyhoeddwyd ei ail nofel “Paladas de sombra contra la oscuridad” (“Lebenskünstler”) yn yr Almaen ym mis Ebrill 2017.

Ar ddechrau 2017, penodwyd Rolando Villazón yn llysgennad Sefydliad Mozarteum Salzburg ac ym mis Gorffennaf 2017, cafodd ei enwi’n gyfarwyddwyr artistig Wythnos Mozart Salzburg o 2019 ymlaen.

www.rolandovillazon.com