Fe fydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnal digwyddiad Gŵyl Ddewi ar thema ryngwladol ddydd Gwener 1af Mawrth, er mwyn codi arian i gynorthwyo cystadleuwyr o dramor i deithio i’r ŵyl.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yn ŵyl, Dr Edward-Rhys Harry: “Bwriad y digwyddiad Gŵyl Ddewi yw helpu cyllido’r bwrsari sy’n sicrhau ein bod yn medru croesawu cymaint o gystadleuwyr rhyngwladol ac sy’n bosib i Langollen fis Gorffennaf. Mae’n wych gweld perfformwyr lleol mor dalentog yn rhoi eu hamser i gefnogi’r achos.
“Digwyddiad traddodiadol fydd hwn yn bendant, fydd hefyd yn esgus perffaith i ddathlu diwylliant Cymreig ac amrywioldeb rhyngwladol.”
Fe fydd y Gymanfa Ganu draddodiadol, lle bydd y gynulleidfa yn cyd-ganu emynau, yn cael ei arwain gan Leigh Mason o Gôr Meibion Froncysyllte, ond fe fydd yn cynnwys elfen ryngwladol ychwanegol yn ogystal ag eitemau cerddorol gan Fand Pres Llangollen a Chantorion James Lambert.
Cyn-gadeirydd Eisteddfod Llangollen, Gethin Davies, fydd Meistr y Seremonïau ac mae disgwyl iddo rannu negeseuon o gefnogaeth gan gystadleuwyr rhyngwladol yr ŵyl, yn ogystal â Llywydd yr Ŵyl a’r dyngarwr, Terry Waite CBE.
Mae Dydd Gŵyl Dewi yn ddiwrnod sydd wrth galon nifer o Gymry. Ar y diwrnod cyntaf o fis Mawrth, mae trigolion mewn pentrefi a threfi ar hyd a lled y wlad, yn ogystal â Chymunedau Cymreig o bedwar ban byd, yn dathlu bywyd y nawddsant trwy gynnal sawl digwyddiad arbennig sy’n adlewyrchu hanes a diwylliant Cymru.
Yn ôl Cadeirydd Eisteddfod Llangollen, Dr Rhys Davies: “Wedi cyfnod prysur ond cyffrous iawn yn Eisteddfod Llangollen, wrth i ni gyhoeddi ein lein-yp llawn ar gyfer 2019 a rhoi’r tocynnau cyntaf ar werth, rydym yn edrych ymlaen at gynnal a rhoi ein stamp ein hunain ar y traddodiad cenedlaethol yma.
“Rydym yn hynod falch o’r lein-yp eleni a bydd ein digwyddiad Gŵyl Ddewi yn ffordd arall o ddod a phobl at ei gilydd i fod yn rhan o ddathliad cerddorol, sef prif nod yr Eisteddfod. Disgwylir iddi fod yn noson benigamp”.
Gellir archebu tocynnau ar gyfer y dathliad Dydd Gŵyl Dewi o Swyddfa Docynnau’r Eisteddfod trwy alw 01978 862001 neu eu prynu o Ganolfan Gwybodaeth Ymwelwyr yn Llangollen. £5 yw cost tocyn, sy’n cynnwys mynediad, rhaglen a lluniaeth ysgafn.
Cynhelir y digwyddiad am 7 yr hwyr yn Eglwys St Collen, Llangollen, gyda chroeso cynnes i bawb.